Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mehefin 2021

Cyhoeddwyd 18 August 2021

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £195,291

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 16.7%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 4.6%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 143.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2021 am 9.30am ddydd Mercher 15 Medi 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 16.7% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021, i fyny o 14.7% ym Mai 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 13.2% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.6% rhwng Mai a Mehefin 2021, o’i gymharu â chynnydd o 2.9% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai a Mehefin 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.2% rhwng Mai a Mehefin 2021.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 85.2% yng Nghymru, o 1166 i 2159. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 124.7% o 22976 i 51623 dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog ym Mehefin 2021 o’i gymharu â Mehefin 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mlaenau Gwent, gan godi 24.1% i £115,000 yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021. Mewn cyferbyniad, gwelwyd y newid blynyddol lleiaf yng Nghasnewydd, gyda chynnydd o 3.6% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £198,000.

O’r holl fathau o eiddo, tai sengl ddangosodd y twf blynyddol mwyaf, gan godi 18.4% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021 i £296,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 10.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021 i £128,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 16.7% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021, i fyny o 14.7% ym Mai 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mehefin 2021 Mehefin 2020 Gwahaniaeth
Abertawe £169,168 £150,992 12%
Blaenau Gwent £115,012 £92,712 24.1%
Bro Morgannwg £272,137 £226,883 19.9%
Caerdydd £235,054 £211,634 11.1%
Caerffili £158,498 £140,350 12.9%
Casnewydd £198,141 £191,223 3.6%
Castell-nedd Port Talbot £144,024 £124,023 16.1%
Ceredigion £228,632 £192,047 19%
Conwy £195,748 £162,944 20.1%
Gwynedd £184,037 £153,248 20.1%
Merthyr Tudful £120,792 £106,147 13.8%
Pen-y-bont ar Ogwr £187,812 £157,692 19.1%
Powys £205,265 £184,058 11.5%
Rhondda Cynon Taf £135,624 £115,369 17.6%
Sir Benfro £209,253 £170,694 22.6%
Sir Ddinbych £184,468 £160,378 15%
Sir Fynwy £291,657 £271,712 7.3%
Sir y Fflint £190,724 £162,657 17.3%
Sir Gaerfyrddin £177,475 £147,151 20.6%
Tor-faen £183,859 £150,701 22%
Wrecsam £179,671 £154,474 16.3%
Ynys Môn £202,624 £176,144 15%
Cymru £195,291 £167,384 16.7%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Mehefin 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £292,000 oedd y gost gyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £115,000 oedd y gost gyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mehefin 2021 Mehefin 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £296,313 £250,331 18.4%
Tŷ pâr £188,119 £162,555 15.7%
Tŷ teras £153,582 £130,914 17.3%
Fflat neu fflat deulawr £127,629 £115,047 10.9%
Holl £195,291 £167,384 16.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Ebrill 2021 Ebrill 2020
Abertawe 166 116
Blaenau Gwent 36 42
Bro Morgannwg 93 61
Caerdydd 192 135
Caerffili 108 79
Casnewydd 106 63
Castell-nedd Port Talbot 123 65
Ceredigion 44 29
Conwy 97 38
Gwynedd 98 59
Merthyr Tudful 37 23
Pen-y-bont ar Ogwr 118 81
Powys 86 47
Rhondda Cynon Taf 178 137
Sir Benfro 85 70
Sir Ddinbych 86 27
Sir Gaerfyrddin 144 96
Sir Fynwy 77 37
Sir y Fflint 103 40
Tor-faen 56 41
Wrecsam 79 51
Ynys Môn 47 44
Cymru 2,159 1,381

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2021 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ebrill 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 85.2% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 188.1% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Ebrill 2017 3,490
Ebrill 2018 3,367
Ebrill 2019 3,462
Ebrill 2020 1,381
Ebrill 2021 2,159

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Ebrill 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £267,427 6.6% 22.1%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £179,529 -1.8% 14.6%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mehefin 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £168,655 4.7% 16.4%
Cyn berchen-feddiannydd £226,344 4.5% 17.0%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cg Pris cyfartalog Mehefin 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £189,875 5.1% 17.2%
Morgais £198,534 4.4% 16.4%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ebrill 2021
Cymru 10

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 0068317