Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Hydref 2025
Updated 18 December 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2025
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £211,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.5%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.1%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 104.4
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Tachwedd 2025 yn cael ei gyhoeddi am 9.30yb ar ddydd Mercher 21 Ionawr 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.5% yn y 12 mis hyd at Hydref 2025, i £211,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i lawr o 2.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Fedi 2025 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 1.7% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Hydref 2025.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.1% rhwng Medi 2025 a Hydref 2025, o’i gymharu â chynnydd o 1.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Medi 2025 a Hydref 2025.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2024 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 3.1% yng Nghymru a chynyddodd gan 7.0% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 16 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Hydref 2025. Sir Fynwy welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 5.9% i £339,000 yn y 12 mis hyd at Hydref 2025. Mewn cyferbyniad, Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 11.5% i £216,000 yn y 12 mis hyd at Hydref 2025.
Yng Nghymru, tai pâr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 3.3% yn y 12 mis hyd at Hydref 2025, i’r pris cyfartalog o £211,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 1.9% yn y 12 mis hyd at Hydref 2025, i’r pris cyfartalog o £128,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 1.5% yn y 12 mis hyd at Hydref 2025 (amcangyfrif dros dro), i lawr o 2.3% yn y 12 mis hyd at Fedi 2025 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Hydref 2025 | Hydref 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Cymru | £210,657 | £207,454 | 1.5% |
| Abertawe | £210,493 | £201,673 | 4.4% |
| Blaenau Gwent | £139,972 | £134,565 | 4% |
| Bro Morgannwg | £303,769 | £290,918 | 4.4% |
| Caerdydd | £269,104 | £265,928 | 1.2% |
| Caerffili | £191,458 | £186,863 | 2.5% |
| Casnewydd | £225,720 | £217,080 | 4% |
| Castell-nedd Port Talbot | £158,771 | £150,650 | 5.4% |
| Ceredigion | £215,748 | £243,664 | -11.5% |
| Conwy | £210,397 | £205,130 | 2.6% |
| Gwynedd | £197,868 | £195,973 | 1% |
| Merthyr Tudful | £141,058 | £150,665 | -6.4% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £209,095 | £205,636 | 1.7% |
| Powys | £239,028 | £236,397 | 1.1% |
| Rhondda Cynon Taf | £154,816 | £153,062 | 1.1% |
| Sir Benfro | £217,320 | £221,053 | -1.7% |
| Sir Ddinbych | £196,446 | £197,175 | -0.4% |
| Sir Fynwy | £339,158 | £320,183 | 5.9% |
| Sir y Fflint | £211,930 | £206,409 | 2.7% |
| Sir Gaerfyrddin | £194,117 | £190,333 | 2% |
| Torfaen | £189,286 | £191,141 | -1% |
| Wrecsam | £205,316 | £196,181 | 4.7% |
| Ynys Môn | £229,992 | £231,858 | -0.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Hydref 2025, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £339,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £140,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Hydref 2025 | Hydref 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £328,553 | £326,439 | 0.6% |
| Tŷ pâr | £211,311 | £204,606 | 3.3% |
| Tŷ teras | £167,952 | £165,269 | 1.6% |
| Fflat neu fflat deulawr | £128,477 | £130,914 | -1.9% |
| Holl | £210,657 | £207,454 | 1.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.
| Awdurdodau lleol | Awst 2025 | Awst 2024 |
|---|---|---|
| Cymru | 2,474 | 3,790 |
| Abertawe | 185 | 291 |
| Blaenau Gwent | 56 | 65 |
| Bro Morgannwg | 127 | 172 |
| Caerdydd | 288 | 422 |
| Caerffili | 145 | 209 |
| Casnewydd | 131 | 203 |
| Castell-nedd Port Talbot | 99 | 175 |
| Ceredigion | 65 | 67 |
| Conwy | 112 | 169 |
| Gwynedd | 104 | 160 |
| Merthyr Tudful | 25 | 75 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 123 | 190 |
| Powys | 96 | 163 |
| Rhondda Cynon Taf | 155 | 264 |
| Sir Benfro | 114 | 162 |
| Sir Ddinbych | 87 | 119 |
| Sir Gaerfyrddin | 155 | 234 |
| Sir Fynwy | 95 | 140 |
| Sir y Fflint | 120 | 197 |
| Torfaen | 49 | 92 |
| Wrecsam | 97 | 165 |
| Ynys Môn | 46 | 56 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 9.0% yn Lloegr, cynyddodd gan 1.8% yn yr Alban, a chynyddodd gan 3.1% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 3.4% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2025.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Awst 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi lleihau gan 0.3% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 1.9% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 2.8% yng Nghymru, ac wedi lleihau gan 3.9% yng Ngogledd Iwerddon.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Awst 2021 | 4,304 |
| Awst 2022 | 4,237 |
| Awst 2023 | 3,135 |
| Awst 2024 | 3,790 |
| Awst 2025 | 2,474 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Awst 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £344,569 | 1.1% | 13.9% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £208,135 | 0.6% | 1.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
|# Math o brynwr|Pris cyfartalog Hydref 2025|Newid misol|Newid blynyddol| -|-|-|-|- |# Prynwr am y tro cyntaf|£181,389|1.3%|1.9%| |# Cyn berchen-feddiannydd|£251,005|0.7%|1.0%|
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Hydref 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £210,228 | 1.1% | 1.0% |
| Morgais | £210,916 | 1.1% | 1.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Awst 2025 |
|---|---|
| Cymru | 6 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288