Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Awst 2020

Cyhoeddwyd 21 October 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2020

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £233,196

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.5%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.7%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 125.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2020 am 9.30am ddydd Mercher 18 Tachwedd 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 2.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020, i fyny o 2.1% yng Ngorffennaf 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Gorffennaf 2020 ac Awst 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf 2019 ac Awst 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 2.8% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020. Roedd y twf blynyddol mwyaf o fewn rhanbarthau Lloegr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, lle tyfodd prisiau tai cyfartalog gan 3.6%. Gwelwyd y twf blynyddol isaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.2% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020.

Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Awst 2020 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn dangos bod y momentwm cryf yn y farchnad gwerthu tai yn parhau, er bod y rhagolygon ar gyfer y tymor hwy yn dal i fod yn betrus. Mae’r dangosydd ar gyfer twf mewn prisiau tai yn genedlaethol wedi cyrraedd y lefel uchaf er pedair blynedd ac mae’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn rhagweld y bydd y galw am gartrefi â gerddi yn cynyddu dros y ddwy flynedd nesaf.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr – 2020 Chwarter 3 weithgarwch bywiog wedi ei ategu gan y galw cyfyngedig yn ystod y cyfyngiadau symud, y toriad dros dro yn y dreth stamp a’r cynllun Cymorth i Brynu ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Awst 2020, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 81,280. Mae hyn 16.3% yn is na flwyddyn yn ôl. Rhwng Gorffennaf 2020 ac Awst 2020, cynyddodd trafodion y DU gan 15.6% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Awst 2020 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi cynyddu’n sydyn yn Awst i 84,700, y nifer fwyaf er Hydref 2007.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020, i fyny o 2.1% yng Ngorffennaf 2020.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn y flwyddyn hyd at Awst 2020 yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau tai gan 2.8%.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 2.7% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 0.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 3.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2020.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £172,828 2.1% 2.7%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2020) £141,131 0.3% 3.0%
Lloegr £256,109 0.7% 2.8%
Yr Alban £155,191 0.4% 0.6%
De Ddwyrain Lloegr £332,147 1.6% 2.9%
De Orllewin Lloegr £264,886 0.0% 2.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £202,345 0.6% 3.6%
Dwyrain Lloegr £296,411 0.8% 2.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £204,886 0.1% 2.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £131,701 0.0% 0.2%
Gogledd Orllewin Lloegr £173,617 1.4% 3.5%
Llundain £489,159 0.9% 3.5%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £170,025 0.1% 2.7%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Gorffennaf 2020 ac Awst 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf 2019 ac Awst 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Gorffennaf 2020 ac Awst 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Awst 2020 Awst 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £365,316 £354,368 3.1%
Tŷ pâr £230,455 £221,347 4.1%
Tŷ teras £194,611 £190,139 2.4%
Fflat neu fflat deulawr £203,708 £204,645 -0.5%
Holl £239,196 £233,366 2.5%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mehefin 2020 Mehefin 2019
Lloegr 39,170 69,001
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2020) 1,652 6,195
Yr Alban 3,789 9,224
Cymru 1,750 3,997

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 34.7% yn Lloegr, 51.2% yng Nghymru, 58.0% yn yr Alban, a 68.3% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 29.3% yn Lloegr, 45.1% yng Nghymru, 57.2% yn yr Alban a 44.1% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Mehefin

Nodyn: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 40.4%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 33.0% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2020.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mehefin 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £293,356 -1.6% 5.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £232,746 2.3% 2.5%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Awst 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £200,414 0.6% 2.1%
Cyn berchen-feddiannydd £278,725 0.9% 3.0%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Awst 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £226,657 0.7% 2.0%
Morgais £249,729 0.8% 2.8%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915