Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2020
Cyhoeddwyd 2 Medi 2020
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2020
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £169,436
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 4.8%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.7%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 124.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2020 am 9.30am ddydd Mercher 16 Medi 2020. Gweler yr amserlen gyhoeddi dros dro am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 4.8% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020, i fyny o 3.2% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 2.9% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.7% rhwng Ebrill 2020 a Mai 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill 2019 a Mai 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.5% rhwng Ebrill 2020 a Mai 2020.
Yng Nghymru, dangosodd 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog ym Mai 2020 o’i gymharu â Mai 2019. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mlaenau Gwent, gan godi 11.2% i £100,585 yn y flwyddyn hyd at Fai 2020. Mewn cyferbyniad, Gwynedd ddangosodd y twf isaf, gan ostwng 3.4% i £153,541 yn y flwyddyn hyd at Fai 2020.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai pâr y twf blynyddol mwyaf, gan godi 5.3% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020 i £164,574. Y twf lleiaf blynyddol o’r holl fathau o eiddo oedd fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 4.4% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020 i £118,529.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (in Welsh).
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 4.8% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020 (i fyny o 3.2% yn Ebrill 2020).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Mai 2020 | Mai 2019 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £158,304 | £146,563 | 8% |
| Blaenau Gwent | £100,585 | £90,473 | 11.2% |
| Bro Morgannwg | £241,523 | £225,876 | 6.9% |
| Caerdydd | £215,322 | £206,786 | 4.1% |
| Caerffili | £139,849 | £139,613 | 0.2% |
| Casnewydd | £190,074 | £184,040 | 3.3% |
| Castell-nedd Port Talbot | £125,530 | £117,850 | 6.5% |
| Ceredigion | £189,508 | £182,697 | 3.7% |
| Conwy | £171,887 | £169,478 | 1.4% |
| Gwynedd | £153,541 | £158,985 | -3.4% |
| Merthyr Tudful | £112,852 | £106,932 | 5.5% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £160,863 | £152,187 | 5.7% |
| Powys | £199,443 | £184,164 | 8.3% |
| Rhondda Cynon Taf | £116,503 | £109,500 | 6.4% |
| Sir Benfro | £185,738 | £173,007 | 7.4% |
| Sir Ddinbych | £152,764 | £152,428 | 0.2% |
| Sir Fynwy | £276,359 | £267,727 | 3.2% |
| Sir y Fflint | £174,014 | £168,205 | 3.5% |
| Sir Gaerfyrddin | £152,662 | £146,015 | 4.6% |
| Tor-faen | £150,741 | £147,227 | 2.4% |
| Wrecsam | £158,229 | £155,781 | 1.6% |
| Ynys Môn | £178,454 | £169,457 | 5.3% |
| Cymru | £169,436 | £161,628 | 4.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

A heat map showing the average price by local authority for Wales (in Welsh).
Ym Mai 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £276,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £101,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Mai 2020 | Mai 2019 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £254,763 | £243,408 | 4.7% |
| Tŷ pâr | £164,574 | £156,247 | 5.3% |
| Tŷ teras | £131,328 | £125,510 | 4.6% |
| Fflat neu fflat deulawr | £118,529 | £113,548 | 4.4% |
| Holl | £169,436 | £161,628 | 4.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
| Awdurdodau lleol | Mawrth 2020 | Mawrth 2019 |
|---|---|---|
| Abertawe | 218 | 272 |
| Blaenau Gwent | 61 | 77 |
| Bro Morgannwg | 145 | 200 |
| Caerdydd | 296 | 407 |
| Caerffili | 145 | 209 |
| Casnewydd | 146 | 187 |
| Castell-nedd Port Talbot | 119 | 153 |
| Ceredigion | 57 | 82 |
| Conwy | 125 | 155 |
| Gwynedd | 110 | 180 |
| Merthyr Tudful | 50 | 53 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 187 | 171 |
| Powys | 105 | 121 |
| Rhondda Cynon Taf | 212 | 286 |
| Sir Benfro | 112 | 136 |
| Sir Ddinbych | 80 | 108 |
| Sir Gaerfyrddin | 190 | 217 |
| Sir Fynwy | 67 | 85 |
| Sir y Fflint | 124 | 216 |
| Tor-faen | 83 | 110 |
| Wrecsam | 124 | 128 |
| Ynys Môn | 69 | 86 |
| Cymru | 2,829 | 3,639 |
Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mawrth 2020 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 15.0%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 7.3% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Mawrth 2016 | 5,744 |
| Mawrth 2017 | 3,909 |
| Mawrth 2018 | 3,800 |
| Mawrth 2019 | 3,639 |
| Mawrth 2020 | 2,829 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Mawrth 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £227,665 | 0.3% | 6.7% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £164,341 | 0.8% | 4.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Mai 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £146,439 | 1.8% | 4.9% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £196,187 | 1.7% | 4.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws ariannu | Pris cyfartalog Mai 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £163,726 | 1.6% | 4.3% |
| Morgais | £172,784 | 1.8% | 5.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mawrth 2020 |
|---|---|
| Cymru | 46 |
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068317