Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mehefin 2019

Cyhoeddwyd 14 August 2019

1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2019

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£230,292

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.9%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.7%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

120.8

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2019 am 9.30am ddydd Mercher 18 Medi 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai yn y DU gan 0.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019, yn ddigyfnewid o Fai 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Mai 2019 a Mehefin 2019, o’i gymharu â chynnydd o 0.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai 2018 a Mehefin 2018).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle y cynyddodd prisiau gan 4.4% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019, i lawr o 4.6% yn y flwyddyn hyd at Fai 2019. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle y gostyngodd prisiau gan 2.7% dros y flwyddyn hyd at Fehefin 2019, i fyny o ostyngiad o 3.1% ym Mai 2019.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ym Mehefin 2019 fod tuedd sefydlog yn dechrau dod i’r amlwg. Cynyddodd y galw gan brynwyr yn gymedrol ac roedd cyfarwyddiadau newydd i werthu wedi parhau’n gyson dros y mis. Yn unol â hyn, roedd ei gyfres Gwerthiannau Newydd eu Cytuno wedi symud i diriogaeth gadarnhaol am y tro cyntaf eleni.

Adroddodd Adroddiad Chwyddiant Awst Banc Lloegr fod y farchnad dai yn parhau’n wan ond bod rhai arwyddion ei bod wedi sefydlogi. Adroddodd canlyniadau o’i arolwg NMG diweddar o ddisgwyliadau aelwydydd fod aelwydydd yn disgwyl i brisiau tai ostwng ychydig bach dros y 12 mis nesaf. Adroddodd oddeutu 20% o aelwydydd sy’n disgwyl symud tŷ yn y ddwy flynedd nesaf eu bod wedi oedi cyn symud oherwydd yr ansicrwydd ynghylch Brexit.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mehefin 2019 mai nifer y trafodion, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 84,490. Mae hyn 16.5% yn is na blwyddyn yn ôl. Rhwng Mai 2019 a Mehefin 2019, gostyngodd trafodion gan 9.7%.

Adroddodd datganiad diweddaraf Arian a Chredyd Banc Lloegr fod nifer y morgeisi a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer prynu tai (dangosydd benthyca yn y dyfodol) wedi cynyddu ym Mehefin 2019 i 66,400, a’u bod parhau’n unol â’r blynyddoedd blaenorol yn fras.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019, yn ddigyfnewid o Fai 2019.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Nghymru, lle y cynyddodd gan 4.4% dros y flwyddyn hyd at Fehefin 2019.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 1.3% dros y 12 mis diwethaf.

Roedd y twf blynyddol arafaf yn Lloegr lle y cynyddodd prisiau gan 0.7% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 3.5% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2019.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £163,768 1.2% 4.4%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2019) £136,767 0.8% 3.5%
Lloegr £246,728 0.7% 0.7%
Yr Alban £151,891 0.7% 1.3%
De Ddwyrain Lloegr £322,866 1.1% -0.6%
De Orllewin Lloegr £252,122 -0.4% -0.2%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £195,344 1.6% 3.2%
Dwyrain Lloegr £291,370 0.5% 0.7%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £198,993 0.9% 2.6%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £130,342 1.7% 1.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £164,116 0.2% 2.4%
Llundain £466,824 0.7% -2.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £161,997 0.6% 0.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing price changes by country and government office region (Welsh).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Mai 2019 a Mehefin 2019, o’i gymharu â chynnydd o 0.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai 2018 a Mehefin 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Mai 2019 a Mehefin 2019.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mehefin 2019 Mehefin 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £349,879 £343,969 1.7%
Tŷ pâr £219,752 £215,660 1.9%
Tŷ teras £187,082 £184,595 1.3%
Fflat neu fflat deulawr £200,699 £204,732 -2.0%
Holl £230,292 £228,190 0.9%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ebrill 2019 Ebrill 2018
Lloegr 54,290 58,939
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2019) 5,210 6,189
Yr Alban 7,812 7,495
Cymru 3,181 3,367

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ebrill 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ebrill 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 7.9% yn Lloegr, 6.0% yn yr Alban, 5.9% yng Nghymru a lleihaodd gan 1.8% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae [Ystadegau Trafodion Eiddo y DU]( https://www.gov.uk/government/statistics/monthly-property-transactions-completed-in-the-uk-with-value-40000-or-above a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 3.6% yn Lloegr, 6.1% yn yr Alban a 2.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2015 i 2019 yn ôl gwlad: Ebrill

A chart showing sales volumes by country for March 2015, March 2016, March 2018, March 2018 and March 2019 (Welsh)

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ebrill 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ebrill 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 6.8%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 3.8% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ebrill 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £290,176 1.0% 1.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £224,729 0.8% 1.4%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Mehefin 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £193,701 0.6% 0.5%
Cyn berchen-feddiannydd £268,119 0.8% 1.4%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Mehefin 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £219,961 0.8% 1.1%
Morgais £240,156 0.7% 0.9%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Ionawr 2019 a Mawrth 2019 cafwyd 201,453 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Lloegr oedd £150,000 i £174,999 – 14,720 o eiddo wedi eu prynu
  • Gogledd Iwerddon oedd £100,000 i £124,999 – 760 o eiddo wedi eu prynu
  • yr Alban oedd £75,000 i £99,999 – 2,597 o eiddo wedi eu prynu
  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – 1,382 o eiddo wedi eu prynu

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2019 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i fwy o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 80
£25,000 i £49,999 1,312
£50,000 i £74,999 5,210
£75,000 i £99,999 8,975
£100,000 i £124,999 11,160
£125,000 i £149,999 13,784
£150,000 i £174,999 14,720
£175,000 i £199,999 13,412
£200,000 i £224,999 11,455
£225,000 i £249,999 11,392
£250,000 i £274,999 10,041
£275,000 i £299,999 9,038
£300,000 i £324,999 7,553
£325,000 i £349,999 6,656
£350,000 i £374,999 5,779
£375,000 i £399,999 4,989
£400,000 i £424,999 4,127
£425,000 i £449,999 3,460
£450,000 i £474,999 2,890
£475,000 i £499,999 2,634
£500,000 i £524,999 2,052
£525,000 i £549,999 1,789
£550,000 i £574,999 1,590
£575,000 i £599,999 1,435
£600,000 i £624,999 1,275
£625,000 i £649,999 971
£650,000 i £674,999 897
£675,000 i £699,999 780
£700,000 i £724,999 661
£725,000 i £749,999 569
£750,000 i £774,999 582
£775,000 i £799,999 436
£800,000 i £824,999 412
£825,000 i £849,999 351
£850,000 i £874,999 400
£875,000 i £899,999 313
£900,000 i £924,999 304
£925,000 i £949,999 229
£950,000 i £974,999 234
£975,000 i £999,999 187
£1,000,000 i £1,249,999 1,167
£1,250,000 i £1,499,999 617
£1,500,000 i £1,749,999 324
£1,750,000 i £1,999,999 177
£2,000,000 i £4,999,999 499
£5,000,000 i £9,999,999 59
Mwy na £10,000,000 13

Trafodion tai Gogledd Iwerddon

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 13
£25,000 i £49,999 140
£50,000 i £74,999 614
£75,000 i £99,999 739
£100,000 i £124,999 760
£125,000 i £149,999 741
£150,000 i £174,999 537
£175,000 i £199,999 348
£200,000 i £224,999 174
£225,000 i £249,999 160
£250,000 i £274,999 101
£275,000 i £299,999 86
£300,000 i £324,999 42
£325,000 i £349,999 42
£350,000 i £374,999 20
£375,000 i £399,999 18
£400,000 i £424,999 11
£425,000 i £449,999 7
£450,000 i £474,999 10
£475,000 i £499,999 5
Mwy na £500,000 33

Trafodion tai yr Alban

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 148
£25,000 i £49,999 854
£50,000 i £74,999 2,066
£75,000 i £99,999 2,597
£100,000 i £124,999 2,209
£125,000 i £149,999 2,320
£150,000 i £174,999 2,016
£175,000 i £199,999 1,751
£200,000 i £224,999 1,270
£225,000 i £249,999 1,167
£250,000 i £274,999 888
£275,000 i £299,999 678
£300,000 i £324,999 500
£325,000 i £349,999 389
£350,000 i £374,999 302
£375,000 i £399,999 260
£400,000 i £424,999 179
£425,000 i £449,999 133
£450,000 i £474,999 114
£475,000 i £499,999 91
£500,000 i £524,999 56
£525,000 i £549,999 62
£550,000 i £574,999 44
£575,000 i £599,999 46
£600,000 i £624,999 44
£625,000 i £649,999 18
£650,000 i £674,999 17
£675,000 i £699,999 9
£700,000 i £724,999 24
£725,000 i £749,999 11
£750,000 i £774,999 15
£775,000 i £799,999 4
£800,000 i £824,999 11
£825,000 i £849,999 5
£850,000 i £874,999 5
£875,000 i £899,999 3
£900,000 i £924,999 4
£925,000 i £949,999 7
£950,000 i £974,999 7
£975,000 i £999,999 3
£1,000,000 i £1,249,999 26
£1,250,000 i £1,499,999 6
£1,500,000 i £1,749,999 3
£1,750,000 i £1,999,999 4
£2,000,000 i £4,999,999 4

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 2
£25,000 i £49,999 154
£50,000 i £74,999 645
£75,000 i £99,999 1,116
£100,000 i £124,999 1,248
£125,000 i £149,999 1,382
£150,000 i £174,999 1,165
£175,000 i £199,999 841
£200,000 i £224,999 625
£225,000 i £249,999 585
£250,000 i £274,999 393
£275,000 i £299,999 357
£300,000 i £324,999 226
£325,000 i £349,999 165
£350,000 i £374,999 132
£375,000 i £399,999 106
£400,000 i £424,999 73
£425,000 i £449,999 61
£450,000 i £474,999 41
£475,000 i £499,999 27
£500,000 i £524,999 22
£525,000 i £549,999 22
£550,000 i £574,999 21
£575,000 i £599,999 16
£600,000 i £624,999 7
£625,000 i £649,999 9
£650,000 i £674,999 9
£675,000 i £699,999 6
£700,000 i £724,999 11
£725,000 i £749,999 1
£750,000 i £774,999 2
£775,000 i £799,999 4
£800,000 i £824,999 5
£875,000 i £899,999 2
£900,000 i £924,999 1
£925,000 i £949,999 1
£950,000 i £974,999 3
£975,000 i £999,999 2
£1,000,000 i £1,249,999 2
£1,250,000 i £1,499,999 1
£1,500,000 i £1,749,999 1

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919570915