Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ebrill 2020

Cyhoeddwyd 19 August 2020

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2020

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £169,489

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 5.0%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.6%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 124.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2020 am 9.30am ddydd Mercher 2 Medi 2020. Gweler yr amserlen gyhoeddi dros dro am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 5.0% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020, i lawr o 5.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 2.6% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2020, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth 2019 ac Ebrill 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2020.

Yng Nghymru, dangosodd 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog yn Ebrill 2020 o’i gymharu ag Ebrill 2019. Yn Ebrill 2020, yr ardal ddrutaf i fyw oedd sir Fynwy, lle mai £267,831 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £87,693 oedd pris tŷ cyfartalog.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras y twf blynyddol mwyaf, gan godi 7.2% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020 i £134,051. Y twf lleiaf blynyddol o’r holl fathau o eiddo oedd fflatiau a fflatiau deulawr, gyda gostyngiad o 1.1% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020 i £112,239.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (Welsh).

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 5.0% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020 (i lawr o 5.4% ym Mawrth 2020).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ebrill 2020 Ebrill 2019 Gwahaniaeth
Abertawe £159,031 £147,573 7.8%
Blaenau Gwent £87,693 £92,884 -5.6%
Bro Morgannwg £223,524 £223,368 0.1%
Caerdydd £211,331 £208,016 1.6%
Caerffili £143,281 £136,099 5.3%
Casnewydd £188,092 £182,919 2.8%
Castell-nedd Port Talbot £123,933 £116,241 6.6%
Ceredigion £187,868 £183,190 2.6%
Conwy £173,675 £166,552 4.3%
Gwynedd £161,973 £156,762 3.3%
Merthyr Tudful £118,991 £105,473 12.8%
Pen-y-bont ar Ogwr £155,595 £150,258 3.6%
Powys £185,480 £183,448 1.1%
Rhondda Cynon Taf £126,785 £109,601 15.7%
Sir Benfro £182,758 £169,867 7.6%
Sir Ddinbych £161,013 £151,365 6.4%
Sir Fynwy £267,831 £263,261 1.7%
Sir y Fflint £175,732 £164,294 7.0%
Sir Gaerfyrddin £156,710 £146,773 6.8%
Tor-faen £164,568 £146,072 12.7%
Wrecsam £160,699 £157,243 2.2%
Ynys Môn £174,574 £170,908 2.1%
Cymru £169,489 £161,456 5.0%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Nid yw’r map gwres ar gael oherwydd yr effaith y mae’r pandemig coronafeirws cyfredol wedi ei chael ar wasanaethau gweithredol.

Yn Ebrill 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd sir Fynwy, lle mai £268,000 oedd pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £88,000 oedd pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ebrill 2020 Ebrill 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £253,393 £243,846 3.9%
Tŷ pâr £164,188 £156,028 5.2%
Tŷ teras £134,051 £125,083 7.2%
Fflat neu fflat deulawr £112,239 £113,448 -1.1%
Holl £169,489 £161,456 5.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Chwefror 2020 Chwefror 2019
Abertawe 205 220
Blaenau Gwent 78 66
Bro Morgannwg 136 132
Caerdydd 313 408
Caerffili 157 154
Casnewydd 174 191
Castell-nedd Port Talbot 119 136
Ceredigion 57 81
Conwy 126 140
Gwynedd 117 111
Merthyr Tudful 37 43
Pen-y-bont ar Ogwr 150 158
Powys 111 134
Rhondda Cynon Taf 233 237
Sir Benfro 123 173
Sir Ddinbych 99 118
Sir Gaerfyrddin 143 183
Sir Fynwy 76 85
Sir y Fflint 155 157
Tor-faen 87 95
Wrecsam 92 107
Ynys Môn 72 78
Cymru 2,863 3,207

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Chwefror 2020 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19), nid yw nifer y trafodion ar gyfer Chwefror 2020 yn uniongyrchol gymharol â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion ar gyfer Chwefror 2019 yng Nghymru a Lloegr. Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 1.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Chwefror 2016 3,215
Chwefror 2017 3,225
Chwefror 2018 3,276
Chwefror 2019 3,207
Chwefror 2020 2,863

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £227,230 -1.4% 4.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £162,911 2.1% 4.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Ebrill 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £147,239 1.1% 5.6%
Morgais £195,068 0.0% 4.3%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Ebrill 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £163,014 -0.2% 3.8%
Morgais £173,229 0.9% 5.6%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Chwefror 2020
Cymru 43

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317