Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2019

Cyhoeddwyd 19 June 2019

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2019

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£228,903

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.4%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.7%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

120.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2019 am 9.30am ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 1.4% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019, i lawr o 1.6% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2019, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth 2018 ac Ebrill 2018).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru, lle y cynyddodd prisiau gan 6.7% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019, i fyny o 3.9% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle y gostyngodd prisiau gan 1.2% dros y flwyddyn hyd at Ebrill 2019, i fyny o ostyngiad o 2.5% ym Mawrth 2019.

Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Ebrill 2019 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn awgrymu bod tueddiadau’r farchnad yn parhau’n debyg iawn yn gyffredinol i’r hyn a adroddwyd yn y misoedd diwethaf, gyda’r prif ddangosyddion ar gyfer galw a chyflenwad yn parhau mewn tir negyddol.

Nododd adroddiad chwyddiant Mai 2019 Banc Lloegr fod gweithgarwch yn y farchnad dai wedi parhau’n araf, gyda’r ansicrwydd ynghylch Brexit, cyfyngiadau fforddiadwyedd a newidiadau polisi a wnaed i’r farchnad prynu i osod yn lleihau’r galw. Yn ôl adroddiadau cysylltiadau Asiantau’r Banc, mewn rhai ardaloedd, megis de Lloegr, mae cyflenwad gormodol o dai wedi arwain at ehangu’r bwlch rhwng y pris a ofynnir a’r pris a gynigir.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ebrill 2019, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, y cafwyd 99,420 o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 0.8% yn uwch o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 0.3%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd benthyca yn y dyfodol) wedi codi yn Ebrill 2019 i oddeutu 66,300. Roedd hyn yn agos i gyfartaledd y ddwy flynedd flaenorol ac yn gwrth-droi’r cwymp a welwyd ym Mawrth 2019.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.4% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019 (i lawr o 1.6% ym Mawrth 2019).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Nghymru, lle y cynyddodd gan 6.7% dros y flwyddyn hyd at Ebrill 2019.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 1.6% dros y 12 mis diwethaf.

Roedd y twf blynyddol arafaf yn Lloegr, lle y cynyddodd prisiau gan 1.1% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019.

Cynyddodd prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon gan 3.5% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2019.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £163,902 2.4% 6.7%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2019) £134,811 -1.0% 3.5%
Lloegr £245,128 0.7% 1.1%
Yr Alban £150,825 0.7% 1.6%
De Ddwyrain Lloegr £318,727 -0.1% -0.8%
De Orllewin Lloegr £253,410 -0.1% 1.3%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £192,682 0.9% 2.9%
Dwyrain Lloegr £289,436 0.3% 0.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £195,498 -0.2% 2.2%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £130,888 5.0% 2.0%
Gogledd Orllewin Lloegr £161,891 0.6% 2.6%
Llundain £471,504 2.4% -1.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £161,443 0.3% 2.5%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing price changes by country and government office region (Welsh).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2019, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth 2018 ac Ebrill 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2019.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ebrill 2019 Ebrill 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £349,793 £340,708 2.7%
Tŷ pâr £216,938 £212,721 2.0%
Tŷ teras £186,587 £183,186 1.9%
Fflat neu fflat deulawr £199,018 £202,191 -1.6%
Holl £228,903 £225,750 1.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Chwefror 2019 Chwefror 2018
Lloegr 52,215 58,494
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2019) 4,272 5,471
Yr Alban 5,387 5,406
Cymru 2,988 3,276

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diwethaf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Chwefror 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 1.7% yn Lloegr, 1.9% yn yr Alban, 1.4% yng Nghymru a lleihaodd gan 6.0% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 0.7% yn Lloegr, 11.2% yn yr Alban, ac wedi cynyddu gan 3.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2015 i 2019 yn ôl gwlad: Ionawr

A chart showing sales volumes by country for February 2015, February 2016, February 2018, February 2018 and February 2019.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Chwefror 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 1.1%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 1.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2019.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £293,194 2.8% -0.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £223,181 -0.6% 1.4%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £192,559 0.7% 1.0%
Cyn berchen-feddiannydd £266,379 0.9% 1.9%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Ebrill 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £218,262 0.9% 1.5%
Morgais £238,825 0.7% 1.4%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk