Bwrw golwg dros eich Crynodeb Treth Blynyddol
Bwrw golwg dros eich Crynodeb Treth Blynyddol a dod i wybod sut mae’r llywodraeth yn cyfrifo’ch Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol a’u gwario.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn bwrw golwg dros eich Crynodeb Treth Blynyddol. Mae’r crynodeb yn dangos:
- eich incwm trethadwy o bob ffynhonnell roedd CThEM yn gwybod amdanynt ar yr adeg y cafodd ei baratoi
- y cyfraddau a ddefnyddir i gyfrifo’ch Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol
- dadansoddiad o sut mae llywodraeth y DU yn gwario’ch trethi — mae hyn yn gwneud gwariant y llywodraeth yn fwy tryloyw
Gall y crynodeb fod yn wahanol i gyfrifiadau treth eraill gan CThEM. Gallai hyn fod oherwydd y canlynol:
- bod newid yn eich amgylchiadau
- bod rhai ffynonellau incwm heb eu cynnwys
Mae’r crynodeb er gwybodaeth yn unig. Nid oes yn rhaid i chi gysylltu â CThEM na’ch cyflogwr.
Nid yw’r crynodeb yn dystiolaeth o incwm. Fel tystiolaeth o incwm, bydd angen y canlynol arnoch:
-
ffurflen P60(yn Saesneg) gan eich cyflogwr
-
cyfrifiad treth SA302(yn Saesneg)
Cyn i chi ddechrau
I fwrw golwg dros eich Crynodeb Treth Blynyddol, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Os nad oes gennych ID Defnyddiwr eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Os nad oes gennych grynodeb
Ni fydd gan bawb Grynodeb Treth Blynyddol.
Rhagor o wybodaeth
Dysgwch sut y cyfrifwyd gwariant cyhoeddus yn y crynodebau treth blynyddol(yn Saesneg).
Cyfrifwch eich Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol(yn Saesneg) i ddysgu faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol y gallech ei dalu’r flwyddyn dreth hon
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 February 2024 + show all updates
-
Guidance has been updated to show that the Annual Tax Summary is not evidence of income you have received.
-
Information has been updated on how to find a breakdown of how public spending has been calculated.
-
The page has been updated and a link to HM Treasury’s Public Spending Statistics page has been added.
-
The 'How you'll get your tax summary' section has been updated to include information about PAYE notice of coding, and how to opt out of receiving a PAYE annual tax summary.
-
This guide has been updated to advise you of the introduction of the Scottish Rate of Income Tax from April 2016.
-
First published.