Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Tachwedd 2020
Cyhoeddwyd 20 Ionawr 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2020
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £180,229
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 7.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.0%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 132.4
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2020 am 9.30am ddydd Mercher 17 Chwefror 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 7.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020, i fyny o 6.3%, yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n arafach na chyfradd flynyddol y DU sef 7.6% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.0% rhwng Hydref a Thachwedd 2020, o’i gymharu â chynnydd o 1.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref a Thachwedd 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.4% rhwng Hydref a Thachwedd 2020.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro ar gyfer nifer y trafodion ym Medi 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 28.8% yng Nghymru, o 3,539 i 2,518. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 11.4% o 79,830 i 70,750 dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob un o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Nhachwedd 2020 o’i gymharu â Thachwedd 2019. Gwelwyd y twf cryfaf yng Nghaerffili, gan godi 9.7% i £153,000 yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020. Mewn cyferbyniad, dangosodd Merthyr Tydfil y twf arafaf yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020, ar 0.0% gyda phrisiau tai cyfartalog yn £115,000.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras y twf blynyddol mwyaf, gan godi 7.8% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020 i £141,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 1.9% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020 i £119,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 7.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020, i fyny o 6.3% yn Hydref 2020.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Tachwedd 2020 | Tachwedd 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £161,576 | £152,155 | 6.2% |
Blaenau Gwent | £95,002 | £91,772 | 3.5% |
Bro Morgannwg | £236,141 | £227,602 | 3.8% |
Caerdydd | £222,107 | £211,943 | 4.8% |
Caerffili | £152,503 | £139,041 | 9.7% |
Casnewydd | £193,067 | £186,897 | 3.3% |
Castell-nedd Port Talbot | £128,565 | £125,224 | 2.7% |
Ceredigion | £200,500 | £186,928 | 7.3% |
Conwy | £184,800 | £170,477 | 8.4% |
Gwynedd | £170,298 | £163,304 | 4.3% |
Merthyr Tudful | £114,704 | £114,671 | 0% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £169,356 | £158,277 | 7% |
Powys | £203,316 | £192,332 | 5.7% |
Rhondda Cynon Taf | £129,768 | £118,357 | 9.6% |
Sir Benfro | £189,907 | £180,469 | 5.2% |
Sir Ddinbych | £171,246 | £161,501 | 6% |
Sir Fynwy | £281,611 | £275,458 | 2.2% |
Sir y Fflint | £185,421 | £170,636 | 8.7% |
Sir Gaerfyrddin | £165,308 | £153,484 | 7.7% |
Tor-faen | £156,372 | £149,000 | 4.9% |
Wrecsam | £163,858 | £160,335 | 2.2% |
Ynys Môn | £194,063 | £181,924 | 6.7% |
Cymru | £180,229 | £168,516 | 7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Nhachwedd 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £282,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £95,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Tachwedd 2020 | Tachwedd 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £273,737 | £254,121 | 7.7% |
Tŷ pâr | £174,223 | £163,573 | 6.5% |
Tŷ teras | £140,917 | £130,664 | 7.8% |
Fflat neu fflat deulawr | £118,998 | £116,734 | 1.9% |
Holl | £180,229 | £168,516 | 7.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Medi 2020 | Medi 2019 |
---|---|---|
Abertawe | 200 | 290 |
Blaenau Gwent | 43 | 78 |
Bro Morgannwg | 114 | 200 |
Caerdydd | 270 | 486 |
Caerffili | 109 | 215 |
Casnewydd | 116 | 204 |
Castell-nedd Port Talbot | 123 | 162 |
Ceredigion | 66 | 86 |
Conwy | 121 | 190 |
Gwynedd | 107 | 158 |
Merthyr Tudful | 36 | 70 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 144 | 192 |
Powys | 106 | 144 |
Rhondda Cynon Taf | 203 | 268 |
Sir Benfro | 99 | 168 |
Sir Ddinbych | 89 | 112 |
Sir Gaerfyrddin | 152 | 226 |
Sir Fynwy | 69 | 112 |
Sir y Fflint | 124 | 199 |
Tor-faen | 55 | 120 |
Wrecsam | 99 | 141 |
Ynys Môn | 73 | 102 |
Cymru | 2,518 | 3,923 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 28.8% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 20.9% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Medi 2016 | 4,054 |
Medi 2017 | 4,424 |
Medi 2018 | 3,959 |
Medi 2019 | 3,923 |
Medi 2020 | 2,518 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Medi 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £227,409 | -3.7% | 4.7% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £167,794 | -1.8% | 4.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Tachwedd 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £155,270 | 2.0% | 6.7% |
Cyn berchen-feddiannydd | £209,468 | 1.9% | 7.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Tachwedd 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £175,123 | 2.1% | 7.0% |
Morgais | £183,289 | 1.9% | 7.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Medi 2020 |
---|---|
Cymru | 36 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068317