Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ionawr 2019

Cyhoeddwyd 20 March 2019

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2019

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£228,147

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.7%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.8%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

119.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2019 am 9.30am ddydd Mercher 17 Ebrill 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 1.7% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019, i lawr o 2.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2018. Dyma’r twf blynyddol isaf ar gyfer y DU er Mehefin 2013, pan gynyddodd prisiau tai gan 1.5%.

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle y cynyddodd prisiau gan 4.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019, wedi’i ddilyn gan ardal Dwyrain Canolbarth Lloegr, lle y cynyddodd gan 4.4%. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle y gostyngodd prisiau gan 1.6% dros y flwyddyn hyd at Ionawr 2019, i lawr o ostyngiad o 0.7% yn Rhagfyr 2018. Dilynwyd hyn gan Ddwyrain Lloegr lle y gostyngodd prisiau gan 0.2% dros y flwyddyn, y tro cyntaf i’r prisiau ostwng dros y flwyddyn er Hydref 2011.

Nododd adroddiad chwyddiant Banc Lloegr ar gyfer Chwefror 2019 fod gweithgarwch yn y farchnad dai wedi bod yn dawel. Adroddir i’r arafu mwyaf gael ei weld ym marchnad Llundain sydd yn ôl pob tebyg wedi cael ei heffeithio’n anghymesur gan newidiadau rheoleiddiol a newidiadau treth, a gan ymfudo net is o’r Undeb Ewropeaidd. Roedd chwyddiant ym mhrisiau tai Llundain hefyd yn faterol uwch na’r twf incwm rhwng 2014 a dechrau 2016, gan leihau fforddiadwyedd.

Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Ionawr 2019 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn parhau i ddangos bod y farchnad yn dawel, gydag ymholiadau, gwerthiannau a chyfarwyddiadau newydd i gyd yn lleihau ymhellach dros y mis. Ar y lefel pennawd, lleihaodd ymholiadau gan brynwyr newydd am y chweched mis yn olynol gyda’r galw hefyd yn lleihau ar draws y rhan fwyaf o’r DU.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ionawr 2019, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yn 101,170. Mae hyn 1.3% yn uwch o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019 cynyddodd trafodion gan 0.8%.

Mae datganiad diweddaraf Arian a Chredyd Banc Lloegr yn dangos bod nifer y morgeisi a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer prynu tai (dangosydd benthyca yn y dyfodol) yn Ionawr i 66,800, sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd yn y chwe mis blaenorol, sef 65,500.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past 5 years (Welsh)

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.7% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019 (i lawr o 2.2% yn Rhagfyr 2018).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Nghymru, lle y cynyddodd gan 4.6% dros y flwyddyn hyd at Ionawr 2019.

Cynyddodd y pris cyfartalog yn Lloegr gan 1.5% dros y flwyddyn.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 1.3% dros y 12 mis diwethaf.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 5.5% dros y flwyddyn hyd at chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2018.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £160,232 -1.3% 4.6%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2018) £136,669 1.3% 5.5%
Lloegr £244,567 -1.0% 1.5%
Yr Alban £149,036 0.6% 1.3%
De Ddwyrain Lloegr £321,174 -0.5% 0.1%
De Orllewin Lloegr £253,926 -1.4% 0.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £192,757 0.2% 4.4%
Dwyrain Lloegr £288,494 -1.0% -0.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £195,399 -2.1% 4.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £125,233 -3.3% 0.9%
Gogledd Orllewin Lloegr £160,811 -1.3% 3.4%
Llundain £472,230 -0.3% -1.6%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £160,420 -1.0% 2.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region (Welsh)

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.8% rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.3% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2017 ac Ionawr 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ionawr 2019 Ionawr 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £349,363 £339,442 2.9%
Tŷ pâr £214,858 £210,897 1.9%
Tŷ teras £183,520 £180,567 1.6%
Fflat neu fflat deulawr £203,280 £203,450 -0.1%
Holl £228,147 £224,418 1.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Tachwedd 2018 Tachwedd 2017
Lloegr 71,849 76,788
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2018) 5,736 6,784
Yr Alban 9,992 8,711
Cymru 4,506 4,474

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Tachwedd 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2018, cynyddodd nifer y trafodion gan 11.5% yn Lloegr, 16.6% yn yr Alban, 16.4% yng Nghymru a 4.3% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 7.0% yn Lloegr, 15.5% yn yr Alban a 13.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Tachwedd

Sales volumes for 2014 to 2018 by country (Welsh)

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Tachwedd 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2018, cynyddodd nifer y trafodion gan 11.8%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 8.2% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £287,089 -2.1% 5.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £227,150 0.0% 2.8%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £191,799 -1.1% 1.3%
Cyn berchen-feddiannydd £265,166 -0.6% 1.8%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Ionawr 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £218,084 -0.7% 1.9%
Morgais £237,425 -0.9% 1.5%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk