Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mawrth 2019

Cyhoeddwyd 22 May 2019

1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2019

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£226,798

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.4%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.2%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

119.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2019 am 9.30am ddydd Mercher 19 Mehefin 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 1.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019, i fyny o 1.0% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror 2018 a Mawrth 2018).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Swydd Efrog a’r Humber lle y cynyddodd prisiau gan 3.6% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019, wedi ei ddilyn gan Ogledd Iwerddon, lle y cynyddodd prisiau gan 3.5% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2019. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle y gostyngodd prisiau gan 1.9% dros y flwyddyn hyd at Fawrth 2019, i fyny o ostyngiad o 2.7% yn Chwefror 2019.

Nododd adroddiad chwyddiant Mai 2019 Banc Lloegr fod gweithgarwch yn y farchnad dai wedi parhau’n araf, gyda’r ansicrwydd ynghylch Brexit, cyfyngiadau fforddiadwyedd a’r newidiadau polisi a wnaed i’r farchnad prynu i osod yn lleihau’r galw. Mae’n bosib bod cynnydd yn y cyflenwad tai wedi cael effaith ar brisiau hefyd.

Dangosodd canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mawrth 2019 fod galw (ymholiadau gan brynwyr newydd) wedi disgyn am yr wythfed mis yn olynol gyda lleihad parhaus yn nifer y cyfarwyddiadau newydd hefyd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mawrth 2019, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 101,830. Mae hyn 6.9% yn uwch o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2019, cynyddodd trafodion gan 1.4%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd benthyca yn y dyfodol) wedi lleihau gan oddeutu 3,000 ym Mawrth 2019, i 62,300.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019 (i fyny o 1.0% yn Chwefror 2019).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Ngogledd Iwerddon, lle y cynyddodd gan 3.5% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2019.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 3.3% dros y 12 mis diwethaf.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Nghymru gan 3.0% dros y flwyddyn.

Roedd y twf blynyddol arafaf yn Lloegr lle y cynyddodd prisiau gan 1.1% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £158,696 0.0% 3.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2019) £134,811 -1.0% 3.5%
Lloegr £243,128 -0.5% 1.1%
Yr Alban £149,461 1.9% 3.3%
De Ddwyrain Lloegr £318,491 -0.6% -0.4%
De Orllewin Lloegr £253,752 -0.3% 1.3%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £190,171 -0.4% 2.9%
Dwyrain Lloegr £286,611 -1.1% 0.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £196,571 -0.5% 3.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £123,046 -1.1% -0.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £159,471 -1.7% 2.5%
Llundain £463,283 -0.4% -1.9%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £162,129 1.8% 3.6%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing price changes by country and government office region (Welsh)

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror 2018 a Mawrth 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2019.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mawrth 2019 Mawrth 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £346,474 £339,362 2.1%
Tŷ pâr £215,998 £210,466 2.6%
Tŷ teras £181,995 £180,891 0.6%
Fflat neu fflat deulawr £200,335 £200,056 0.1%
Holl £226,798 £223,612 1.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ionawr 2019 Ionawr 2018
Lloegr 49,745 57,138
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2019) 4,272 5,471
Yr Alban 6,516 6,111
Cymru 2,852 3,170

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ionawr 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 1.7% yn Lloegr a 6.0% yng Ngogledd Iwerddon a chynyddodd gan 10.3% yn yr Alban a 0.6% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 3.3% yn Lloegr, 2.2% yng Nghymru a chynyddu gan 11.1% yn yr Alban yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2015 i 2019 yn ôl gwlad: Ionawr

A chart showing sales volumes by country for January 2015, January 2016, January 2018, January 2018 and January 2019

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ionawr 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 0.8%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 2.1% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £285,284 -0.6% 1.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £224,631 -0.7% 1.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £190,999 -0.3% 1.2%
Cyn berchen-feddiannydd £263,513 -0.2% 1.6%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Mawrth 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £215,907 -0.3% 1.3%
Morgais £236,712 -0.2% 1.5%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Hydref 2018 a Rhagfyr 2018 cafwyd 217,469 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Lloegr oedd £150,000 i £174,999 - 18,272 o eiddo wedi eu prynu
  • Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – 1,141 o eiddo wedi eu prynu
  • yr Alban oedd £75,000 i £99,999 - 3,228 o eiddo wedi eu prynu
  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 -1,898 o eiddo wedi eu prynu

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2018 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.

Mae’r trafodion sydd wedi eu cynnwys yn y dadansoddiad hwn yn gyson â’r rhai a gyhoeddwyd ym Mynegai Prisiau Tai y DU ar 22 Mai 2019. Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i fwy o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 67
£25,000 i £49,999 1,448
£50,000 i £74,999 5,759
£75,000 i £99,999 10,658
£100,000 i £124,999 13,637
£125,000 i £149,999 17,764
£150,000 i £174,999 18,272
£175,000 i £199,999 17,427
£200,000 i £224,999 14,776
£225,000 i £249,999 15,279
£250,000 i £274,999 13,665
£275,000 i £299,999 12,168
£300,000 i £324,999 10,139
£325,000 i £349,999 8,995
£350,000 i £374,999 7,726
£375,000 i £399,999 7,138
£400,000 i £424,999 5,328
£425,000 i £449,999 4,655
£450,000 i £474,999 4,103
£475,000 i £499,999 3,646
£500,000 i £524,999 2,698
£525,000 i £549,999 2,476
£550,000 i £574,999 2,067
£575,000 i £599,999 2,073
£600,000 i £624,999 1,728
£625,000 i £649,999 1,403
£650,000 i £674,999 1,237
£675,000 i £699,999 1,078
£700,000 i £724,999 863
£725,000 i £749,999 820
£750,000 i £774,999 749
£775,000 i £799,999 615
£800,000 i £824,999 587
£825,000 i £849,999 512
£850,000 i £874,999 525
£875,000 i £899,999 408
£900,000 i £924,999 382
£925,000 i £949,999 324
£950,000 i £974,999 345
£975,000 i £999,999 250
£1,000,000 i £1,249,999 1,495
£1,250,000 i £1,499,999 821
£1,500,000 i £1,749,999 431
£1,750,000 i £1,999,999 265
£2,000,000 i £4,999,999 592
£5,000,000 i £9,999,999 59
Mwy na £10,000,000 16

Trafodion tai Gogledd Iwerddon

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 17
£25,000 i £49,999 154
£50,000 i £74,999 724
£75,000 i £99,999 983
£100,000 i £124,999 1,070
£125,000 i £149,999 1,141
£150,000 i £174,999 797
£175,000 i £199,999 459
£200,000 i £224,999 272
£225,000 i £249,999 212
£250,000 i £274,999 151
£275,000 i £299,999 105
£300,000 i £324,999 52
£325,000 i £349,999 63
£350,000 i £374,999 24
£375,000 i £399,999 30
£400,000 i £424,999 17
£425,000 i £449,999 15
£450,000 i £474,999 20
£475,000 i £499,999 10
Mwy na £500,000 31

Trafodion tai yr Alban

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 177
£25,000 i £49,999 997
£50,000 i £74,999 2,330
£75,000 i £99,999 3,228
£100,000 i £124,999 2,819
£125,000 i £149,999 3,085
£150,000 i £174,999 2,663
£175,000 i £199,999 2,459
£200,000 i £224,999 1,734
£225,000 i £249,999 1,533
£250,000 i £274,999 1,190
£275,000 i £299,999 972
£300,000 i £324,999 702
£325,000 i £349,999 498
£350,000 i £374,999 403
£375,000 i £399,999 362
£400,000 i £424,999 243
£425,000 i £449,999 185
£450,000 i £474,999 165
£475,000 i £499,999 126
£500,000 i £524,999 104
£525,000 i £549,999 73
£550,000 i £574,999 55
£575,000 i £599,999 71
£600,000 i £624,999 63
£625,000 i £649,999 57
£650,000 i £674,999 40
£675,000 i £699,999 28
£700,000 i £724,999 23
£725,000 i £749,999 21
£750,000 i £774,999 20
£775,000 i £799,999 15
£800,000 i £824,999 20
£825,000 i £849,999 14
£850,000 i £874,999 11
£875,000 i £899,999 8
£900,000 i £924,999 5
£925,000 i £949,999 8
£950,000 i £974,999 4
£975,000 i £999,999 3
£1,000,000 i £1,249,999 20
£1,250,000 i £1,499,999 9
£1,500,000 i £1,749,999 8
£1,750,000 i £1,999,999 2
£2,000,000 i £4,999,999 3

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 3
£25,000 i £49,999 164
£50,000 i £74,999 741
£75,000 i £99,999 1,437
£100,000 i £124,999 1,691
£125,000 i £149,999 1,898
£150,000 i £174,999 1,622
£175,000 i £199,999 1,219
£200,000 i £224,999 902
£225,000 i £249,999 793
£250,000 i £274,999 577
£275,000 i £299,999 490
£300,000 i £324,999 305
£325,000 i £349,999 272
£350,000 i £374,999 204
£375,000 i £399,999 157
£400,000 i £424,999 122
£425,000 i £449,999 90
£450,000 i £474,999 71
£475,000 i £499,999 40
£500,000 i £524,999 32
£525,000 i £549,999 40
£550,000 i £574,999 23
£575,000 i £599,999 23
£600,000 i £624,999 17
£625,000 i £649,999 9
£650,000 i £674,999 8
£675,000 i £699,999 8
£700,000 i £724,999 4
£725,000 i £749,999 10
£750,000 i £774,999 3
£775,000 i £799,999 6
£800,000 i £824,999 6
£825,000 i £849,999 1
£850,000 i £874,999 4
£875,000 i £899,999 4
£900,000 i £924,999 3
£925,000 i £949,999 2
£950,000 i £974,999 1
£975,000 i £999,999 3

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk