Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ebrill 2019

Cyhoeddwyd 19 June 2019

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2019

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£163,902

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

6.7%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

2.4%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

120.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2019 am 9.30am ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 6.7% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019, i fyny o 3.9% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019. Mae’r cryfhau hwn yn y gyfradd twf blynyddol ar gyfer Cymru i’w briodoli i dwf cryf rhwng Mawrth ac Ebrill 2019 (2.4%) ynghyd â gostyngiad mewn prisiau (0.3%) rhwng Mawrth ac Ebrill 2018. Gall y gostyngiad mewn prisiau rhwng Mawrth ac Ebrill 2018 fod yn gysylltiedig â Threth Trafodiadau Tir sy’n cymryd lle Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru o Ebrill 2018. Mae Treth Trafodiadau Tir yn cyfateb yn fras â Threth Dir y Dreth Stamp, fodd bynnag, mae’r cyfraddau treth preswyl yn wahanol. Yn gyffredinol, ar gyfer trafodion rhwng £125,000 a £400,000 mae Treth Trafodiadau Tir yn is na Threth Dir y Dreth Stamp ac o £400,000 mae’n uwch na Threth Dir y Dreth Stamp. Felly, ar gyfer eiddo pris is byddai’r dreth wedi bod yn is petai’r trafodiad wedi cael ei oedi tan Ebrill 2018, ac yn rhwymedig i dalu Treth Trafodiadau Tir. Ar gyfer eiddo pris uwch, byddai’r dreth wedi bod yn is petai’r trafodiad wedi cael ei ddwyn ymlaen o Ebrill 2018, ac yn rhwymedig i dalu Treth Dir y Dreth Stamp yn lle hynny. Mae’n debyg bod cyfuniad o’r effeithiau hyn wedi gostwng prisiau rhwng Mawrth 2018 ac Ebrill 2018. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.4% rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2019.

Dangosodd Ystadegau Trafodiadau Tir, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 3 mis hyd at Ebrill 2019 mai nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru oedd 12,210. Mae hyn i fyny 1.8% o’i gymharu â’r 3 mis hyd at Ebrill 2018 fel y cyhoeddir yn Ystadegau Trafodiadau Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall sefydliadau gwahanol ddefnyddio methodolegau ychydig bach yn wahanol.

Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn prisiau tai pâr, gan godi 7.4% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019 i £248,000. Y cynnydd lleiaf ym mhrisiau’r holl fathau o eiddo oedd fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 5.0% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019 i £115,000.

Cynyddodd prisiau tai ym mhob ardal awdurdod lleol dros y flwyddyn ddiwethaf. Blaenau Gwent ddangosodd y twf cryfaf, gan gynyddu 17.0% i £99,000 yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (graph in Welsh).

Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 6.7% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019 (i fyny o 3.9% ym Mawrth 2019).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ebrill 2019 Ebrill 2018 Gwahaniaeth
Abertawe £147,777 £145,519 1.6%
Blaenau Gwent £98,956 £84,593 17%
Bro Morgannwg £227,015 £221,704 2.4%
Caerdydd £212,508 £200,659 5.9%
Caerffili £137,984 £129,169 6.8%
Casnewydd £184,888 £170,071 8.7%
Castell-nedd Port Talbot £113,320 £110,518 2.5%
Ceredigion £187,117 £182,016 2.8%
Conwy £170,225 £160,188 6.3%
Gwynedd £158,762 £148,744 6.7%
Merthyr Tudful £108,777 £99,970 8.8%
Pen-y-bont ar Ogwr £150,412 £145,984 3%
Powys £189,043 £179,837 5.1%
Rhondda Cynon Taf £107,439 £100,975 6.4%
Sir Benfro £166,344 £166,002 0.2%
Sir Ddinbych £154,262 £149,661 3.1%
Sir Fynwy £260,371 £247,464 5.2%
Sir y Fflint £162,182 £159,656 1.6%
Sir Gaerfyrddin £146,543 £137,189 6.8%
Tor-faen £146,291 £136,564 7.1%
Wrecsam £156,908 £156,401 0.3%
Ynys Môn £172,829 £165,992 4.1%
Cymru £163,902 £153,574 6.7%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

A heat map showing the average price by local authority for Wales (in Welsh)

Yn Ebrill 2019, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £260,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £99,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ebrill 2019 Ebrill 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £248,334 £231,170 7.4%
Tŷ pâr £157,544 £147,853 6.6%
Tŷ teras £127,259 £119,378 6.6%
Fflat neu fflat deulawr £115,025 £109,533 5.0%
Holl £163,902 £153,574 6.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Chwefror 2019 Chwefror 2018
Abertawe 207 251
Blaenau Gwent 63 73
Bro Morgannwg 125 174
Caerdydd 368 383
Caerffili 142 170
Casnewydd 178 197
Castell-nedd Port Talbot 131 129
Ceredigion 77 67
Conwy 134 161
Gwynedd 109 126
Merthyr Tudful 42 49
Pen-y-bont ar Ogwr 147 187
Powys 121 128
Rhondda Cynon Taf 228 215
Sir Benfro 159 138
Sir Ddinbych 111 101
Sir Gaerfyrddin 164 216
Sir Fynwy 76 83
Sir y Fflint 140 151
Tor-faen 88 94
Wrecsam 102 115
Ynys Môn 71 68
Cymru 2,988 3,276

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diwethaf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Chwefror 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 1.4% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodiadau Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 3.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Chwefror 2015 2,750
Chwefror 2016 3,215
Chwefror 2017 3,225
Chwefror 2018 3,276
Chwefror 2019 2,988

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £216,913 3.9% 3.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £155,845 0.0% 4.0%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £141,282 2.3% 6.4%
Cyn berchen-feddiannydd £190,362 2.6% 7.1%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Ebrill 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £159,887 2.9% 7.0%
Morgais £166,301 2.1% 6.6%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Chwefror 2019
Cymru 48

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317