Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Medi 2025
Cyhoeddwyd 19 Tachwedd 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2025
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £209,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.7%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.8%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 103.7
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2025 am 9:30am ar ddydd Mercher 17 Rhagfyr 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.7% yn y 12 mis hyd at Fedi 2025, i £209,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 1.8% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Awst 2025 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 2.6% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fedi 2025.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Awst 2025 a Medi 2025, o’i gymharu â gostyngiad o 1.6% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Awst 2025 a Medi 2025.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2024 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 15.8% yng Nghymru a chynyddodd gan 15.9% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2025. Pen-y-bont ar Ogwr welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 8.4% i £216,000 yn y 12 mis hyd at Fedi 2025. Mewn cyferbyniad, Merthyr Tudful welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 6.3% i £140,000 yn y 12 mis hyd at Fedi 2025.
Yng Nghymru, tai pâr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 3.9% yn y 12 mis hyd at Fedi 2025, i’r pris cyfartalog o £209,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan gynyddu 0.1% yn y 12 mis hyd at Fedi 2025, i’r pris cyfartalog o £127,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.7% yn y 12 mis hyd at Fedi 2025 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 1.8% yn y 12 mis hyd at Awst 2025 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Medi 2025 | Medi 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £208,361 | £201,129 | 3.6% |
| Blaenau Gwent | £140,519 | £132,624 | 6% |
| Bro Morgannwg | £294,068 | £290,003 | 1.4% |
| Caerdydd | £270,185 | £266,508 | 1.4% |
| Caerffili | £193,905 | £185,271 | 4.7% |
| Casnewydd | £221,981 | £216,827 | 2.4% |
| Castell-nedd Port Talbot | £161,622 | £152,939 | 5.7% |
| Ceredigion | £223,907 | £238,318 | -6% |
| Conwy | £204,124 | £203,220 | 0.4% |
| Gwynedd | £193,591 | £198,053 | -2.3% |
| Merthyr Tudful | £139,666 | £149,073 | -6.3% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £215,986 | £199,218 | 8.4% |
| Powys | £241,146 | £236,169 | 2.1% |
| Rhondda Cynon Taf | £154,627 | £151,270 | 2.2% |
| Sir Benfro | £212,859 | £220,267 | -3.4% |
| Sir Ddinbych | £197,279 | £196,069 | 0.6% |
| Sir Fynwy | £329,526 | £325,463 | 1.2% |
| Sir y Fflint | £211,546 | £204,298 | 3.5% |
| Sir Gaerfyrddin | £199,590 | £190,066 | 5% |
| Torfaen | £194,406 | £190,158 | 2.2% |
| Wrecsam | £204,598 | £195,570 | 4.6% |
| Cymru | £209,253 | £203,822 | 2.7% |
| Ynys Môn | £229,960 | £231,449 | -0.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Medi 2025, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £330,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Merthyr Tudful, lle mai £140,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Medi 2025 | Medi 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £329,307 | £322,723 | 2.0% |
| Tŷ pâr | £208,981 | £201,210 | 3.9% |
| Tŷ teras | £166,304 | £161,880 | 2.7% |
| Fflat neu fflat deulawr | £127,499 | £127,399 | 0.1% |
| Holl | £209,253 | £203,822 | 2.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
| Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2025 | Gorffennaf 2024 |
|---|---|---|
| Abertawe | 175 | 271 |
| Blaenau Gwent | 48 | 62 |
| Bro Morgannwg | 124 | 165 |
| Caerdydd | 263 | 454 |
| Caerffili | 126 | 179 |
| Casnewydd | 137 | 193 |
| Castell-nedd Port Talbot | 112 | 145 |
| Ceredigion | 51 | 68 |
| Conwy | 128 | 153 |
| Gwynedd | 88 | 120 |
| Merthyr Tudful | 28 | 49 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 124 | 186 |
| Powys | 90 | 178 |
| Rhondda Cynon Taf | 195 | 255 |
| Sir Benfro | 111 | 144 |
| Sir Ddinbych | 71 | 114 |
| Sir Gaerfyrddin | 166 | 174 |
| Sir Fynwy | 64 | 106 |
| Sir y Fflint | 97 | 205 |
| Torfaen | 40 | 111 |
| Wrecsam | 119 | 132 |
| Cymru | 2,408 | 3,528 |
| Ynys Môn | 51 | 64 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 15.8% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 7.2% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Gorffennaf 2021 | 3,890 |
| Gorffennaf 2022 | 4,207 |
| Gorffennaf 2023 | 2,872 |
| Gorffennaf 2024 | 3,528 |
| Gorffennaf 2025 | 2,408 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Gorffennaf 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £351,373 | 3.7% | 16.0% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £206,568 | -0.5% | 1.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Medi 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £179,669 | -0.9% | 3.0% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £250,289 | -0.6% | 2.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Medi 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £208,658 | -0.6% | 1.9% |
| Morgais | £209,583 | -0.8% | 3.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Gorffennaf 2025 |
|---|---|
| Cymru | 3 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288