Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2021

Cyhoeddwyd 21 April 2021

Yn berthnasol i England and Gymru

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £179,861

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 8.4%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.7%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 132.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2021 am 9.30am ddydd Mercher 19 Mai 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 8.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021, i lawr o 11.0% yn Ionawr 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n arafach na chyfradd flynyddol y DU sef 8.6% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% rhwng Ionawr a Chwefror 2021, gyda chynnydd o 1.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr a Chwefror 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.9% rhwng Ionawr a Chwefror 2021.

O gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 14.8% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 18.3% dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Chwefror 2021 o’i gymharu â Chwefror 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mlaenau Gwent, gan godi 18.4% i £108,000 yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021. Mewn cyferbyniad, Sir y Fflint welodd y newid blynyddol lleiaf, gan ostwng 1.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £173,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras a fflatiau a fflatiau deulawr y twf blynyddol mwyaf, gan godi 8.9% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021, i £141,000 a £124,000 yr un. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer tai pâr, gyda chynnydd o 7.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021 i £173,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 8.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021, i lawr o 11.0% yn Ionawr 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Chwefror 2021 Chwefror 2020 Gwahaniaeth
Abertawe £169,324 £152,185 11.3%
Blaenau Gwent £108,049 £91,222 18.4%
Bro Morgannwg £238,745 £231,874 3%
Caerdydd £225,925 £209,838 7.7%
Caerffili £151,238 £139,747 8.2%
Casnewydd £211,332 £186,831 13.1%
Castell-nedd Port Talbot £127,643 £123,466 3.4%
Ceredigion £206,435 £188,242 9.7%
Conwy £181,716 £168,187 8%
Gwynedd £179,018 £160,711 11.4%
Merthyr Tudful £129,082 £112,003 15.2%
Pen-y-bont ar Ogwr £174,973 £155,911 12.2%
Powys £211,801 £185,168 14.4%
Rhondda Cynon Taf £124,828 £115,578 8%
Sir Benfro £210,376 £180,650 16.5%
Sir Ddinbych £178,603 £159,042 12.3%
Sir Fynwy £302,780 £274,761 10.2%
Sir y Fflint £173,252 £175,092 -1.1%
Sir Gaerfyrddin £173,959 £151,502 14.8%
Tor-faen £170,586 £151,070 12.9%
Wrecsam £169,330 £155,389 9%
Ynys Môn £199,690 £180,907 10.4%
Cymru £179,861 £165,953 8.4%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Chwefror 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £303,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £108,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Chwefror 2021 Chwefror 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £272,097 £250,414 8.7%
Tŷ pâr £172,565 £160,638 7.4%
Tŷ teras £140,825 £129,311 8.9%
Fflat neu fflat deulawr £123,542 £113,441 8.9%
Holl £179,861 £165,953 8.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Rhagfyr 2020 Rhagfyr 2019
Abertawe 306 279
Blaenau Gwent 71 78
Bro Morgannwg 185 237
Caerdydd 406 503
Caerffili 177 224
Casnewydd 203 178
Castell-nedd Port Talbot 210 160
Ceredigion 109 94
Conwy 181 167
Gwynedd 187 160
Merthyr Tudful 56 70
Pen-y-bont ar Ogwr 194 203
Powys 217 142
Rhondda Cynon Taf 319 301
Sir Benfro 178 207
Sir Ddinbych 174 129
Sir Gaerfyrddin 241 270
Sir Fynwy 126 108
Sir y Fflint 226 210
Tor-faen 126 157
Wrecsam 156 135
Ynys Môn 98 77
Cymru 4,146 4,089

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

O gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 14.8% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 25.9% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Rhagfyr 2016 4,581
Rhagfyr 2017 4,659
Rhagfyr 2018 4,255
Rhagfyr 2019 4,089
Rhagfyr 2020 4,146

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £229,665 0.5% 8.4%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £179,168 1.5% 9.4%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £155,687 -0.2% 8.5%
Cyn berchen-feddiannydd £207,914 -1.4% 8.2%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Chwefror 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £175,983 -0.2% 9.2%
Morgais £182,363 -1.0% 8.0%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2020
Cymru 18

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317