Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mehefin 2020

Cyhoeddwyd 16 September 2020

Yn berthnasol i England and Gymru

1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2020

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £167,505

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.8%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.7%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 123.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2020 am 9.30am ddydd Mercher 7 Hydref 2020. Gweler yr amserlen gyhoeddi dros dro am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 2.8% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020, i fyny o 0.9% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n arafach na chyfradd flynyddol y DU sef 3.4% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.7% rhwng Mai 2020 a Mehefin 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai 2019 a Mehefin 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.4% rhwng Mai 2020 a Mehefin 2020.

Yng Nghymru, dangosodd 13 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog ym Mehefin 2020 o’i gymharu â Mehefin 2019. Gwelwyd y twf cryfaf yng Ngheredigion, gan godi 11.8% i £207,261 yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020. Mewn cyferbyniad, Gwynedd ddangosodd y newid blynyddol isaf, gan ostwng 5.9% i £149,323 yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras y twf blynyddol mwyaf, gan godi 3.3% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020 i £130,967. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda gostyngiad o 0.5% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020 i £114,698.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (in Welsh).

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.8% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020, i fyny o 0.9% ym Mai 2020.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mehefin 2020 Mehefin 2019 Gwahaniaeth
Abertawe £148,641 £147,331 0.9%
Blaenau Gwent £95,904 £90,322 6.2%
Bro Morgannwg £232,810 £229,005 1.7%
Caerdydd £213,706 £207,014 3.2%
Caerffili £142,750 £138,408 3.1%
Casnewydd £189,403 £183,708 3.1%
Castell-nedd Port Talbot £123,387 £120,705 2.2%
Ceredigion £207,261 £185,462 11.8%
Conwy £167,036 £166,535 0.3%
Gwynedd £149,323 £158,699 -5.9%
Merthyr Tudful £105,914 £106,300 -0.4%
Pen-y-bont ar Ogwr £151,853 £153,476 -1.1%
Powys £186,215 £178,682 4.2%
Rhondda Cynon Taf £118,135 £113,376 4.2%
Sir Benfro £172,140 £174,787 -1.5%
Sir Ddinbych £163,094 £152,963 6.6%
Sir Fynwy £264,508 £274,185 -3.5%
Sir y Fflint £161,821 £170,165 -4.9%
Sir Gaerfyrddin £146,832 £145,770 0.7%
Tor-faen £147,239 £150,407 -2.1%
Wrecsam £151,463 £157,210 -3.7%
Ynys Môn £171,497 £175,088 -2.1%
Cymru £167,505 £162,908 2.8%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

A heat map showing the average price by local authority for Wales (in Welsh).

Ym Mehefin 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £265,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £96,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mehefin 2020 Mehefin 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £250,905 £244,265 2.7%
Tŷ pâr £162,632 £157,580 3.2%
Tŷ teras £130,967 £126,735 3.3%
Fflat neu fflat deulawr £114,698 £115,229 -0.5%
Holl £167,505 £162,908 2.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Ebrill 2020 Ebrill 2019
Abertawe 105 236
Blaenau Gwent 39 79
Bro Morgannwg 49 171
Caerdydd 115 361
Caerffili 69 178
Casnewydd 58 186
Castell-nedd Port Talbot 58 154
Ceredigion 25 76
Conwy 35 166
Gwynedd 50 146
Merthyr Tudful 19 61
Pen-y-bont ar Ogwr 69 187
Powys 41 139
Rhondda Cynon Taf 117 256
Sir Benfro 51 159
Sir Ddinbych 20 126
Sir Gaerfyrddin 76 194
Sir Fynwy 21 90
Sir y Fflint 34 193
Tor-faen 38 92
Wrecsam 40 123
Ynys Môn 37 89
Cymru 1,166 3,462

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ebrill 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 63.3% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 56.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Ebrill 2016 2,822
Ebrill 2017 3,490
Ebrill 2018 3,367
Ebrill 2019 3,462
Ebrill 2020 1,166

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Ebrill 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £223,787 -1.7% 3.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £156,744 -4.6% -0.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mehefin 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £144,930 2.7% 2.9%
Cyn berchen-feddiannydd £193,697 2.7% 2.7%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Mehefin 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £162,333 3.1% 2.8%
Morgais £170,575 2.6% 2.8%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ebrill 2020
Cymru 22

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317