Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2020

Cyhoeddwyd 18 November 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2020

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £244,513

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 4.7%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.7%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 128.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2020 am 9.30am ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 4.7% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020, i fyny o 3.0% yn Awst 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.7% rhwng Awst 2020 a Medi 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst 2019 a Medi 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 4.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020. Roedd y twf blynyddol uchaf o fewn rhanbarthau Lloegr yn Ne Orllewin Lloegr lle tyfodd prisiau tai cyfartalog gan 6.4%. Gwelwyd y twf blynyddol isaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 3.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020.

Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Medi 2020 yn parhau i awgrymu bod cynnydd cryf mewn gweithgarwch ar draws y farchnad, wrth i ddangosyddion ar gyfer ymholiadau, gwerthiannau wedi eu cytuno a rhestriadau newydd i gyd parhau’n gadarnhaol o gryf. Maent hefyd yn dangos bod y twf mewn prisiau tai yn cyflymu ar draws y DU.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr – 2020 Chwarter 3 weithgarwch bywiog wedi ei ategu gan y galw sydd wedi cronni oherwydd y cyfyngiadau symud, y toriad dros dro yn y doll stamp a’r cynllun Cymorth i Brynu i’r rhai sy’n prynu eiddo am y tro cyntaf.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Medi 2020, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 98,010. Mae hyn 0.7% yn is na flwyddyn yn ôl. Rhwng Awst 2020 a Medi 2020, cynyddodd trafodion y DU gan 21.3% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Medi 2020 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi cynyddu ymhellach ym Medi 2020 i 91,500, y nifer fwyaf er Medi 2007.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.7% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020, i fyny o 3.0% yn Awst 2020.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020 yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau tai gan 4.9%.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 4.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020.

Yng Nghymru cynyddodd prisiau tai gan 3.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 2.4% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2020.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £170,604 -1.9% 3.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2020) £143,205 1.5% 2.4%
Lloegr £261,795 1.6% 4.9%
Yr Alban £161,510 4.4% 4.3%
De Ddwyrain Lloegr £336,763 1.4% 4.0%
De Orllewin Lloegr £275,376 3.3% 6.4%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £204,581 0.5% 5.0%
Dwyrain Lloegr £305,764 2.6% 4.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £208,497 1.3% 4.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £136,262 2.8% 3.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £176,976 1.2% 6.0%
Llundain £496,485 0.8% 4.1%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £174,450 1.2% 5.4%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.7% rhwng Awst 2020 a Medi 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst 2019 a Medi 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.8% rhwng Awst 2020 a Medi 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Medi 2020 Medi 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £375,492 £353,533 6.2%
Tŷ pâr £232,042 £220,738 5.1%
Tŷ teras £198,967 £189,845 4.8%
Fflat neu fflat deulawr £211,443 £207,337 2.0%
Holl £244,513 £233,536 4.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Gorffennaf 2020 Gorffennaf 2019
Lloegr 46,039 73,613
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2020) 4,630 6,769
Yr Alban 4,982 9,001
Cymru 2,081 4,306

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 30.1% yn Lloegr, gan 47.2% yng Nghymru a chan 43.7% yn yr Alban yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020. Lleihaodd nifer y trafodion gan 22.9% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2020.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 20.6% yn Lloegr, 39.8% yng Nghymru, 41.6% yn yr Alban a chan 20.7% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Gorffennaf

Nodyn: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 31.8%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 23.3% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Gorffennaf 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £286,856 0.1% -1.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £233,985 0.7% 2.4%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Medi 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £204,964 1.7% 4.2%
Cyn berchen-feddiannydd £284,891 1.8% 5.4%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Medi 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £232,543 2.0% 4.4%
Morgais £254,973 1.6% 4.9%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Ionawr 2020 a Mawrth 2019, cafwyd 183,679 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 629 o eiddo
  • Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 350 o eiddo
  • Lloegr oedd £150,000 i £174,999 – prynwyd 7,640 o eiddo
  • yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,168 o eiddo

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 1 (Ebrill i Mehefin) 2020 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 46
£25,000 i £49,999 698
£50,000 i £74,999 2,680
£75,000 i £99,999 4,613
£100,000 i £124,999 5,867
£125,000 i £149,999 7,290
£150,000 i £174,999 7,640
£175,000 i £199,999 7,400
£200,000 i £224,999 6,436
£225,000 i £249,999 6,364
£250,000 i £274,999 5,569
£275,000 i £299,999 4,995
£300,000 i £324,999 4,065
£325,000 i £349,999 3,589
£350,000 i £374,999 3,062
£375,000 i £399,999 2,653
£400,000 i £424,999 2,196
£425,000 i £449,999 1,814
£450,000 i £474,999 1,554
£475,000 i £499,999 1,432
£500,000 i £524,999 1,079
£525,000 i £549,999 952
£550,000 i £574,999 874
£575,000 i £599,999 740
£600,000 i £624,999 622
£625,000 i £649,999 583
£650,000 i £674,999 474
£675,000 i £699,999 444
£700,000 i £724,999 385
£725,000 i £749,999 318
£750,000 i £774,999 300
£775,000 i £799,999 269
£800,000 i £824,999 246
£825,000 i £849,999 210
£850,000 i £874,999 221
£875,000 i £899,999 158
£900,000 i £924,999 153
£925,000 i £949,999 157
£950,000 i £974,999 124
£975,000 i £999,999 102
£1,000,000 i £1,249,999 681
£1,250,000 i £1,499,999 422
£1,500,000 i £1,749,999 223
£1,750,000 i £1,999,999 129
£2,000,000 i £4,999,999 314
£5,000,000 i £9,999,999 39
Mwy na £10,000,000 12

Trafodion tai Gogledd Iwerddon

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 5
£25,000 i £49,999 44
£50,000 i £74,999 197
£75,000 i £99,999 237
£100,000 i £124,999 282
£125,000 i £149,999 350
£150,000 i £174,999 247
£175,000 i £199,999 152
£200,000 i £224,999 90
£225,000 i £249,999 76
£250,000 i £274,999 49
£275,000 i £299,999 34
£300,000 i £324,999 24
£325,000 i £349,999 10
£350,000 i £374,999 7
£375,000 i £399,999 14
£400,000 i £424,999 6
£425,000 i £449,999 5
£450,000 i £474,999 3
£475,000 i £499,999 2
Mwy na £500,000 15

Trafodion tai yr Alban

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 92
£25,000 i £49,999 389
£50,000 i £74,999 826
£75,000 i £99,999 1,157
£100,000 i £124,999 991
£125,000 i £149,999 1,168
£150,000 i £174,999 985
£175,000 i £199,999 804
£200,000 i £224,999 646
£225,000 i £249,999 558
£250,000 i £274,999 402
£275,000 i £299,999 342
£300,000 i £324,999 259
£325,000 i £349,999 212
£350,000 i £374,999 156
£375,000 i £399,999 118
£400,000 i £424,999 97
£425,000 i £449,999 52
£450,000 i £474,999 48
£475,000 i £499,999 38
£500,000 i £524,999 36
£525,000 i £549,999 42
£550,000 i £574,999 24
£575,000 i £599,999 19
£600,000 i £624,999 17
£625,000 i £649,999 17
£650,000 i £674,999 18
£675,000 i £699,999 12
£700,000 i £724,999 9
£725,000 i £749,999 4
£750,000 i £774,999 7
£775,000 i £799,999 3
£800,000 i £824,999 1
£825,000 i £849,999 5
£850,000 i £874,999 3
£875,000 i £899,999 2
£900,000 i £924,999 5
£925,000 i £949,999 5
£950,000 i £974,999 2
£975,000 i £999,999 3
£1,000,000 i £1,249,999 12
£1,250,000 i £1,499,999 5
£1,500,000 i £1,749,999 2
£1,750,000 i £1,999,999 1
£2,000,000 i £4,999,999 3
£5,000,000 i £9,999,999 0
Mwy na £10,000,000 0

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 0
£25,000 i £49,999 53
£50,000 i £74,999 296
£75,000 i £99,999 554
£100,000 i £124,999 613
£125,000 i £149,999 629
£150,000 i £174,999 539
£175,000 i £199,999 414
£200,000 i £224,999 300
£225,000 i £249,999 282
£250,000 i £274,999 193
£275,000 i £299,999 158
£300,000 i £324,999 98
£325,000 i £349,999 83
£350,000 i £374,999 42
£375,000 i £399,999 47
£400,000 i £424,999 30
£425,000 i £449,999 30
£450,000 i £474,999 19
£475,000 i £499,999 17
£500,000 i £524,999 12
£525,000 i £549,999 10
£550,000 i £574,999 6
£575,000 i £599,999 8
£600,000 i £624,999 9
£625,000 i £649,999 4
£650,000 i £674,999 2
£675,000 i £699,999 2
£700,000 i £724,999 3
£725,000 i £749,999 3
£750,000 i £774,999 1
£775,000 i £799,999 1
£800,000 i £824,999 1
£825,000 i £849,999 1
£850,000 i £874,999 4
£875,000 i £899,999 0
£900,000 i £924,999 1
£925,000 i £949,999 1
£950,000 i £974,999 0
£975,000 i £999,999 1
£1,000,000 i £1,249,999 3
£1,250,000 i £1,499,999 2
£1,500,000 i £1,749,999 1
£1,750,000 i £1,999,999 1
£2,000,000 i £4,999,999 1
£5,000,000 i £9,999,999 0
Mwy na £10,000,000 0

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915