Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2025
Updated 23 February 2026
Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2025
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £270,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.4%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.7%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 103.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 25 Mawrth 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn, mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo “cyfartalog” sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol Cadw prisiau tai cyfartalog yn gyfoes a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.
Ar 20 Medi 2025, cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Prydain Fawr, sy’n lleihau’r goramcangyfrif cychwynnol o amcangyfrifon eiddo a adeiledir o’r newydd mewn amcangyfrifon dros dro. Gan fod gwella’r dull hwn yn cynyddu cywirdeb ein hamcangyfrifon cychwynnol, rydym yn disgwyl i’r diwygiadau cyffredinol rhwng amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU dros dro (1af) a therfynol (13eg) fod yn llai wrth symud ymlaen. Mae rhagor o fanylion am y gwelliant i’r dull hwn ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Yn ogystal â hyn, o 17 Rhagfyr 2025, mae’r gwaith i symud system gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU i blatfform newydd wedi golygu y gallwn gyflwyno gwelliant bach yn y ffordd rydym yn cysylltu’r setiau data a ddefnyddir wrth gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, bod gan y dull newydd wybodaeth fwy cadarn am briodoleddau eiddo, er enghraifft arwynebedd llawr a nifer yr ystafelloedd sy’n cael eu defnyddio yn y broses fodelu. Mae’r gwelliant hwn wedi arwain at rai diwygiadau bach yn ôl i fis Ionawr 2025.
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
2. Datganiad economaidd
2.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 2.8% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025.
£270,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Rhagfyr 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £6,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025 yn Lloegr i £292,000 (1.7%), cynyddodd yng Nghymru i £215,000 (5.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £191,000 (4.9%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2025 i £196,000 yng Ngogledd Iwerddon (7.5%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.7% rhwng Tachwedd 2025 a Rhagfyr 2025, o’i gymharu â gostyngiad o 0.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Tachwedd 2025 a Rhagfyr 2025.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 4.6% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025. Llundain oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 1.0% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025.
Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Rhagfyr 2025 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod y farchnad werthu yn parhau i fod yn dawel, gyda mesurau galw gan brynwyr a gwerthiannau y cytunwyd arnynt mewn tiriogaeth negyddol.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Rhagfyr 2025, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 100,000. Mae hyn 4.7% yn uwch na 12 mis yn ôl (Rhagfyr 2024). Rhwng Tachwedd 2025 a Rhagfyr 2025, lleihaodd trafodion y DU gan 0.1% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol rhwng Tachwedd 2025 a Rhagfyr 2025, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 2.6% yn Lloegr, wedi lleihau gan 11.1% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 5.9% yng Nghymru ac wedi lleihau gan 4.5% yng Ngogledd Iwerddon.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Rhagfyr 2025 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau gan 3,100 i 61,000 yn Nhachwedd.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr – Rhagfyr 2025 amodau tawelach ar gyfer gwerthiannau a chyfarwyddiadau newydd, gyda phrisiau’n aros yn sefydlog o’i gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf ac, yn fwy diweddar, yn cyrraedd lefelau is o’i gymharu â phrisiau gofyn.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 4 blynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
2.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 2.8% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025.
£270,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Rhagfyr 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £6,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025 yn Lloegr i £292,000 (1.7%), cynyddodd yng Nghymru i £215,000 (5.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £191,000 (4.9%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2025 i £196,000 yng Ngogledd Iwerddon (7.5%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
| Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Cymru | £214,883 | 2.6% | 5.0% |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2025) | £195,936 | 1.4% | 7.5% |
| Lloegr | £291,865 | -0.7% | 1.7% |
| Yr Alban | £190,649 | -1.7% | 4.9% |
| De Ddwyrain Lloegr | £378,800 | -0.7% | 0.0% |
| De Orllewin Lloegr | £301,226 | -1.7% | 0.3% |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | £243,632 | 0.4% | 2.4% |
| Dwyrain Lloegr | £338,002 | -0.4% | 1.5% |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | £246,141 | -1.0% | 2.0% |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | £165,257 | -1.4% | 4.6% |
| Gogledd Orllewin Lloegr | £217,428 | -0.4% | 4.5% |
| Llundain | £551,294 | -0.8% | -1.0% |
| Swydd Gaerefrog a Humber | £208,447 | -0.5% | 3.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 64KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.7% rhwng Tachwedd 2025 a Rhagfyr 2025, o’i gymharu â gostyngiad o 0.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Tachwedd 2025 a Rhagfyr 2025.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
| Math o eiddo | Rhagfyr 2025 | Rhagfyr 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £440,564 | £433,653 | 1.6% |
| Tŷ pâr | £275,313 | £264,927 | 3.9% |
| Tŷ teras | £229,449 | £221,372 | 3.6% |
| Fflat neu fflat deulawr | £192,826 | £193,853 | -0.5% |
| Holl | £270,259 | £263,991 | 2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 67KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu nifer y gwerthiannau a gafodd eu cofrestru hyd yma ar gyfer mis penodol ac nid ydynt yn adlewyrchu cyfanswm y gwerthiannau a ddigwyddodd yn ystod y mis hwnnw. Mae’n cymryd amser i’r gwerthiannau a ddigwyddodd gael eu cofrestru a’u prosesu i’w cynnwys yn niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU. Felly, mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y 12 mis diweddaraf o ddata yn niferoedd data dros dro a gellir eu diwygio, yn unol â pholisi cyfnod diwygio Mynegai Prisiau Tai y DU. Ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio niferoedd data dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU i ddod i gasgliadau ynghylch tueddiadau mewn gweithgarwch gwerthiannau.
Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn parhau i wella. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag y buont yn hanesyddol a dylent nodi bod mwy o ansicrwydd ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.
Cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU o Awst 2025; mae rhagor o fanylion ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2025 yn seiliedig ar oddeutu 42,000 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 7,300 ar gyfer yr Alban, a 2,400 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 50% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Rhagfyr 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
| Gwlad | Hydref 2025 | Hydref 2024 |
|---|---|---|
| Lloegr | 47,878 | 73,751 |
| Gogledd Iwerddon | 2,118 | 2,273 |
| Yr Alban | 10,132 | 9,393 |
| Cymru | 2,671 | 3,874 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o nifer y trafodion ar gyfer Hydref 2024 â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 3.4% yn Lloegr, cynyddodd gan 9.7% yn yr Alban, a chynyddodd gan 6.2% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 0.1% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2025.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Hydref 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 4.8% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 9.1% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 9.7% yng Nghymru, ac wedi lleihau gan 0.7% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2021 i 2025 yn ôl gwlad: Awst
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 4.3%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 5.2% yn y 12 mis hyd at Hydref 2025.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Hydref 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £364,459 | 2.5% | 9.5% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £265,784 | -0.3% | 1.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 11KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Rhagfyr 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £228,218 | -0.6% | 2.4% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £331,925 | -0.7% | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 4.7KB)
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Rhagfyr 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £256,451 | -0.9% | 1.6% |
| Morgais | £279,539 | -0.6% | 2.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 5KB)
7. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein canllaw Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8. Dosbarthiadau trafodion tai
Rhwng Gorffennaf a Medi 2025 cafwyd 194,154 o werthiannau eiddo.
Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:
-
Lloegr oedd £225,000 i £249,999 – 10,294 o eiddo wedi eu prynu
-
Yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – 2,552 o eiddo wedi eu prynu
-
Cymru oedd £150,000 i £174,999 – 996 o eiddo wedi eu prynu
-
Gogledd Iwerddon oedd £175,000 i £199,999 – 775 o eiddo wedi eu prynu
Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2025 ar gyfer gwledydd y DU. Cyflwynir data ar gyfer Prydain Fawr mewn bandiau o £25,000 hyd at £10 miliwn, ac yna band mwy ar gyfer dros £10 miliwn. Cyflwynir data ar gyfer Gogledd Iwerddon mewn bandiau o £25,000 i £500,000, ac yna band mwy ar gyfer dros £500,000.
Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU , bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.
Trafodion tai Lloegr
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 30 |
| £25,000 - £49,999 | 405 |
| £50,000 - £74,999 | 1536 |
| £75,000 - £99,999 | 3407 |
| £100,000 - £124,999 | 5355 |
| £125,000 - £149,999 | 7469 |
| £150,000 - £174,999 | 9198 |
| £175,000 - £199,999 | 9974 |
| £200,000 - £224,999 | 9942 |
| £225,000 - £249,999 | 10294 |
| £250,000 - £274,999 | 9892 |
| £275,000 - £299,999 | 9342 |
| £300,000 - £324,999 | 8234 |
| £325,000 - £349,999 | 7510 |
| £350,000 - £374,999 | 6696 |
| £375,000 - £399,999 | 6020 |
| £400,000 - £424,999 | 5306 |
| £425,000 - £449,999 | 4641 |
| £450,000 - £474,999 | 4210 |
| £475,000 - £499,999 | 3610 |
| £500,000 - £524,999 | 2953 |
| £525,000 - £549,999 | 2604 |
| £550,000 - £574,999 | 2421 |
| £575,000 - £599,999 | 2163 |
| £600,000 - £624,999 | 1882 |
| £625,000 - £649,999 | 1696 |
| £650,000 - £674,999 | 1512 |
| £675,000 - £699,999 | 1355 |
| £700,000 - £724,999 | 1193 |
| £725,000 - £749,999 | 1029 |
| £750,000 - £774,999 | 1048 |
| £775,000 - £799,999 | 910 |
| £800,000 - £824,999 | 838 |
| £825,000 - £849,999 | 689 |
| £850,000 - £874,999 | 750 |
| £875,000 - £899,999 | 589 |
| £900,000 - £924,999 | 530 |
| £925,000 - £949,999 | 443 |
| £950,000 - £974,999 | 466 |
| £975,000 - £999,999 | 387 |
| £1,000,000 - £1,249,999 | 1949 |
| £1,250,000 - £1,499,999 | 1197 |
| £1,500,000 - £1,749,999 | 620 |
| £1,750,000 - £1,999,999 | 419 |
| £2,000,000 - £4,999,999 | 787 |
| £5,000,000 - £9,999,999 | 50 |
| Mwy na £10,000,000 | 20 |
Trafodion tai Cymru
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 0 |
| £25,000 - £49,999 | 14 |
| £50,000 - £74,999 | 111 |
| £75,000 - £99,999 | 329 |
| £100,000 - £124,999 | 595 |
| £125,000 - £149,999 | 859 |
| £150,000 - £174,999 | 996 |
| £175,000 - £199,999 | 963 |
| £200,000 - £224,999 | 773 |
| £225,000 - £249,999 | 722 |
| £250,000 - £274,999 | 598 |
| £275,000 - £299,999 | 498 |
| £300,000 - £324,999 | 393 |
| £325,000 - £349,999 | 306 |
| £350,000 - £374,999 | 262 |
| £375,000 - £399,999 | 227 |
| £400,000 - £424,999 | 166 |
| £425,000 - £449,999 | 114 |
| £450,000 - £474,999 | 125 |
| £475,000 - £499,999 | 96 |
| £500,000 - £524,999 | 67 |
| £525,000 - £549,999 | 61 |
| £550,000 - £574,999 | 45 |
| £575,000 - £599,999 | 46 |
| £600,000 - £624,999 | 27 |
| £625,000 - £649,999 | 23 |
| £650,000 - £674,999 | 24 |
| £675,000 - £699,999 | 23 |
| £700,000 - £724,999 | 14 |
| £725,000 - £749,999 | 18 |
| £750,000 - £774,999 | 20 |
| £775,000 - £799,999 | 14 |
| £800,000 - £824,999 | 8 |
| £825,000 - £849,999 | 11 |
| £850,000 - £874,999 | 8 |
| £875,000 - £899,999 | 2 |
| £900,000 - £924,999 | 0 |
| £925,000 - £949,999 | 3 |
| £950,000 - £974,999 | 2 |
| £975,000 - £999,999 | 3 |
| £1,000,000 - £1,249,999 | 23 |
| £1,250,000 - £1,499,999 | 14 |
| £1,500,000 - £1,749,999 | 1 |
| £1,750,000 - £1,999,999 | 1 |
| £2,000,000 - £4,999,999 | 3 |
Trafodion tai yr Alban
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 59 |
| £25,000 - £49,999 | 585 |
| £50,000 - £74,999 | 1280 |
| £75,000 - £99,999 | 1798 |
| £100,000 - £124,999 | 2061 |
| £125,000 - £149,999 | 2552 |
| £150,000 - £174,999 | 2355 |
| £175,000 - £199,999 | 2120 |
| £200,000 - £224,999 | 1730 |
| £225,000 - £249,999 | 1710 |
| £250,000 - £274,999 | 1599 |
| £275,000 - £299,999 | 1377 |
| £300,000 - £324,999 | 1108 |
| £325,000 - £349,999 | 928 |
| £350,000 - £374,999 | 788 |
| £375,000 - £399,999 | 681 |
| £400,000 - £424,999 | 538 |
| £425,000 - £449,999 | 398 |
| £450,000 - £474,999 | 347 |
| £475,000 - £499,999 | 247 |
| £500,000 - £524,999 | 239 |
| £525,000 - £549,999 | 184 |
| £550,000 - £574,999 | 143 |
| £575,000 - £599,999 | 128 |
| £600,000 - £624,999 | 119 |
| £625,000 - £649,999 | 93 |
| £650,000 - £674,999 | 82 |
| £675,000 - £699,999 | 68 |
| £700,000 - £724,999 | 62 |
| £725,000 - £749,999 | 46 |
| £750,000 - £774,999 | 42 |
| £775,000 - £799,999 | 46 |
| £800,000 - £824,999 | 36 |
| £825,000 - £849,999 | 21 |
| £850,000 - £874,999 | 27 |
| £875,000 - £899,999 | 20 |
| £900,000 - £924,999 | 17 |
| £925,000 - £949,999 | 11 |
| £950,000 - £974,999 | 17 |
| £975,000 - £999,999 | 14 |
| £1,000,000 - £1,249,999 | 54 |
| £1,250,000 - £1,499,999 | 33 |
| £1,500,000 - £1,749,999 | 20 |
| £1,750,000 - £1,999,999 | 10 |
| £2,000,000 - £4,999,999 | 6 |
| £5,000,000 - £9,999,999 | 0 |
Trafodion tai Gogledd Iwerddon
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 7 |
| £25,000 - £49,999 | 36 |
| £50,000 - £74,999 | 200 |
| £75,000 - £99,999 | 377 |
| £100,000 - £124,999 | 588 |
| £125,000 - £149,999 | 700 |
| £150,000 - £174,999 | 764 |
| £175,000 - £199,999 | 775 |
| £200,000 - £224,999 | 606 |
| £225,000 - £249,999 | 502 |
| £250,000 - £274,999 | 351 |
| £275,000 - £299,999 | 263 |
| £300,000 - £324,999 | 206 |
| £325,000 - £349,999 | 135 |
| £350,000 - £374,999 | 137 |
| £375,000 - £399,999 | 112 |
| £400,000 - £424,999 | 81 |
| £425,000 - £449,999 | 71 |
| £450,000 - £474,999 | 40 |
| £475,000 - £499,999 | 43 |
| Mwy na £500,000 | 182 |
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Data Services Team Leader, HM Land Registry
Email eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Telephone 0300 006 5288
Ian Boreham, Head of Housing Market Indices, Office for National Statistics
Email ian.boreham@ons.gov.uk
Telephone 01633 456228
Ciara Cunningham, Statistician for the Northern Ireland HPI
Email ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Telephone 028 90 336035
Garreth Jones, Land & Property Data Team, Registers of Scotland
Email Garreth.Jones@ros.gov.uk
Telephone 0131 378 4114