Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Hydref 2021

Cyhoeddwyd 15 December 2021

1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £203,224

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 15.5%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.6%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 149.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2021 am 9.30am ddydd Mercher 19 Ionawr2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 15.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021, i lawr o 16.5% ym Medi 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 10.2% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.6% rhwng Medi a Hydref 2021, o’i gymharu â chynnydd o 3.5% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Medi a Hydref 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.1% rhwng Medi a Hydref 2021.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 25.9% yng Nghymru, o 2178 i 1613. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 30.3%, o 58168 i 40528 dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Hydref 2021 o’i gymharu â Hydref 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Merthyr Tudful, lle cododd 24.8% i £138,000 yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021. Mewn cyferbyniad, Powys welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 8.2% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £216,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 17.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021 i £314,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 11.1% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021 i £131,682.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 15.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021, i lawr o 16.5% ym Medi 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Hydref 2021 Hydref 2020 Gwahaniaeth
Abertawe £177,393 £157,053 13%
Blaenau Gwent £121,739 £98,816 23.2%
Bro Morgannwg £285,325 £237,741 20%
Caerdydd £242,982 £217,226 11.9%
Caerffili £170,465 £149,339 14.1%
Casnewydd £212,365 £192,374 10.4%
Castell-nedd Port Talbot £148,880 £128,275 16.1%
Ceredigion £232,812 £195,716 19%
Conwy £215,009 £182,553 17.8%
Gwynedd £190,821 £170,020 12.2%
Merthyr Tudful £138,102 £110,641 24.8%
Pen-y-bont ar Ogwr £186,552 £168,625 10.6%
Powys £215,527 £199,215 8.2%
Rhondda Cynon Taf £144,712 £123,134 17.5%
Sir Benfro £214,929 £189,485 13.4%
Sir Ddinbych £189,093 £161,848 16.8%
Sir Fynwy £324,841 £286,379 13.4%
Sir y Fflint £195,085 £176,797 10.3%
Sir Gaerfyrddin £189,224 £161,081 17.5%
Tor-faen £182,970 £156,377 17%
Wrecsam £187,656 £162,057 15.8%
Ynys Môn £217,199 £191,674 13.3%
Cymru £203,224 £175,948 15.5%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Hydref 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £325,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £122,000 oedd pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Hydref 2021 Hydref 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £313,765 £267,098 17.5%
Tŷ pâr £196,266 £170,351 15.2%
Tŷ teras £157,305 £136,805 15.0%
Fflat neu fflat deulawr £131,682 £118,512 11.1%
Holl £203,224 £175,948 15.5%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Awst 2021 Awst 2020
Abertawe 127 158
Blaenau Gwent 44 49
Bro Morgannwg 81 132
Caerdydd 133 264
Caerffili 86 121
Casnewydd 62 108
Castell-nedd Port Talbot 71 118
Ceredigion 39 54
Conwy 79 110
Gwynedd 73 111
Merthyr Tudful 15 42
Pen-y-bont ar Ogwr 80 124
Powys 73 106
Rhondda Cynon Taf 153 187
Sir Benfro 82 116
Sir Ddinbych 44 100
Sir Gaerfyrddin 104 148
Sir Fynwy 43 79
Sir y Fflint 91 159
Tor-faen 31 63
Wrecsam 48 109
Ynys Môn 54 67
Cymru 1,613 2,525

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 25.9% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 53.9% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Awst 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Awst 2017 4,572
Awst 2018 4,811
Awst 2019 4,546
Awst 2020 2,525
Awst 2021 1,613

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Awst 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £274,062 2.8% 20.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £187,859 4.1% 10.6%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Hydref 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £174,302 2.2% 14.9%
Cyn berchen-feddiannydd £237,414 3.1% 16.2%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Hydref 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £197,206 2.5% 15.2%
Morgais £206,785 2.7% 15.6%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Awst 2021
Cymru 3

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 0068317