Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2020
Cyhoeddwyd 7 Hydref 2020
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2020
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £170,415
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 3.6%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.7%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 125.2
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2020 am 9.30am ddydd Mercher 21 Hydref 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 3.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020, i fyny o 2.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 2.3% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.7% rhwng Mehefin 2020 a Gorffennaf 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.9% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin 2019 a Gorffennaf 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.0% rhwng Mehefin 2020 a Gorffennaf 2020.
Yng Nghymru, dangosodd 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog yng Ngorffennaf 2020 o’i gymharu â Gorffennaf 2019. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mhowys, gan godi 8.1% i £195,000 yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020. Mewn cyferbyniad, Wrecsam welodd y newid blynyddol isaf, gan ostwng 4.8% i £151,000 yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai pâr y twf blynyddol mwyaf, gan godi 4.2% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020 i £166,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 1.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020 i £118,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 3.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020, i fyny o 2.9% ym Mehefin 2020.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2020 | Gorffennaf 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £157,835 | £148,357 | 6.4% |
Blaenau Gwent | £94,943 | £92,174 | 3% |
Bro Morgannwg | £238,608 | £233,323 | 2.3% |
Caerdydd | £216,782 | £207,406 | 4.5% |
Caerffili | £139,013 | £138,984 | 0% |
Casnewydd | £192,926 | £186,459 | 3.5% |
Castell-nedd Port Talbot | £124,600 | £119,719 | 4.1% |
Ceredigion | £194,447 | £181,627 | 7.1% |
Conwy | £161,192 | £167,508 | -3.8% |
Gwynedd | £156,173 | £156,501 | -0.2% |
Merthyr Tudful | £107,470 | £107,489 | -0% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £164,080 | £155,606 | 5.4% |
Powys | £195,391 | £180,728 | 8.1% |
Rhondda Cynon Taf | £118,327 | £115,045 | 2.9% |
Sir Benfro | £177,220 | £174,356 | 1.6% |
Sir Ddinbych | £156,406 | £155,034 | 0.9% |
Sir Fynwy | £278,874 | £276,702 | 0.8% |
Sir y Fflint | £170,173 | £173,203 | -1.7% |
Sir Gaerfyrddin | £151,194 | £145,622 | 3.8% |
Tor-faen | £155,154 | £149,256 | 4% |
Wrecsam | £151,051 | £158,597 | -4.8% |
Ynys Môn | £181,050 | £175,863 | 2.9% |
Cymru | £170,415 | £164,440 | 3.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yng Ngorffennaf 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £279,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £95,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Gorffennaf 2020 | Gorffennaf 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £256,052 | £247,201 | 3.6% |
Tŷ pâr | £165,533 | £158,875 | 4.2% |
Tŷ teras | £132,492 | £127,821 | 3.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £117,951 | £116,076 | 1.6% |
Holl | £170,415 | £164,440 | 3.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Mai 2020 | Mai 2019 |
---|---|---|
Abertawe | 110 | 260 |
Blaenau Gwent | 36 | 85 |
Bro Morgannwg | 50 | 178 |
Caerdydd | 147 | 462 |
Caerffili | 91 | 205 |
Casnewydd | 72 | 197 |
Castell-nedd Port Talbot | 70 | 198 |
Ceredigion | 20 | 96 |
Conwy | 54 | 150 |
Gwynedd | 37 | 135 |
Merthyr Tudful | 26 | 66 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 72 | 223 |
Powys | 60 | 129 |
Rhondda Cynon Taf | 130 | 284 |
Sir Benfro | 63 | 145 |
Sir Ddinbych | 41 | 139 |
Sir Gaerfyrddin | 75 | 219 |
Sir Fynwy | 29 | 87 |
Sir y Fflint | 71 | 203 |
Tor-faen | 47 | 140 |
Wrecsam | 47 | 158 |
Ynys Môn | 35 | 95 |
Cymru | 1,383 | 3,854 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 60.4% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 57.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fai 2020.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mai 2016 | 3,125 |
Mai 2017 | 3,933 |
Mai 2018 | 3,799 |
Mai 2019 | 3,854 |
Mai 2020 | 1,383 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mai 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £222,125 | 2.1% | 3.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £159,758 | 1.7% | 0.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Gorffennaf 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £147,091 | 1.5% | 3.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £197,627 | 1.9% | 3.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Gorffennaf 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £164,351 | 1.3% | 3.1% |
Morgais | £173,943 | 1.9% | 3.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mai 2020 |
---|---|
Cymru | 26 |
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068317