Mynegai Prisiau Tai y DU: Mawrth 2026
Cyhoeddwyd 20 Mai 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2026
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £268,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.0%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.4%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 102.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 17 Mehefin 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn, mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo “cyfartalog” sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol Cadw prisiau tai cyfartalog yn gyfoes a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.
Ar 20 Medi 2025, cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Prydain Fawr, sy’n lleihau’r goramcangyfrif cychwynnol o amcangyfrifon eiddo a adeiledir o’r newydd mewn amcangyfrifon dros dro. Gan fod gwella’r dull hwn yn cynyddu cywirdeb ein hamcangyfrifon cychwynnol, rydym yn disgwyl i’r diwygiadau cyffredinol rhwng amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU dros dro (1af) a therfynol (13eg) fod yn llai wrth symud ymlaen. Mae rhagor o fanylion am y gwelliant i’r dull hwn ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Yn ogystal â hyn, o 17 Rhagfyr 2025, mae’r gwaith i symud system gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU i blatfform newydd wedi golygu y gallwn gyflwyno gwelliant bach yn y ffordd rydym yn cysylltu’r setiau data a ddefnyddir wrth gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, bod gan y dull newydd wybodaeth fwy cadarn am briodoleddau eiddo, er enghraifft arwynebedd llawr a nifer yr ystafelloedd sy’n cael eu defnyddio yn y broses fodelu. Mae’r gwelliant hwn wedi arwain at rai diwygiadau bach yn ôl i fis Ionawr 2025.
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
O 22 Ebrill 2026, rydym wedi cyflwyno’r un gwelliannau cysylltu hyn i’n prosesu blynyddol; yn ogystal, rydym wedi gwneud gwelliant bach i gyfrifo’r pwysau a ddefnyddir ar gyfer eiddo sydd â nodweddion ar goll yn y model atchweliad.
2. Datganiad economaidd
0.0% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 1.7% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026.
£268,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Mawrth 2026 (amcangyfrif dros dro), sydd heb newid oddi ar 12 mis yn ôl. Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026 yn Lloegr i £290,000 (0.6%), cynyddodd yng Nghymru i £213,000 (2.9%) a chynyddodd yn yr Alban i £187,000 (1.6%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i £198,000 yng Ngogledd Iwerddon (7.4%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.4% rhwng Chwefror 2026 a Mawrth 2026, o’i gymharu â chynnydd o 1.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.2% rhwng Chwefror 2026 a Mawrth 2026.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Nghanolbarth Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.7% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026. Llundain oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 2.1% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026.
Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Mawrth 2026 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod cynnydd mewn costau benthyca wedi bwrw’r galw gan brynwyr a nifer y gwerthiannau.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Mawrth 2026, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 104,000. Mae hyn 40.9% yn is na 12 mis yn ôl (Mawrth 2025). Rhwng Chwefror 2026 a Mawrth 2026, cynyddodd trafodion y DU gan 1.3% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol rhwng Chwefror 2026 a Mawrth 2026, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 16.7% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 9.9% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 15.8% yng Nghymru ac wedi cynyddu gan 2.5% yng Ngogledd Iwerddon.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mawrth 2026 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd benthyca yn y dyfodol, wedi cynyddu i 63,500 ym Mawrth, yn uwch na chyfartaledd o oddeutu 63,200 dros y 6 mis blaenorol.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 4 blynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
0.0% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 1.7% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026.
£268,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Mawrth 2026 (amcangyfrif dros dro), sydd heb newid oddi ar 12 mis yn ôl. Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026 yn Lloegr i £290,000 (0.6%), cynyddodd yng Nghymru i £213,000 (2.9%) a chynyddodd yn yr Alban i £187,000 (1.6%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i £198,000 yng Ngogledd Iwerddon (7.4%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
| Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Cymru | £213,240 | 0.6% | 2.9% |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2026) | £198,015 | 1.5% | 7.4% |
| Lloegr | £289,946 | -0.5% | -0.6% |
| Yr Alban | £186,582 | -0.2% | 1.6% |
| De Ddwyrain Lloegr | £378,515 | 0.0% | -0.8% |
| De Orllewin Lloegr | £300,849 | -0.1% | -0.8% |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | £241,747 | 0.3% | 0.7% |
| Dwyrain Lloegr | £337,182 | -0.4% | 0.1% |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | £245,797 | -1.6% | -0.3% |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | £161,629 | -0.9% | -1.2% |
| Gogledd Orllewin Lloegr | £214,678 | -0.9% | -0.8% |
| Llundain | £542,065 | -0.3% | -2.1% |
| Swydd Gaerefrog a Humber | £207,750 | -0.9% | -0.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 64KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.4% rhwng Chwefror 2026 a Mawrth 2026, o’i gymharu â chynnydd o 1.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.2% rhwng Chwefror 2026 a Mawrth 2026.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
| Math o eiddo | Mawrth 2026 | Mawrth 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £438,263 | £430,077 | 1.9% |
| Tŷ pâr | £274,251 | £269,386 | 1.8% |
| Tŷ teras | £228,340 | £227,171 | 0.5% |
| Fflat neu fflat deulawr | £188,643 | £199,186 | -5.3% |
| Holl | £268,132 | £268,019 | 0.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 67KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu nifer y gwerthiannau a gafodd eu cofrestru hyd yma ar gyfer mis penodol ac nid ydynt yn adlewyrchu cyfanswm y gwerthiannau a ddigwyddodd yn ystod y mis hwnnw. Mae’n cymryd amser i’r gwerthiannau a ddigwyddodd gael eu cofrestru a’u prosesu i’w cynnwys yn niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU. Felly, mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y 12 mis diweddaraf o ddata yn niferoedd data dros dro a gellir eu diwygio, yn unol â pholisi cyfnod diwygio Mynegai Prisiau Tai y DU. Ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio niferoedd data dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU i ddod i gasgliadau ynghylch tueddiadau mewn gweithgarwch gwerthiannau.
Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn parhau i wella. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag y buont yn hanesyddol a dylent nodi bod mwy o ansicrwydd ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.
Cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU o Awst 2025; mae rhagor o fanylion ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2026 yn seiliedig ar oddeutu 36,700 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 6,400 ar gyfer yr Alban, a 2,000 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 46% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Mawrth 2026, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond wedi cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
| Gwlad | Ionawr 2026 | Ionawr 2025 |
|---|---|---|
| Lloegr | 35,188 | 55,008 |
| Gogledd Iwerddon | 1,670 | 2,199 |
| Yr Alban | 6,945 | 6,911 |
| Cymru | 1,866 | 2,777 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o nifer y trafodion ar gyfer Ionawr 2025 â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2026, lleihaodd trafodion gan 3.0% yn Lloegr, cynyddodd gan 1.9% yn yr Alban a lleihaodd gan 0.4% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 8.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2026.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi lleihau gan 2.6% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 1.1% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 4.4% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 3.2% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2022 i 2026 yn ôl gwlad: Ionawr
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2025 â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2026, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 2.4%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 1.9% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Ionawr 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £343,580 | -0.5% | 0.1% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £264,175 | -0.2% | 1.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 11KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Mawrth 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £226,247 | -0.3% | -0.7% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £329,454 | -0.5% | 0.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 4.7KB)
Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Mawrth 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £254,246 | -0.6% | -0.7% |
| Morgais | £277,194 | -0.3% | 0.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 5KB)
7. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein canllaw Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8. Dosbarthiadau trafodion tai
Rhwng Hydref a Rhagfyr 2025, cafwyd 199,035 o werthiannau eiddo.
Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:
- Cymru oedd £150,000 i £174,999 – 975 o eiddo wedi eu prynu
- Gogledd Iwerddon oedd £175,000 i £199,999 – 816 o eiddo wedi eu prynu
- Lloegr oedd £225,000 i £249,999 – 10,581 o eiddo wedi eu prynu
- Yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – 2,681 o eiddo wedi eu prynu
Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2025 ar gyfer gwledydd y DU. Cyflwynir data ar gyfer Prydain Fawr mewn bandiau o £25,000 hyd at £10 miliwn, ac yna band mwy ar gyfer dros £10 miliwn. Cyflwynir data ar gyfer Gogledd Iwerddon mewn bandiau o £25,000 i £500,000, ac yna band mwy ar gyfer dros £500,000.
Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.
Trafodion tai Lloegr
| Band pris | Trafodion tai |
|---|---|
| less than £25,000 | 23 |
| £25,000 - £49,999 | 334 |
| £50,000 - £74,999 | 1570 |
| £75,000 - £99,999 | 3503 |
| £100,000 - £124,999 | 5309 |
| £125,000 - £149,999 | 7533 |
| £150,000 - £174,999 | 9502 |
| £175,000 - £199,999 | 10325 |
| £200,000 - £224,999 | 10294 |
| £225,000 - £249,999 | 10581 |
| £250,000 - £274,999 | 10462 |
| £275,000 - £299,999 | 9520 |
| £300,000 - £324,999 | 8760 |
| £325,000 - £349,999 | 7702 |
| £350,000 - £374,999 | 7163 |
| £375,000 - £399,999 | 6358 |
| £400,000 - £424,999 | 5406 |
| £425,000 - £449,999 | 4894 |
| £450,000 - £474,999 | 4357 |
| £475,000 - £499,999 | 3736 |
| £500,000 - £524,999 | 2924 |
| £525,000 - £549,999 | 2607 |
| £550,000 - £574,999 | 2387 |
| £575,000 - £599,999 | 2089 |
| £600,000 - £624,999 | 1915 |
| £625,000 - £649,999 | 1673 |
| £650,000 - £674,999 | 1587 |
| £675,000 - £699,999 | 1258 |
| £700,000 - £724,999 | 1147 |
| £725,000 - £749,999 | 1009 |
| £750,000 - £774,999 | 1000 |
| £775,000 - £799,999 | 798 |
| £800,000 - £824,999 | 749 |
| £825,000 - £849,999 | 638 |
| £850,000 - £874,999 | 692 |
| £875,000 - £899,999 | 550 |
| £900,000 - £924,999 | 496 |
| £925,000 - £949,999 | 386 |
| £950,000 - £974,999 | 425 |
| £975,000 - £999,999 | 342 |
| £1,000,000 - £1,249,999 | 1629 |
| £1,250,000 - £1,499,999 | 957 |
| £1,500,000 - £1,749,999 | 512 |
| £1,750,000 - £1,999,999 | 273 |
| £2,000,000 - £4,999,999 | 570 |
| £5,000,000 - £9,999,999 | 43 |
| greater than £10,000,000 | 7 |
Trafodion tai Cymru
| Band pris | Trafodion tai |
|---|---|
| less than £25,000 | 0 |
| £25,000 - £49,999 | 14 |
| £50,000 - £74,999 | 104 |
| £75,000 - £99,999 | 326 |
| £100,000 - £124,999 | 617 |
| £125,000 - £149,999 | 878 |
| £150,000 - £174,999 | 968 |
| £175,000 - £199,999 | 975 |
| £200,000 - £224,999 | 791 |
| £225,000 - £249,999 | 743 |
| £250,000 - £274,999 | 629 |
| £275,000 - £299,999 | 493 |
| £300,000 - £324,999 | 404 |
| £325,000 - £349,999 | 354 |
| £350,000 - £374,999 | 308 |
| £375,000 - £399,999 | 268 |
| £400,000 - £424,999 | 167 |
| £425,000 - £449,999 | 146 |
| £450,000 - £474,999 | 123 |
| £475,000 - £499,999 | 82 |
| £500,000 - £524,999 | 71 |
| £525,000 - £549,999 | 49 |
| £550,000 - £574,999 | 60 |
| £575,000 - £599,999 | 52 |
| £600,000 - £624,999 | 27 |
| £625,000 - £649,999 | 24 |
| £650,000 - £674,999 | 20 |
| £675,000 - £699,999 | 22 |
| £700,000 - £724,999 | 19 |
| £725,000 - £749,999 | 16 |
| £750,000 - £774,999 | 20 |
| £775,000 - £799,999 | 13 |
| £800,000 - £824,999 | 10 |
| £825,000 - £849,999 | 7 |
| £850,000 - £874,999 | 8 |
| £875,000 - £899,999 | 6 |
| £900,000 - £924,999 | 2 |
| £925,000 - £949,999 | 6 |
| £950,000 - £974,999 | 2 |
| £975,000 - £999,999 | 3 |
| £1,000,000 - £1,249,999 | 12 |
| £1,250,000 - £1,499,999 | 7 |
| £1,500,000 - £1,749,999 | 4 |
| £1,750,000 - £1,999,999 | 2 |
| £2,000,000 - £4,999,999 | 1 |
| greater than £10,000,000 | 1 |
Trafodion tai yr Alban
| Band pris | Trafodion tai |
|---|---|
| less than £25,000 | 72 |
| £25,000 - £49,999 | 599 |
| £50,000 - £74,999 | 1286 |
| £75,000 - £99,999 | 1929 |
| £100,000 - £124,999 | 2136 |
| £125,000 - £149,999 | 2681 |
| £150,000 - £174,999 | 2447 |
| £175,000 - £199,999 | 2294 |
| £200,000 - £224,999 | 1838 |
| £225,000 - £249,999 | 1838 |
| £250,000 - £274,999 | 1824 |
| £275,000 - £299,999 | 1487 |
| £300,000 - £324,999 | 1286 |
| £325,000 - £349,999 | 1075 |
| £350,000 - £374,999 | 870 |
| £375,000 - £399,999 | 752 |
| £400,000 - £424,999 | 529 |
| £425,000 - £449,999 | 407 |
| £450,000 - £474,999 | 355 |
| £475,000 - £499,999 | 306 |
| £500,000 - £524,999 | 217 |
| £525,000 - £549,999 | 183 |
| £550,000 - £574,999 | 166 |
| £575,000 - £599,999 | 110 |
| £600,000 - £624,999 | 120 |
| £625,000 - £649,999 | 80 |
| £650,000 - £674,999 | 83 |
| £675,000 - £699,999 | 68 |
| £700,000 - £724,999 | 56 |
| £725,000 - £749,999 | 38 |
| £750,000 - £774,999 | 43 |
| £775,000 - £799,999 | 37 |
| £800,000 - £824,999 | 30 |
| £825,000 - £849,999 | 16 |
| £850,000 - £874,999 | 21 |
| £875,000 - £899,999 | 15 |
| £900,000 - £924,999 | 15 |
| £925,000 - £949,999 | 12 |
| £950,000 - £974,999 | 15 |
| £975,000 - £999,999 | 9 |
| £1,000,000 - £1,249,999 | 52 |
| £1,250,000 - £1,499,999 | 31 |
| £1,500,000 - £1,749,999 | 22 |
| £1,750,000 - £1,999,999 | 4 |
| £2,000,000 - £4,999,999 | 10 |
| £5,000,000 - £9,999,999 | 1 |
Trafodion tai Gogledd Iwerddon
| Band pris | Trafodion tai |
|---|---|
| less than £25,000 | 6 |
| £25,000 - £49,999 | 41 |
| £50,000 - £74,999 | 231 |
| £75,000 - £99,999 | 441 |
| £100,000 - £124,999 | 627 |
| £125,000 - £149,999 | 723 |
| £150,000 - £174,999 | 752 |
| £175,000 - £199,999 | 816 |
| £200,000 - £224,999 | 671 |
| £225,000 - £249,999 | 516 |
| £250,000 - £274,999 | 393 |
| £275,000 - £299,999 | 305 |
| £300,000 - £324,999 | 207 |
| £325,000 - £349,999 | 198 |
| £350,000 - £374,999 | 183 |
| £375,000 - £399,999 | 137 |
| £400,000 - £424,999 | 88 |
| £425,000 - £449,999 | 70 |
| £450,000 - £474,999 | 50 |
| £475,000 - £499,999 | 47 |
| greater than £500,000 | 219 |
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288
Ian Boreham, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
E-bost ian.boreham@ons.gov.uk
Ffôn 01633 456228
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
E-bost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn 028 90 336035
Garreth Jones, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
E-bost Garreth.Jones@ros.gov.uk
Ffôn 0131 378 4114