Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Gorffennaf 2020

Cyhoeddwyd 7 October 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2020

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £237,963

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.3%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.5%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 124.8

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2020 am 9.30am ddydd Mercher 21 Hydref 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 2.3% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020, i lawr o 2.9% ym Mehefin 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Mehefin 2020 a Gorffennaf 2020, o’i gymharu â chynnydd o 1.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin 2019 a Gorffennaf 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle cynyddodd prisiau gan 3.6% dros y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020. Roedd y twf blynyddol mwyaf o fewn rhanbarthau Lloegr yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, lle tyfodd prisiau tai cyfartalog gan 4.3%. Gwelwyd y twf blynyddol isaf yn Ne Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 1.0% dros y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020.

Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Gorffennaf 2020 yn awgrymu bod adferiad y farchnad yn magu momentwm. Fodd bynnag, mae ymatebwyr yn parhau’n ansicr y bydd y momentwm hwn yn cael ei gynnal pan fydd mesurau cymorth y llywodraeth yn dod i ben yn raddol yn ddiweddarach y flwyddyn hon.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr – 2020 Chwarter 3 weithgarwch bywiog a gefnogwyd gan gynnydd cyflym yn y galw o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud, y toriad dros dro yn y dreth stamp a’r cynllun Cymorth i Brynu ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Gorffennaf 2020 mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 70,290. Mae hyn 27.8% yn is na flwyddyn yn ôl. Rhwng Mehefin 2020 a Gorffennaf 2020, cynyddodd trafodion gan 13.5%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Gorffennaf 2020 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd ar gyfer rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi cynyddu yng Ngorffennaf i 66,300 ond eu bod yn parhau’n is na’r lefel cyn COVID a welwyd yn Chwefror o 73,700.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.3% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020, i lawr o 2.9% ym Mehefin 2020.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yng Nghymru, lle cynyddodd gan 3.6% dros y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 3.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2020.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 2.5% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 0.4% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £170,415 1.7% 3.6%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2020) £141,131 0.3% 3.0%
Lloegr £254,688 0.7% 2.5%
Yr Alban £155,335 -1.4% 0.4%
De Ddwyrain Lloegr £325,734 0.3% 1.0%
De Orllewin Lloegr £263,353 0.6% 2.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £201,608 0.8% 4.2%
Dwyrain Lloegr £294,876 0.2% 1.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £206,244 0.9% 4.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £132,161 0.9% 1.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £171,956 1.0% 3.5%
Llundain £484,864 0.1% 1.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £171,325 1.5% 3.8%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Mehefin 2020 a Gorffennaf 2020, o’i gymharu â chynnydd o 1.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin 2019 a Gorffennaf 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Mehefin 2020 a Gorffennaf 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Gorffennaf 2020 Gorffennaf 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £361,986 £352,091 2.8%
Tŷ pâr £227,832 £220,307 3.4%
Tŷ teras £193,619 £188,616 2.7%
Fflat neu fflat deulawr £205,702 £206,741 -0.5%
Holl £237,963 £232,618 2.3%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mai 2020 Mai 2019
Lloegr 26,128 66,812
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2020) 1,652 6,195
Yr Alban 3,085 9,695
Cymru 1,383 3,854

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 56.1% yn Lloegr, 60.4% yng Nghymru, 67.7% yn yr Alban, a 68.3% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fai 2020.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 49.9% yn Lloegr, 57.5% yng Nghymru, 65.7% yn yr Alban a 78.0% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fai 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Mai

Nodyn: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 58.6%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 52.5% yn y flwyddyn hyd at Fai 2020.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £293,825 0.2% 4.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £227,569 0.6% 0.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £199,794 0.3% 1.9%
Cyn berchen-feddiannydd £276,644 0.7% 2.8%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Gorffennaf 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £225,461 0.4% 2.0%
Morgais £248,413 0.5% 2.5%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915