Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2026
Cyhoeddwyd 22 Ebrill 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2026
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £210,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.5%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.3%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 104.2
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 20 Mai 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026, i £210,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 1.8% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026 ac yn uwch na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 1.2% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Ionawr 2026 a Chwefror 2026, o’i gymharu â gostyngiad o 0.4% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Ionawr 2026 a Chwefror 2026.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 24.1% yng Nghymru a chynyddodd gan 15.5% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 20 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026. Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 11.4% i £252,000 yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026. Mewn cyferbyniad, Bro Morgannwg a Sir Ddinbych welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf ar y cyd, gan leihau 1.1% i £288,000 a £193,000 yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026.
Yng Nghymru, tai pâr a thai teras oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf ar y cyd o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 3.2% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026, i’r pris cyfartalog o £210,000 a £168,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 2.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026, i’r pris cyfartalog o £126,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 1.8% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Chwefror 2026 | Chwefror 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £204,297 | £197,690 | 3.3% |
| Blaenau Gwent | £137,891 | £131,381 | 5% |
| Bro Morgannwg | £287,425 | £290,664 | -1.1% |
| Caerdydd | £269,319 | £265,214 | 1.5% |
| Caerffili | £197,105 | £188,713 | 4.4% |
| Casnewydd | £225,086 | £217,571 | 3.5% |
| Castell-nedd Port Talbot | £156,975 | £154,731 | 1.4% |
| Ceredigion | £252,306 | £226,454 | 11.4% |
| Conwy | £217,059 | £208,523 | 4.1% |
| Gwynedd | £199,316 | £192,943 | 3.3% |
| Merthyr Tudful | £149,339 | £146,650 | 1.8% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £212,043 | £205,022 | 3.4% |
| Powys | £233,245 | £230,607 | 1.1% |
| Rhondda Cynon Taf | £161,405 | £150,673 | 7.1% |
| Sir Benfro | £221,682 | £218,605 | 1.4% |
| Sir Ddinbych | £193,398 | £195,491 | -1.1% |
| Sir Fynwy | £329,218 | £324,114 | 1.6% |
| Sir y Fflint | £210,195 | £208,333 | 0.9% |
| Sir Gaerfyrddin | £196,199 | £188,108 | 4.3% |
| Torfaen | £196,519 | £193,619 | 1.5% |
| Wrecsam | £208,330 | £204,359 | 1.9% |
| Ynys Môn | £227,868 | £223,619 | 1.9% |
| Cymru | £210,407 | £205,266 | 2.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Chwefror 2026, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £329,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £138,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Chwefror 2026 | Chwefror 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £330,612 | £323,055 | 2.3% |
| Tŷ pâr | £209,899 | £203,443 | 3.2% |
| Tŷ teras | £168,206 | £162,995 | 3.2% |
| Fflat neu fflat deulawr | £125,937 | £129,151 | -2.5% |
| Holl | £210,407 | £205,266 | 2.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.
| Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2025 | Rhagfyr 2024 |
|---|---|---|
| Abertawe | 178 | 262 |
| Blaenau Gwent | 59 | 65 |
| Bro Morgannwg | 133 | 181 |
| Caerdydd | 269 | 409 |
| Caerffili | 150 | 212 |
| Casnewydd | 175 | 182 |
| Castell-nedd Port Talbot | 107 | 196 |
| Ceredigion | 75 | 76 |
| Conwy | 125 | 148 |
| Gwynedd | 100 | 140 |
| Merthyr Tudful | 38 | 62 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 163 | 168 |
| Powys | 90 | 155 |
| Rhondda Cynon Taf | 182 | 280 |
| Sir Benfro | 89 | 121 |
| Sir Ddinbych | 80 | 85 |
| Sir Gaerfyrddin | 157 | 175 |
| Sir Fynwy | 78 | 139 |
| Sir y Fflint | 135 | 173 |
| Torfaen | 68 | 114 |
| Wrecsam | 101 | 145 |
| Ynys Môn | 57 | 59 |
| Cymru | 2,609 | 3,547 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 24.1% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Rhagfyr 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 13.1% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Rhagfyr 2021 | 4,545 |
| Rhagfyr 2022 | 4,008 |
| Rhagfyr 2023 | 3,015 |
| Rhagfyr 2024 | 3,547 |
| Rhagfyr 2025 | 2,609 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Rhagfyr 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £329,586 | -4.5% | 8.1% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £211,552 | 2.2% | 4.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Chwefror 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £180,670 | 0.2% | 2.6% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £251,388 | 0.4% | 2.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Chwefror 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £210,513 | 0.5% | 2.3% |
| Morgais | £210,431 | 0.2% | 2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2025 |
|---|---|
| Cymru | 7 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288