Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2019

Cyhoeddwyd 15 January 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2019

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£235,298

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

2.2%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.4%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

123.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2019 am 9.30am ddydd Mercher 19 Chwefror 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 2.2% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019, i fyny o 1.3% yn Hydref 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Hydref 2019 a Thachwedd 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref 2018 a Thachwedd 2018).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle y cynyddodd prisiau gan 7.8% dros y flwyddyn. Roedd y twf blynyddol isaf yn Nwyrain Lloegr, lle y gostyngodd prisiau gan 0.7% dros y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019, wedi ei ddilyn gan Lundain lle y cynyddodd prisiau gan 0.2% dros y flwyddyn.

Profodd Cymru’r twf blynyddol uchaf erioed yn Nhachwedd 2019. Ysgogwyd hyn gan symudiad tuag at drafodion ar eiddo o werth uwch rhwng Hydref a Thachwedd mewn ardaloedd sydd â nifer uwch o drafodion yn nodweddiadol, megis Caerdydd a Chasnewydd, ynghyd â chwymp mewn prisiau yn ystod yr un cyfnod yn 2018.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Tachwedd 2019 fod y matrics allweddol ar gyfer mesur y galw gan brynwyr yn awgrymu bod gwerthiannau yn parhau mewn tir negyddol, a’r ansicrwydd ynghylch yr Etholiad Cyffredinol a Brexit yw’r achos tebygol dros y diffyg gweithgarwch. Fodd bynnag, disgwylir gweld tuedd mwy sefydlog dros y tri mis nesaf.

Adroddodd Crynodeb o amodau busnes – 2019 Chwarter 4 Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai yn parhau i fod yn dawel, yn bennaf oherwydd dyddiad cau Brexit yn Hydref a’r Etholiad Cyffredinol. Adroddodd cysylltiadau fod prisiau tai i lawr yn gymedrol flwyddyn yn ôl yn y de ac i fyny’n gymedrol mewn mannau eraill.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Tachwedd 2019, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai 102,050 oedd y nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 1.9% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Hydref 2019 a Thachwedd 2019, cynyddodd trafodion gan 3.2%.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod nifer y morgeisi a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer prynu tai (dangosydd ar gyfer benthyca yn y dyfodol) wedi gostwng ychydig yn Hydref i 65,000 ac yn parhau o fewn yr amrediad cul a welwyd dros y ddwy flynedd diwethaf.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.2% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019, i fyny o 1.3% yn Hydref 2019.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Nghymru, lle y cynyddodd gan 7.8% dros y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 4.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2019.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 3.5% dros y 12 mis diwethaf.

Gwelwyd y twf blynyddol arafaf yn Lloegr lle y cynyddodd prisiau gan 1.7% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £172,574 3.5% 7.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2019) £139,951 2.3% 4.0%
Lloegr £251,222 0.3% 1.7%
Yr Alban £154,798 0.4% 3.5%
De Ddwyrain Lloegr £326,636 0.4% 1.0%
De Orllewin Lloegr £259,758 -0.3% 1.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £197,792 1.1% 2.5%
Dwyrain Lloegr £291,281 -0.7% -0.7%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £204,238 1.7% 4.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £130,712 0.7% 1.4%
Gogledd Orllewin Lloegr £169,362 1.1% 3.8%
Llundain £475,458 -0.5% 0.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £165,642 -1.0% 2.6%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing price changes by country and government office region (Welsh).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Hydref 2019 a Thachwedd 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref 2018 a Thachwedd 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.6% rhwng Hydref 2019 a Thachwedd 2019.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Tachwedd 2019 Tachwedd 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £359,296 £350,089 2.6%
Tŷ pâr £224,550 £217,983 3.0%
Tŷ teras £189,614 £186,139 1.9%
Fflat neu fflat deulawr £206,357 £204,365 1.0%
Holl £235,298 £230,224 2.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Medi 2019 Medi 2018
Lloegr 61,633 68,839
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2019) 6,002 6,563
Yr Alban 8,628 8,601
Cymru 3,539 3,959

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Medi 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 3.3% yn Lloegr, 1.8% yn yr Alban, 1.3% yng Nghymru a 4.9% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 2.3% yn Lloegr, 2.4% yn yr Alban a 2.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2015 i 2019 yn ôl gwlad: Medi

A chart showing sales volumes by country for September 2015, September 2016, September 2018, September 2018 and September 2019.

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Medi 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2019, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 3.1%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 2.4% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £293,167 1.7% 3.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £230,787 0.0% 1.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £197,760 0.5% 2.1%
Cyn berchen-feddiannydd £273,241 0.4% 2.3%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Tachwedd 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £224,060 0.5% 2.1%
Morgais £245,105 0.4% 2.3%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919570915