Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mehefin 2021

Cyhoeddwyd 18 August 2021

1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2021

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £265,668

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 13.2%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 4.5%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 139.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2021 am 9.30am ddydd Mercher 15 Medi 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 13.2% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021, i fyny o 9.8% yn Mai 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.5% rhwng Mai a Mehefin 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai a Mehefin 2020).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Orllewin Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 18.6% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain lle cynyddodd prisiau gan 6.3% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mehefin 2021 y cafwyd mis cryf arall ar gyfer gwerthiannau yn y farchnad, ond bod y galw gan brynwyr newydd wedi lleihau ar ôl i’r gwyliau Toll Stamp ddechrau cael eu tynnu’n ôl.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer 2021 Chwarter 2 fod y galw cryf yn parhau am dai ar draws y rhan fwyaf o’r DU a bod prinder eiddo i’w gwerthu sydd wedi gwthio prisiau i fyny.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mehefin 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 198,240. Mae hyn 219.1% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Mai a Mehefin 2021, cynyddodd trafodion y DU gan 74.1% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mehefin 2021 mai nifer y morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tŷ (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) yn Chwefror 2021 oedd 81,300, sydd i lawr ychydig o Fai 2021.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 13.2% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021, i fyny o 9.8% ym Mai 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 16.7%.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 12.0% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 13.3% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 9.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2021.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £195,291 4.6% 16.7%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2021) £153,449 2.9% 9.0%
Lloegr £284,029 4.9% 13.3%
Yr Alban £173,961 2.4% 12.0%
De Ddwyrain Lloegr £355,948 2.7% 10.5%
De Orllewin Lloegr £294,906 5.5% 13.7%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £226,846 5.1% 14.3%
Dwyrain Lloegr £327,017 4.5% 12.1%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £231,429 5.7% 15.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £149,521 5.9% 15.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £200,222 6.8% 18.6%
Llundain £510,299 2.5% 6.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £194,518 7.1% 15.8%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.5% rhwng Mai a Mehefin 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai a Mehefin 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.2% rhwng Mai a Mehefin 2021.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mehefin 2021 Mehefin 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £410,054 £354,822 15.6%
Tŷ pâr £254,441 £224,209 13.5%
Tŷ teras £218,484 £191,724 14.0%
Fflat neu fflat deulawr £221,211 £204,095 8.4%
Holl £265,668 £234,703 13.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ebrill 2021 Ebrill 2020
Lloegr 40,061 23,673
Gogledd Iwerddon (gwerthiannau misol cyfartalog Chwarter 2 – 2021) 2,396 670
Yr Alban 7,007 2,632
Cymru 2,159 1,381

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2021 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Cafwyd seibiant yn y farchnad dai gydol Ebrill 2020 oherwydd y cyfarwyddiadau i aros gartref a gyhoeddwyd ar y pryd, ac mae hyn wedi arwain at y codiadau canrannol blynyddol mawr a welwyd mewn trafodion ar gyfer Ebrill 2021.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ebrill 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 111.8% yn Lloegr, 199.4% yn yr Alban, ac 85.2% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 335.0% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 203.8% yn Lloegr, 160.9% yn yr Alban, 188.1% yng Nghymru a 522.0% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Ebrill

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2021 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ebrill 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2021, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 124.7% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 203.4% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ebrill 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £337,377 4.4% 14.4%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £246,310 -1.9% 9.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Mehefin 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £222,712 4.6% 12.7%
Cyn berchen-feddiannydd £309,754 4.6% 13.9%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Mehefin 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £252,922 4.9% 13.5%
Morgais £277,071 4.5% 13.2%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Ionawr a Mawrth 2021, cafwyd 272,766 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,402 o eiddo
  • Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,181 o eiddo
  • Lloegr oedd £175,000 i £199,999 – prynwyd 14,866 o eiddo
  • yr Alban oedd £75,000 i £99,999 – prynwyd 2,685 o eiddo

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 2021 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 32
£25,000 i £49,999 797
£50,000 i £74,999 3,880
£75,000 i £99,999 7,182
£100,000 i £124,999 9,405
£125,000 i £149,999 12,645
£150,000 i £174,999 14,668
£175,000 i £199,999 14,866
£200,000 i £224,999 13,449
£225,000 i £249,999 14,153
£250,000 i £274,999 13,316
£275,000 i £299,999 12,799
£300,000 i £324,999 11,584
£325,000 i £349,999 10,656
£350,000 i £374,999 9,957
£375,000 i £399,999 8,890
£400,000 i £424,999 7,570
£425,000 i £449,999 6,899
£450,000 i £474,999 6,071
£475,000 i £499,999 5,698
£500,000 i £524,999 4,361
£525,000 i £549,999 4,076
£550,000 i £574,999 3,678
£575,000 i £599,999 3,278
£600,000 i £624,999 2,860
£625,000 i £649,999 2,596
£650,000 i £674,999 2,152
£675,000 i £699,999 1,966
£700,000 i £724,999 1,640
£725,000 i £749,999 1,587
£750,000 i £774,999 1,426
£775,000 i £799,999 1,186
£800,000 i £824,999 1,076
£825,000 i £849,999 952
£850,000 i £874,999 953
£875,000 i £899,999 811
£900,000 i £924,999 657
£925,000 i £949,999 543
£950,000 i £974,999 570
£975,000 i £999,999 466
£1,000,000 i £1,249,999 2,714
£1,250,000 i £1,499,999 1,550
£1,500,000 i £1,749,999 785
£1,750,000 i £1,999,999 458
£2,000,000 i £4,999,999 974
£5,000,000 i £9,999,999 104
Mwy na £10,000,000 39

Trafodion tai Gogledd Iwerddon

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 10
£25,000 i £49,999 112
£50,000 i £74,999 638
£75,000 i £99,999 926
£100,000 i £124,999 920
£125,000 i £149,999 1,181
£150,000 i £174,999 937
£175,000 i £199,999 636
£200,000 i £224,999 384
£225,000 i £249,999 347
£250,000 i £274,999 298
£275,000 i £299,999 210
£300,000 i £324,999 142
£325,000 i £349,999 120
£350,000 i £374,999 86
£375,000 i £399,999 86
£400,000 i £424,999 63
£425,000 i £449,999 39
£450,000 i £474,999 47
£475,000 i £499,999 36
Mwy na £500,000 119

Trafodion tai yr Alban

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 132
£25,000 i £49,999 871
£50,000 i £74,999 1,990
£75,000 i £99,999 2,685
£100,000 i £124,999 2,467
£125,000 i £149,999 2,641
£150,000 i £174,999 2,437
£175,000 i £199,999 2,347
£200,000 i £224,999 1,913
£225,000 i £249,999 1,808
£250,000 i £274,999 1,537
£275,000 i £299,999 1,317
£300,000 i £324,999 972
£325,000 i £349,999 768
£350,000 i £374,999 598
£375,000 i £399,999 459
£400,000 i £424,999 378
£425,000 i £449,999 266
£450,000 i £474,999 222
£475,000 i £499,999 188
£500,000 i £524,999 127
£525,000 i £549,999 102
£550,000 i £574,999 87
£575,000 i £599,999 85
£600,000 i £624,999 99
£625,000 i £649,999 48
£650,000 i £674,999 63
£675,000 i £699,999 52
£700,000 i £724,999 47
£725,000 i £749,999 31
£750,000 i £774,999 26
£775,000 i £799,999 14
£800,000 i £824,999 25
£825,000 i £849,999 14
£850,000 i £874,999 21
£875,000 i £899,999 16
£900,000 i £924,999 10
£925,000 i £949,999 13
£950,000 i £974,999 11
£975,000 i £999,999 11
£1,000,000 i £1,249,999 40
£1,250,000 i £1,499,999 21
£1,500,000 i £1,749,999 11
£1,750,000 i £1,999,999 4
£2,000,000 i £4,999,999 5
£5,000,000 i £9,999,999 0
Mwy na £10,000,000 0

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 1
£25,000 i £49,999 56
£50,000 i £74,999 379
£75,000 i £99,999 831
£100,000 i £124,999 1,075
£125,000 i £149,999 1,402
£150,000 i £174,999 1,169
£175,000 i £199,999 1,009
£200,000 i £224,999 742
£225,000 i £249,999 712
£250,000 i £274,999 564
£275,000 i £299,999 511
£300,000 i £324,999 348
£325,000 i £349,999 313
£350,000 i £374,999 256
£375,000 i £399,999 213
£400,000 i £424,999 139
£425,000 i £449,999 139
£450,000 i £474,999 101
£475,000 i £499,999 102
£500,000 i £524,999 59
£525,000 i £549,999 55
£550,000 i £574,999 44
£575,000 i £599,999 49
£600,000 i £624,999 23
£625,000 i £649,999 19
£650,000 i £674,999 25
£675,000 i £699,999 24
£700,000 i £724,999 20
£725,000 i £749,999 13
£750,000 i £774,999 15
£775,000 i £799,999 6
£800,000 i £824,999 7
£825,000 i £849,999 4
£850,000 i £874,999 8
£875,000 i £899,999 6
£900,000 i £924,999 6
£925,000 i £949,999 2
£950,000 i £974,999 6
£975,000 i £999,999 0
£1,000,000 i £1,249,999 11
£1,250,000 i £1,499,999 6
£1,500,000 i £1,749,999 3
£1,750,000 i £1,999,999 0
£2,000,000 i £4,999,999 2
£5,000,000 i £9,999,999 0
Mwy na £10,000,000 0

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 0068317

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915