Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mai 2020

Cyhoeddwyd 2 September 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2020

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £235,673

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.9%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.3%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 123.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2020 am 9.30am ddydd Mercher 16 Medi 2020. Gweler yr amserlen gyhoeddi dros dro am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn seiliedig ar drafodion tai wedi eu cwblhau. Fel arfer, gall gymryd 6 i 8 wythnos i’r broses prynu tŷ gael ei chwblhau. Felly, bydd y data prisiau sy’n bwydo i mewn i Fynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2020 yn adlewyrchu’n bennaf y cytundebau hynny a ddigwyddodd cyn i fesurau’r llywodraeth i leihau lledaeniad Covid-19 ddod i rym.

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 2.9% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020, i fyny o 2.7% yn Ebrill 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Ebrill 2020 a Mai 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill 2019 a Mai 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle y cynyddodd prisiau gan 4.8% dros y flwyddyn hyd at Fai 2020. Roedd y twf blynyddol uchaf o fewn rhanbarthau Lloegr yn Swydd Gaerefrog a’r Humber lle y tyfodd prisiau tai cyfartalog gan 4.9%. Gwelwyd y twf blynyddol isaf yn Nwyrain Lloegr, lle y cynyddodd prisiau gan 0.7% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020.

Dangosodd canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mai 2020 ychydig o welliant yn y rhagolygon ar gyfer gwerthiannau dros y 12 mis nesaf, ond mae’r teimlad cyffredinol yn parhau’n bwyllog oherwydd yr ansicrwydd economaidd a achosir gan y pandemig.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes 2020 – Chwarter 1 Asiantau Banc Lloegr y gwelwyd dirywiad amlwg yn nheimlad y farchnad oherwydd yr ansicrwydd economaidd o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mai 2020 mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 48,130. Mae hyn 49.9% yn is na flwyddyn yn ôl. Rhwng Ebrill 2020 a Mai 2020, cynyddodd trafodion gan 14.5%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mai 2020 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd ar gyfer rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi lleihau ymhellach ym Mai i 9,300.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (in Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.9% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020, i fyny o 2.7% yn Ebrill 2020.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yng Nghymru, lle y cynyddodd gan 4.8% dros y flwyddyn hyd at Fai 2020.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 3.8% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2020.

Cynyddodd prisiau tai yn Lloegr gan 2.9% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 2.1% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £169,436 1.7% 4.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2020) £140,580 0.2% 3.8%
Lloegr £251,973 0.2% 2.9%
Yr Alban £154,648 0.5% 2.1%
De Ddwyrain Lloegr £324,659 -1.1% 2.0%
De Orllewin Lloegr £261,006 -0.4% 3.4%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £197,505 -0.7% 2.9%
Dwyrain Lloegr £290,621 -1.0% 0.7%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £203,658 1.5% 3.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £134,545 5.3% 4.4%
Gogledd Orllewin Lloegr £168,261 0.3% 2.6%
Llundain £479,018 -1.2% 3.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £170,198 3.1% 4.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing monthly price changes by country and government office region (in Welsh).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Ebrill 2020 a Mai 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill 2019 a Mai 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Ebrill 2020 a Mai 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mai 2020 Mai 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £357,880 £346,711 3.2%
Tŷ pâr £225,300 £217,808 3.4%
Tŷ teras £189,941 £186,135 2.0%
Fflat neu fflat deulawr £207,583 £201,761 2.9%
Holl £235,673 £229,061 2.9%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mawrth 2020 Mawrth 2019
Lloegr 46,908 65,206
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2020) 4,746 5,177
Yr Alban 5,999 8,384
Cymru 2,829 3,639

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mawrth 2020 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 20.0% yn Lloegr, gan 15.0% yng Nghymru, a chan 27.3% yn yr Alban, a chynyddodd gan 11.1% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 7.5% yn Lloegr, gan 25.8% yn yr Alban, a chan 7.3% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Mawrth

A chart showing sales volumes by country for March 2016, March 2018, March 2018, March 2019 and March 2020 (in Welsh)..

Nodyn: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mawrth 2020 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 18.8%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 9.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mawrth 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £297,830 0.9% 5.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £229,307 0.8% 2.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Mai 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £198,513 0.5% 2.9%
Cyn berchen-feddiannydd £273,020 0.1% 2.9%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Mai 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £223,196 0.3% 2.4%
Morgais £246,016 0.3% 3.1%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915