Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ionawr 2021

Cyhoeddwyd 24 March 2021

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £178,907

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 9.6%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -1.9%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 131.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2021 am 9.30am ddydd Mercher 21 Ebrill 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau tai gan 9.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021, yn ddigyfnewid er Rhagfyr 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 7.5% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.9% rhwng Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021, gyda gostyngiad o 1.9% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 11.4% yng Nghymru, o 4,046 i 3,585. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 6.1% o 87,766 i 82,412 dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob un o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Ionawr 2021 o’i gymharu ag Ionawr 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mhowys, gan godi 16.0% i £219,000 yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021. Mewn cyferbyniad, dangosodd Blaenau Gwent y twf arafaf yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021, ar 2.2%, gyda phrisiau tai cyfartalog yn £93,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 11.5% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021 i £275,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 4.3% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021 i £120,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 9.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021, yn ddigyfnewid er Rhagfyr 2020.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ionawr 2021 Ionawr 2020 Gwahaniaeth
Abertawe £167,621 £152,360 10%
Blaenau Gwent £92,888 £90,884 2.2%
Bro Morgannwg £255,353 £229,065 11.5%
Caerdydd £224,555 £213,409 5.2%
Caerffili £149,358 £141,484 5.6%
Casnewydd £199,843 £187,940 6.3%
Castell-nedd Port Talbot £135,134 £123,757 9.2%
Ceredigion £200,147 £184,545 8.5%
Conwy £188,111 £171,569 9.6%
Gwynedd £175,287 £160,893 8.9%
Merthyr Tudful £120,842 £111,911 8%
Pen-y-bont ar Ogwr £167,325 £156,840 6.7%
Powys £218,959 £188,772 16%
Rhondda Cynon Taf £126,752 £116,090 9.2%
Sir Benfro £205,988 £178,182 15.6%
Sir Ddinbych £174,724 £161,290 8.3%
Sir Fynwy £307,041 £275,831 11.3%
Sir y Fflint £192,791 £177,425 8.7%
Sir Gaerfyrddin £162,338 £153,222 5.9%
Tor-faen £161,950 £149,412 8.4%
Wrecsam £170,972 £154,094 11%
Ynys Môn £202,050 £181,105 11.6%
Cymru £178,907 £163,205 9.6%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Ionawr 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £307,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £93,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ionawr 2021 Ionawr 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £274,858 £246,545 11.5%
Tŷ pâr £175,235 £158,726 10.4%
Tŷ teras £136,474 £125,708 8.6%
Fflat neu fflat deulawr £119,527 £114,648 4.3%
Holl £178,907 £163,205 9.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Tachwedd 2020 Tachwedd 2019
Abertawe 246 290
Blaenau Gwent 48 78
Bro Morgannwg 208 281
Caerdydd 328 468
Caerffili 191 235
Casnewydd 172 242
Castell-nedd Port Talbot 141 191
Ceredigion 90 76
Conwy 193 216
Gwynedd 158 175
Merthyr Tudful 63 86
Pen-y-bont ar Ogwr 168 258
Powys 144 179
Rhondda Cynon Taf 268 345
Sir Benfro 142 181
Sir Ddinbych 97 141
Sir Gaerfyrddin 256 263
Sir Fynwy 112 143
Sir y Fflint 203 228
Tor-faen 104 136
Wrecsam 155 169
Ynys Môn 98 113
Cymru 3,585 4,494

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 11.4% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 0.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Tachwedd 2016 4,084
Tachwedd 2017 4,474
Tachwedd 2018 5,057
Tachwedd 2019 4,494
Tachwedd 2020 3,585

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £231,907 -0.6% 7.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £176,674 1.6% 6.6%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £153,083 -2.5% 8.7%
Cyn berchen-feddiannydd £209,604 -1.2% 10.7%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Ionawr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £174,027 -2.0% 10.3%
Morgais £181,854 -1.8% 9.3%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Tachwedd 2020
Cymru 24

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317