Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Hydref 2020

Cyhoeddwyd 16 December 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2020

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £245,443

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 5.4%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.7%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 128.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2020 am 9.30am ddydd Mercher 20 Ionawr 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 5.4% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020, i fyny o 4.3% ym Medi 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Medi a Hydref 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Medi a Hydref 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau gan 6.0% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020, i fyny o 4.0% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020. Roedd y twf blynyddol uchaf yn rhanbarthau Lloegr yng Ngogledd Orllewin Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr a Swydd Efrog a’r Humber, lle tyfodd prisiau tai ar gyfartaledd 6.6% yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2020. Roedd y twf blynyddol isaf yn Nwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau 3.4% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020, i lawr o 4.0% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020.

Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Hydref 2020 yn parhau i ddangos mis cryf arall ar gyfer gweithgarwch yn y farchnad dai ar draws y wlad. Gyda’r canllawiau yn cadw’r farchnad ar agor yn ystod yr ail gyfres o gyfyngiadau symud, mae ymatebwyr yn disgwyl i’r cynnydd diweddaraf hwn barhau dros y cyfnod nesaf.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr – 2020 Chwarter 3 weithgarwch bywiog wedi ei ategu gan y galw sydd wedi cronni oherwydd y cyfyngiadau symud, y toriad dros dro yn y doll stamp a’r cynllun Cymorth i Brynu i’r rhai sy’n prynu eiddo am y tro cyntaf.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Hydref 2020, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 105,630. Mae hyn 8.1% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Medi a Hydref 2020, cynyddodd trafodion y DU gan 9.8% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Hydref 2020 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi cynyddu ymhellach yn Hydref 2020 i 97,500, y nifer fwyaf er Medi 2007.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 5.4% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020, i fyny o 4.3% ym Medi 2020.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 6.0%.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 5.8% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020.

Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 5.4% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 2.4% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2020.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £175,998 2.5% 5.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2020) £143,205 1.5% 2.4%
Lloegr £262,175 0.6% 5.4%
Yr Alban £163,248 1.4% 6.0%
De Ddwyrain Lloegr £337,412 0.4% 4.7%
De Orllewin Lloegr £274,319 0.4% 6.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £207,605 1.9% 6.6%
Dwyrain Lloegr £300,744 -0.9% 3.4%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £210,637 0.9% 5.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £136,281 -0.3% 5.4%
Gogledd Orllewin Lloegr £177,796 1.2% 6.6%
Llundain £490,936 -1.2% 3.9%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £177,115 2.4% 6.6%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Medi 2019 a Hydref 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Medi a Hydref 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.9% rhwng Medi a Hydref 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Hydref 2020 Hydref 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £377,198 £353,066 6.8%
Tŷ pâr £234,535 £222,433 5.4%
Tŷ teras £200,037 £188,566 6.1%
Fflat neu fflat deulawr £209,330 £204,632 2.3%
Holl £245,443 £232,923 5.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Awst 2020 Awst 2019
Lloegr 47,756 78,838
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2020) 4,630 6,769
Yr Alban 6,688 10,134
Cymru 2,178 4,546

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 32.4% yn Lloegr, 47.7% yng Nghymru a 33.0% yn yr Alban. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 22.9% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2020.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 21.8% yn Lloegr, 39.3% yng Nghymru, 33.5% yn yr Alban a 37.5% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Awst 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Awst

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 31.8%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 23.3% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Awst 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £294,683 -0.7% 3.4%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £236,708 1.4% 2.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Hydref 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £205,662 0.7% 4.9%
Cyn berchen-feddiannydd £286,141 0.8% 6.0%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Hydref 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £233,669 0.9% 5.4%
Morgais £255,871 0.7% 5.5%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915