Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2021

Cyhoeddwyd 15 September 2021

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £187,960

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 11.6%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -4.0%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 138.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2021 am 9.30am ddydd Mercher 20 Hydref 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 11.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021, i lawr o 17.0% ym Mehefin 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 8.0% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.0% rhwng Mehefin a Gorffennaf 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin a Gorffennaf 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.3% rhwng Mehefin a Gorffennaf 2021.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 13.7% yng Nghymru, o 1,383 i 1,572. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 25.5% o 31,147 i 39,080 dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yng Ngorffennaf 2021 o’i gymharu â Gorffennaf 2020. Gwelwyd y twf cryfaf yng Nghonwy, gan godi 25.0% i £201,000 yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021. Mewn cyferbyniad, Ceredigion welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 6.2% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £210,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai pâr y twf blynyddol mwyaf, gan godi 11.9% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021 i £183,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 11.1% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021 i £130,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 11.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021, i lawr o 17.0% ym Mehefin 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Gorffennaf 2021 Gorffennaf 2020 Gwahaniaeth
Abertawe £170,774 £155,655 9.7%
Blaenau Gwent £112,887 £96,423 17.1%
Bro Morgannwg £293,916 £237,026 24%
Caerdydd £240,320 £212,900 12.9%
Caerffili £165,702 £140,043 18.3%
Casnewydd £205,995 £191,817 7.4%
Castell-nedd Port Talbot £141,946 £126,320 12.4%
Ceredigion £210,351 £198,123 6.2%
Conwy £201,391 £161,121 25%
Gwynedd £181,720 £156,291 16.3%
Merthyr Tudful £125,596 £107,970 16.3%
Pen-y-bont ar Ogwr £180,789 £161,983 11.6%
Powys £213,798 £188,561 13.4%
Rhondda Cynon Taf £134,847 £116,057 16.2%
Sir Benfro £202,346 £174,418 16%
Sir Ddinbych £185,632 £155,438 19.4%
Sir Fynwy £297,759 £274,143 8.6%
Sir y Fflint £185,647 £169,012 9.8%
Sir Gaerfyrddin £177,593 £150,249 18.2%
Tor-faen £170,560 £156,734 8.8%
Wrecsam £182,712 £158,177 15.5%
Ynys Môn £215,559 £180,565 19.4%
Cymru £187,960 £168,416 11.6%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yng Ngorffennaf 2021, yr ardal ddrutaf i fyw oedd sir Fynwy, lle mai £298,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £113,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Gorffennaf 2021 Gorffennaf 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £283,586 £253,927 11.7%
Tŷ pâr £182,687 £163,302 11.9%
Tŷ teras £145,669 £130,681 11.5%
Fflat neu fflat deulawr £129,780 £116,803 11.1%
Holl £187,960 £168,416 11.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Mai 2021 Mai 2020
Abertawe 102 113
Blaenau Gwent 39 42
Bro Morgannwg 64 64
Caerdydd 142 167
Caerffili 90 96
Casnewydd 68 80
Castell-nedd Port Talbot 65 78
Ceredigion 45 27
Conwy 91 61
Gwynedd 77 41
Merthyr Tudful 31 28
Pen-y-bont ar Ogwr 79 79
Powys 66 71
Rhondda Cynon Taf 131 143
Sir Benfro 67 75
Sir Ddinbych 45 55
Sir Gaerfyrddin 106 95
Sir Fynwy 52 33
Sir y Fflint 68 83
Tor-faen 39 51
Wrecsam 56 55
Ynys Môn 49 39
Cymru 1,572 1,576

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 13.7% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 141.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fai 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mai 2017 3,933
Mai 2018 3,799
Mai 2019 3,854
Mai 2020 1,576
Mai 2021 1,572

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £263,323 1.7% 18.1%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £181,891 1.3% 14.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £162,121 -4.2% 11.5%
Cyn berchen-feddiannydd £218,162 -3.8% 11.7%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Gorffennaf 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £182,321 -4.0% 11.7%
Morgais £191,265 -4.1% 11.5%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mai 2021
Cymru 7

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 0068317