Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mehefin 2020

Cyhoeddwyd 16 September 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2020

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £237,834

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 3.4%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.7%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 124.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2020 am 9.30am ddydd Mercher 7 Hydref 2020. Gweler yr amserlen gyhoeddi dros dro am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 3.4% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020, i fyny o 1.1% yn Mai 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.7% rhwng Mai 2020 a Mehefin 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai 2019 a Mehefin 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Lloegr lle y cynyddodd prisiau gan 3.5% dros y flwyddyn hyd at Fehefin 2020. Roedd y twf blynyddol mwyaf o fewn rhanbarthau Lloegr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, lle y tyfodd prisiau tai cyfartalog gan 4.5%. Gwelwyd y twf blynyddol isaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle y cynyddodd prisiau gan 1.7% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020.

Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Mehefin 2020 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn awgrymu bod adfywiad i’w weld ar draws y farchnad, gyda chynnydd amlwg yn y dangosyddion ar gyfer y galw gan brynwyr, gwerthiannau a rhestriadau newydd yn dilyn y cwympiadau sy’n gysylltiedig â’r cyfyngiadau symud. Mae ymatebwyr i’w gweld yn weddol ansicr o hyd ynghylch y rhagolygon ar gyfer cynnal y gwelliant hwn dros y tymor hwy.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes 2020 Chwarter 2 Asiantau Banc Lloegr fod gweithgarwch yn y farchnad dai yn ailddechrau’n raddol yn Lloegr, gyda gwerthwyr tai yn adrodd bod galw cryf gan brynwyr a chynnydd cymedrol yn y cyfarwyddiadau i werthu. Nododd gwerthwyr tai ar hyd a lled y wlad fod cynnydd yn nifer y prynwyr sydd â diddordeb mewn symud allan o Lundain, ac mewn eiddo sy’n fwy addas ar gyfer gweithio o gartref.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mehefin 2020 mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 61,780. Mae hyn 37.4% yn is na flwyddyn yn ôl. Rhwng Mai 2020 a Mehefin 2020, cynyddodd trafodion gan 28.4%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mehefin 2020 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd ar gyfer rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi cynyddu ym Mehefin i 40,000 ond eu bod yn parhau’n is na’r lefel cyn COVID a welwyd yn Chwefror o 73,700.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (in Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.4% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020, i fyny o 1.1% ym Mai 2020.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn Lloegr, lle y cynyddodd gan 3.5% dros y flwyddyn hyd at Fehefin 2020.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 3.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2020.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 2.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020.

Cynyddodd prisiau tai yng Nghymru gan 2.8% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £167,505 2.7% 2.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2020) £141,131 0.3% 3.0%
Lloegr £254,423 2.8% 3.5%
Yr Alban £157,056 2.8% 2.9%
De Ddwyrain Lloegr £327,558 1.6% 2.1%
De Orllewin Lloegr £263,474 2.9% 4.3%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £200,682 2.6% 4.5%
Dwyrain Lloegr £295,856 2.0% 2.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £204,664 3.0% 4.1%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £131,742 2.9% 1.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £170,939 4.3% 4.4%
Llundain £490,495 3.6% 4.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £169,020 2.7% 3.3%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing monthly price changes by country and government office region (in Welsh).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.7% rhwng Mai 2020 a Mehefin 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai 2019 a Mehefin 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.4% rhwng Mai 2020 a Mehefin 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mehefin 2020 Mehefin 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £360,814 £347,564 3.8%
Tŷ pâr £227,561 £218,676 4.1%
Tŷ teras £193,774 £186,272 4.0%
Fflat neu fflat deulawr £206,148 £204,271 0.9%
Holl £237,834 £230,049 3.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ebrill 2020 Ebrill 2019
Lloegr 18,917 60,107
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2020) 1,652 6,195
Yr Alban 2,340 7,927
Cymru 1,166 3,462

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ebrill 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 65.2% yn Lloegr, gan 63.3% yng Nghymru, gan 70.0% yn yr Alban, a chan 68.3% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 56.2% yn Lloegr, 56.5% yng Nghymru, 66.0% yn yr Alban a chan 79.7% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Ebrill

A chart showing sales volumes by country for April 2016, April 2018, April 2018, April 2019 and April 2020 (in Welsh).

Nodyn: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ebrill 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 65.9%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 57.6% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ebrill 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £302,253 1.5% 5.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £226,377 -1.3% 0.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Mehefin 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £200,028 2.8% 3.2%
Cyn berchen-feddiannydd £276,014 2.8% 3.6%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Mehefin 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £225,591 2.9% 2.9%
Morgais £248,165 2.7% 3.6%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Ionawr 2020 a Mawrth 2019, cafwyd 183,679 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,248 o eiddo
  • Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 849 o eiddo
  • Lloegr oedd £150,000 i £174,999 – prynwyd 12,660 o eiddo
  • yr Alban oedd £78,000 i £99,999 – prynwyd 2,285 o eiddo

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 2020 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 67
£25,000 i £49,999 1,049
£50,000 i £74,999 4,470
£75,000 i £99,999 7,758
£100,000 i £124,999 9,529
£125,000 i £149,999 12,153
£150,000 i £174,999 12,660
£175,000 i £199,999 11,984
£200,000 i £224,999 10,288
£225,000 i £249,999 10,234
£250,000 i £274,999 9,414
£275,000 i £299,999 8,165
£300,000 i £324,999 7,104
£325,000 i £349,999 5,941
£350,000 i £374,999 5,370
£375,000 i £399,999 4,553
£400,000 i £424,999 3,823
£425,000 i £449,999 3,135
£450,000 i £474,999 2,794
£475,000 i £499,999 2,460
£500,000 i £524,999 1,893
£525,000 i £549,999 1,724
£550,000 i £574,999 1,566
£575,000 i £599,999 1,363
£600,000 i £624,999 1,191
£625,000 i £649,999 989
£650,000 i £674,999 851
£675,000 i £699,999 791
£700,000 i £724,999 657
£725,000 i £749,999 622
£750,000 i £774,999 589
£775,000 i £799,999 473
£800,000 i £824,999 422
£825,000 i £849,999 354
£850,000 i £874,999 386
£875,000 i £899,999 312
£900,000 i £924,999 289
£925,000 i £949,999 233
£950,000 i £974,999 277
£975,000 i £999,999 220
£1,000,000 i £1,249,999 1,156
£1,250,000 i £1,499,999 679
£1,500,000 i £1,749,999 400
£1,750,000 i £1,999,999 250
£2,000,000 i £4,999,999 506
£5,000,000 i £9,999,999 72
Mwy na £10,000,000 12

Trafodion tai Gogledd Iwerddon

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 19
£25,000 i £49,999 150
£50,000 i £74,999 560
£75,000 i £99,999 759
£100,000 i £124,999 774
£125,000 i £149,999 849
£150,000 i £174,999 644
£175,000 i £199,999 351
£200,000 i £224,999 214
£225,000 i £249,999 188
£250,000 i £274,999 110
£275,000 i £299,999 112
£300,000 i £324,999 49
£325,000 i £349,999 35
£350,000 i £374,999 29
£375,000 i £399,999 33
£400,000 i £424,999 24
£425,000 i £449,999 11
£450,000 i £474,999 4
£475,000 i £499,999 11
Mwy na £500,000 29
Trafodion tai yr Alban
Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 155
£25,000 i £49,999 779
£50,000 i £74,999 1,794
£75,000 i £99,999 2,285
£100,000 i £124,999 1,897
£125,000 i £149,999 2,047
£150,000 i £174,999 1,847
£175,000 i £199,999 1,701
£200,000 i £224,999 1,200
£225,000 i £249,999 1,177
£250,000 i £274,999 869
£275,000 i £299,999 664
£300,000 i £324,999 484
£325,000 i £349,999 387
£350,000 i £374,999 260
£375,000 i £399,999 226
£400,000 i £424,999 163
£425,000 i £449,999 126
£450,000 i £474,999 91
£475,000 i £499,999 73
£500,000 i £524,999 61
£525,000 i £549,999 47
£550,000 i £574,999 58
£575,000 i £599,999 35
£600,000 i £624,999 36
£625,000 i £649,999 34
£650,000 i £674,999 28
£675,000 i £699,999 19
£700,000 i £724,999 17
£725,000 i £749,999 12
£750,000 i £774,999 13
£775,000 i £799,999 12
£800,000 i £824,999 9
£825,000 i £849,999 6
£850,000 i £874,999 11
£875,000 i £899,999 6
£900,000 i £924,999 2
£925,000 i £949,999 7
£950,000 i £974,999 4
£975,000 i £999,999 5
£1,000,000 i £1,249,999 15
£1,250,000 i £1,499,999 15
£1,500,000 i £1,749,999 2
£1,750,000 i £1,999,999 4
£2,000,000 i £4,999,999 6
£5,000,000 i £9,999,999 0
Mwy na £10,000,000 0

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 0
£25,000 i £49,999 108
£50,000 i £74,999 545
£75,000 i £99,999 960
£100,000 i £124,999 1,204
£125,000 i £149,999 1,248
£150,000 i £174,999 1,080
£175,000 i £199,999 864
£200,000 i £224,999 538
£225,000 i £249,999 522
£250,000 i £274,999 396
£275,000 i £299,999 312
£300,000 i £324,999 213
£325,000 i £349,999 171
£350,000 i £374,999 125
£375,000 i £399,999 114
£400,000 i £424,999 79
£425,000 i £449,999 67
£450,000 i £474,999 52
£475,000 i £499,999 34
£500,000 i £524,999 27
£525,000 i £549,999 23
£550,000 i £574,999 22
£575,000 i £599,999 15
£600,000 i £624,999 16
£625,000 i £649,999 12
£650,000 i £674,999 9
£675,000 i £699,999 6
£700,000 i £724,999 3
£725,000 i £749,999 8
£750,000 i £774,999 7
£775,000 i £799,999 5
£800,000 i £824,999 2
£825,000 i £849,999 4
£850,000 i £874,999 3
£875,000 i £899,999 4
£900,000 i £924,999 3
£925,000 i £949,999 1
£950,000 i £974,999 0
£975,000 i £999,999 0
£1,000,000 i £1,249,999 4
£1,250,000 i £1,499,999 1
£1,500,000 i £1,749,999 0
£1,750,000 i £1,999,999 0
£2,000,000 i £4,999,999 0
£5,000,000 i £9,999,999 0
Mwy na £10,000,000 0

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915