Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mawrth 2026
Cyhoeddwyd 20 Mai 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2026
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £213,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.9%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.6%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 105.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 17 Mehefin 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.9% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026, i £213,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i lawr o 3.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026 ac yn uwch na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 0.0% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Chwefror 2026 a Mawrth 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.9% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Chwefror 2026 a Mawrth 2026.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2026, lleihaodd nifer y trafodion gan 0.4% yng Nghymru a lleihaodd gan 2.4% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 19 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026. Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 7.2% i £243,000 yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026. Mewn cyferbyniad, Bro Morgannwg welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 0.9% i £285,000 yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026.
Yng Nghymru, tai sengl oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 4.2% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026, i’r pris cyfartalog o £335,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 5.2% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026, i’r pris cyfartalog o £126,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 4 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.9% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026 (amcangyfrif dros dro), i lawr o 3.3% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Mawrth 2026 | Mawrth 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £205,243 | £202,206 | 1.5% |
| Blaenau Gwent | £137,520 | £135,370 | 1.6% |
| Bro Morgannwg | £284,907 | £287,414 | -0.9% |
| Caerdydd | £270,928 | £267,765 | 1.2% |
| Caerffili | £195,082 | £186,311 | 4.7% |
| Casnewydd | £230,640 | £218,934 | 5.3% |
| Castell-nedd Port Talbot | £160,263 | £156,285 | 2.5% |
| Ceredigion | £242,870 | £226,612 | 7.2% |
| Conwy | £212,814 | £212,653 | 0.1% |
| Gwynedd | £201,202 | £195,691 | 2.8% |
| Merthyr Tudful | £144,874 | £140,078 | 3.4% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £213,319 | £201,507 | 5.9% |
| Powys | £236,906 | £229,337 | 3.3% |
| Rhondda Cynon Taf | £160,647 | £151,622 | 6% |
| Sir Benfro | £218,377 | £219,326 | -0.4% |
| Sir Ddinbych | £198,570 | £197,568 | 0.5% |
| Sir Fynwy | £322,147 | £324,847 | -0.8% |
| Sir y Fflint | £210,180 | £207,684 | 1.2% |
| Sir Gaerfyrddin | £198,907 | £188,472 | 5.5% |
| Torfaen | £198,866 | £193,384 | 2.8% |
| Wrecsam | £207,472 | £202,846 | 2.3% |
| Ynys Môn | £234,538 | £230,760 | 1.6% |
| Cymru | £213,240 | £207,151 | 2.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Mawrth 2026, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £322,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £138,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Mawrth 2026 | Mawrth 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £334,744 | £321,336 | 4.2% |
| Tŷ pâr | £212,913 | £204,482 | 4.1% |
| Tŷ teras | £170,907 | £166,289 | 2.8% |
| Fflat neu fflat deulawr | £126,165 | £133,129 | -5.2% |
| Holl | £213,240 | £207,151 | 2.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.
| Awdurdodau lleol | Ionawr 2026 | Ionawr 2025 |
|---|---|---|
| Abertawe | 143 | 218 |
| Blaenau Gwent | 34 | 74 |
| Bro Morgannwg | 75 | 143 |
| Caerdydd | 242 | 321 |
| Caerffili | 96 | 177 |
| Casnewydd | 99 | 153 |
| Castell-nedd Port Talbot | 89 | 117 |
| Ceredigion | 48 | 47 |
| Conwy | 86 | 119 |
| Gwynedd | 67 | 108 |
| Merthyr Tudful | 22 | 40 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 103 | 150 |
| Powys | 66 | 85 |
| Rhondda Cynon Taf | 140 | 214 |
| Sir Benfro | 62 | 107 |
| Sir Ddinbych | 55 | 78 |
| Sir Gaerfyrddin | 117 | 139 |
| Sir Fynwy | 73 | 101 |
| Sir y Fflint | 86 | 150 |
| Torfaen | 34 | 69 |
| Wrecsam | 96 | 95 |
| Ynys Môn | 33 | 72 |
| Cymru | 1,866 | 2,777 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2026, lleihaodd nifer y trafodion gan 0.4% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 4.4% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Ionawr 2022 | 3,261 |
| Ionawr 2023 | 2,644 |
| Ionawr 2024 | 2,082 |
| Ionawr 2025 | 2,777 |
| Ionawr 2026 | 1,866 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Ionawr 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £321,348 | -1.5% | 1.3% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £208,116 | -1.7% | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Mawrth 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £183,416 | 0.7% | 2.8% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £254,503 | 0.5% | 3.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Mawrth 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £212,537 | 0.4% | 2.1% |
| Morgais | £213,612 | 0.7% | 3.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ionawr 2026 |
|---|---|
| Cymru | 4 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288