Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Chwefror 2021

Cyhoeddwyd 21 April 2021

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2021

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £250,341

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.6%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.0%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 131.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2021 am 9.30am ddydd Mercher 19 Mai 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 8.6% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021, i lawr o 8.0% yn Ionawr 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, roedd prisiau tai cyfartalog yn y DU yn ddigyfnewid rhwng Ionawr a Chwefror 2021, o’i gymharu â gostyngiad o 0.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr a Chwefror 2020).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 11.9% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 4.6% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021.

Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Chwefror 2021 yn dangos bod cyfyngiadau’r coronafeirws yn Chwefror 2021 i’w gweld yn atal gwerthwyr newydd rhag rhoi eu tai ar werth, gyda’r metrigau galw hefyd ychydig yn negyddol.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes 2021 Chwarter 1 Asiantau Banc Lloegr fod cysylltiadau yn dweud bod y rhagolygon ar gyfer y farchnad dai wedi gwella, gyda gweithgarwch wedi ei gynnal gan estyn y gwyliau treth ar gyfer trafodion eiddo a’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Mynegodd asiantau tai bryder am brinder eiddo sydd ar werth gan ddweud fod prynwyr i’w gweld yn llai sensitif o ran prisiau nag arfer.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Chwefror 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 147,050. Mae hyn 48.5% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Ionawr 2021 a Chwefror 2021, cynyddodd trafodion y DU gan 23.0% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Chwefror 2021 mai’r ffigwr o ran morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tŷ (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) yn Chwefror 2021 oedd 87,700. Er bod hyn yn uwch nag yn Chwefror 2020, mae wedi gostwng ar ôl cyrraedd brig o 103,700 yn Nhachwedd 2020.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 8.6% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021, i fyny o 8.0% yn Ionawr 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021 yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau tai gan 8.7%.

Yng Nghymru cynyddodd prisiau tai gan 8.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 8.0% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 5.3% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2020.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £179,861 -0.7% 8.4%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2020) £147,593 3.0% 5.3%
Lloegr £268,291 0.2% 8.7%
Yr Alban £161,529 -1.7% 8.0%
De Ddwyrain Lloegr £345,075 0.9% 8.5%
De Orllewin Lloegr £279,242 0.0% 9.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £213,967 0.8% 10.6%
Dwyrain Lloegr £306,346 -0.9% 6.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £215,451 0.8% 8.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £138,370 -1.6% 9.0%
Gogledd Orllewin Lloegr £184,351 1.3% 11.9%
Llundain £496,269 -1.4% 4.6%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £182,220 0.6% 10.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, roedd prisiau tai cyfartalog yn y DU yn ddigyfnewid rhwng Ionawr a Chwefror 2021, o’i gymharu â gostyngiad o 0.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr a Chwefror 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Ionawr a Chwefror 2021.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Chwefror 2021 Chwefror 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £383,088 £351,042 9.1%
Tŷ pâr £239,307 £219,734 8.9%
Tŷ teras £204,418 £187,607 9.0%
Fflat neu fflat deulawr £214,114 £200,659 6.7%
Holl £250,341 £230,609 8.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Rhagfyr 2020 Rhagfyr 2019
Cymru 4,146 4,089
Gogledd Iwerddon (trydedd ran o’r gwerthiannau yn Chwarter 4) 2,467 2,252
Lloegr 71,132 70,541
Yr Alban 10,756 8,072

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 16.2% yn Lloegr, 14.8% yng Nghymru, a 34.7% yn yr Alban. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 22.9% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2020.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 28.9% yn Lloegr, 25.9% yng Nghymru, 35.5% yn yr Alban a 43.7% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Rhagfyr

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2020, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 18.3% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 29.6% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £297,104 0.0% 7.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £247,203 0.8% 7.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £210,560 0.4% 8.6%
Cyn berchen-feddiannydd £290,627 -0.4% 8.7%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Chwefror 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £238,614 0.1% 9.0%
Morgais £260,772 -0.1% 8.5%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915