Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2020

Cyhoeddwyd 19 August 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2020

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £234,612

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.6%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.2%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 123.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2020 am 9.30am ddydd Mercher 2 Medi 2020. Gweler yr amserlen gyhoeddi dros dro am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn seiliedig ar drafodion tai wedi eu cwblhau. Fel arfer, gall gymryd 6 i 8 wythnos i’r broses prynu tŷ gyrraedd y cam cwblhau. Felly, bydd y data prisiau sy’n bwydo i mewn i Fynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2020 yn adlewyrchu’r cytundebau hynny a ddigwyddodd cyn i fesurau’r llywodraeth i leihau lledaeniad Covid-19 ddod i rym.

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 2.6% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020, i lawr o 3.5% ym Mawrth 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth 2019 ac Ebrill 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle y cynyddodd prisiau gan 5.0% dros y flwyddyn i Ebrill 2020. Roedd y twf blynyddol mwyaf o fewn rhanbarthau Lloegr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, lle y tyfodd prisiau tai cyfartalog gan 4.7%. Gwelwyd y twf blynyddol isaf, a’r unig dwf blynyddol negyddol, yng Ngogledd Dwyrain Lloegr, lle y gostyngodd prisiau gan 2.3% dros y flwyddyn hyd at Ebrill 2020.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Ebrill 2020 fod gweithgarwch yn y farchnad dai yn parhau i gael ei lesteirio gan fesurau cyfyngiadau symud Covid-19, a disgwylir i’r amodau tawel hyn barhau am y tri mis nesaf.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes 2020 Chwarter 1 Asiantau Banc Lloegr y gwelwyd dirywiad amlwg yn nheimlad y farchnad oherwydd yr ansicrwydd economaidd o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ebrill 2020 mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 41,960. Mae hyn 56.9% yn is na blwyddyn yn ôl. Rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 55.5%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Ebrill 2020 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi gostwng i 15,800, sef tua 80% yn is na’r lefelau a welwyd yn Chwefror 2020.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.6% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020, i lawr o 3.5% ym Mawrth 2020.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yng Nghymru, lle y cynyddodd gan 5.0% dros y flwyddyn hyd at Ebrill 2020.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 3.8% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2020.

Cynyddodd prisiau tai yn Lloegr gan 2.5% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 1.6% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £169,489 0.6% 5.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2020) £140,580 0.2% 3.8%
Lloegr £250,874 -0.3% 2.5%
Yr Alban £153,281 0.4% 1.6%
De Ddwyrain Lloegr £327,413 0.2% 2.7%
De Orllewin Lloegr £255,891 -2.5% 1.2%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £200,513 1.1% 4.7%
Dwyrain Lloegr £295,640 1.5% 2.7%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £202,093 0.4% 3.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £125,938 -2.4% -2.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £167,809 -0.2% 3.4%
Llundain £480,425 -1.6% 2.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £165,561 -0.1% 2.3%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Nid yw’r map gwres ar gael oherwydd yr effaith y mae’r pandemig coronafeirws cyfredol wedi ei chael ar wasanaethau gweithredol.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth 2019 ac Ebrill 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.9% rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ebrill 2020 Ebrill 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £359,173 £346,829 3.6%
Tŷ pâr £223,257 £217,063 2.9%
Tŷ teras £192,371 £185,385 3.8%
Fflat neu fflat deulawr £200,585 £202,435 -0.9%
Holl £234,612 £228,749 2.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Chwefror 2020 Chwefror 2019
Lloegr 49,194 57,330
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2020) 4,746 5,177
Yr Alban 5,736 4,502
Cymru 2,863 3,207

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Chwefror 2020 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 6.5% yn yr Alban a chynyddodd gan 11.1% yng Ngogledd Iwerddon. Oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19), nid yw nifer y trafodion ar gyfer Chwefror 2020 yn uniongyrchol gymharol â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion ar gyfer Chwefror 2019 yng Nghymru a Lloegr.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 1.2% yn Lloegr, gan 7.6% yn yr Alban, a chan 1.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Chwefror

A chart showing sales volumes by country for February 2016, February 2018, February 2018, February 2019 and February 2020.

Nodyn: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Chwefror 2020 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19), nid yw nifer y trafodion ar gyfer Chwefror 2020 yn uniongyrchol gymharol â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion ar gyfer Chwefror 2019 yng Nghymru a Lloegr. Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 1.5% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £197,459 -0.1% 2.4%
Cyn berchen-feddiannydd £271,952 -0.2% 2.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £197,459 -0.1% 2.4%
Cyn berchen-feddiannydd £271,952 -0.2% 2.7%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Ebrill 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £221,813 -0.5% 1.9%
Morgais £245,037 0.0% 2.8%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915