Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Chwefror 2019

Cyhoeddwyd 17 April 2019

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2019

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£226,234

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.6%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.8%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

118.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2019 am 9.30am ddydd Mercher 22 Mai 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 0.6% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2019, i lawr o 1.7% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019. Dyma’r twf blynyddol isaf ar gyfer y DU er Medi 2012, pan gynyddodd prisiau tai gan 0.4%.

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle y cynyddodd prisiau gan 4.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2019, wedi ei ddilyn gan Ogledd Orllewin Lloegr, lle y cynyddodd gan 4.0%. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle y gostyngodd prisiau gan 3.8% dros y flwyddyn hyd at Chwefror 2019, i lawr o ostyngiad o 2.2% yn Ionawr 2019. Dilynwyd hyn gan Dde Ddwyrain Lloegr lle y gostyngodd prisiau gan 1.8% dros y flwyddyn, y tro cyntaf i’r prisiau ostwng yma dros y flwyddyn er Hydref 2011.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes - 2019 Chwarter 1 Banc Lloegr fod hyder yn y farchnad dai yn parhau i leihau, gyda’r ansicrwydd ynghylch Brexit yn rhwystro pobl rhag prynu. Arafodd nifer y tai newydd a werthwyd hefyd, gan arwain at adeiladwyr tai yn cynnig cymhellion sylweddol i gwblhau gwerthiannau.

Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Chwefror 2019 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn parhau i ddangos bod y farchnad yn dawel, gyda nifer yr ymholiadau, gwerthiannau a chyfarwyddiadau newydd i gyd yn isel. Syrthiodd galw am y seithfed mis yn olynol gyda lleihad pellach hefyd yn nifer y cyfarwyddiadau newydd a adroddwyd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Chwefror 2019, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yn 101,780. Mae hyn 2.7% yn uwch o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Ionawr 2019 a Chwefror 2019, cynyddodd trafodion gan 1.7%.

Mae datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr yn dangos bod nifer y morgeisi a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer prynu tai (dangosydd benthyca yn y dyfodol) wedi cwympo yn Chwefror i 64,300, sydd ychydig yn is na’r cyfartaledd ar gyfer y chwe mis blaenorol sef 65,500.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.6% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2019 (i lawr o 1.7% yn Ionawr 2019).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Nghymru, lle y cynyddodd gan 4.1% dros y flwyddyn hyd at Chwefror 2019.

Cynyddodd y pris cyfartalog yn Lloegr gan 0.4% dros y flwyddyn.

Yn yr Alban, gostyngodd prisiau tai gan 0.2% dros y 12 mis diwethaf.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd pris cyfartalog tŷ gan 5.5% dros y flwyddyn hyd at chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2018.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £159,559 0.2% 4.1%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2018) £136,669 1.3% 5.5%
Lloegr £242,964 -0.6% 0.4%
Yr Alban £145,762 -3.1% -0.2%
De Ddwyrain Lloegr £315,700 -1.7% -1.8%
De Orllewin Lloegr £253,730 -0.4% 1.2%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £190,199 -0.5% 1.6%
Dwyrain Lloegr £290,137 0.5% 0.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £196,152 0.4% 2.9%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £125,397 -0.4% -0.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £163,758 1.3% 4.0%
Llundain £459,800 -2.0% -3.8%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £155,685 -2.5% 0.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing price changes by country and government office region (Welsh)

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.8% rhwng Ionawr 2019 a Chwefror 2019, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr 2018 a Chwefror 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Ionawr 2019 a Chwefror 2019.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Chwefror 2019 Chwefror 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £344,374 £341,643 0.8%
Tŷ pâr £215,632 £210,922 2.2%
Tŷ teras £183,367 £181,223 1.2%
Fflat neu fflat deulawr £197,693 £203,309 -2.8%
Holl £226,234 £224,968 0.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Rhagfyr 2018 Rhagfyr 2017
Lloegr 61,424 76,522
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2018) 5,736 6,784
Yr Alban 7,392 8,171
Cymru 3,727 4,659

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Rhagfyr 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2018, lleihaodd nifer y trafodion gan 2.0% yn Lloegr, 8.2% yn yr Alban, 5.1% yng Nghymru a chynyddodd gan 4.3% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 7.2% yn Lloegr, 8.9% yn yr Alban a 6.3% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2018.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Rhagfyr

A chart showing sales volumes for 2014 to 2018 by country for December 2018.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Rhagfyr 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

O gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2018, lleihaodd nifer y trafodion gan 2.4%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 7.3% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2018.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £285,955 0.8% 4.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £226,115 -0.4% 2.0%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £190,438 -0.6% 0.3%
Cyn berchen-feddiannydd £262,759 -1.0% 0.7%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Chwefror 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £215,460 -1.0% 0.4%
Morgais £235,944 -0.7% 0.6%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk