Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Rhagfyr 2025
Updated 23 February 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2025
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £215,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 5.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.6%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 106.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 25 Mawrth 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 5.0% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025, i £215,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 0.9% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025 ac yn uwch na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 2.4% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.6% rhwng Tachwedd 2025 a Rhagfyr 2025, o’i gymharu â gostyngiad o 1.3% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.3% rhwng Tachwedd 2025 a Rhagfyr 2025.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 6.2% yng Nghymru a chynyddodd gan 4.3% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025. Ynys Môn welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 7.2% i £242,000 yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025. Mewn cyferbyniad, Merthyr Tudful welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 4.4% i £144,000 yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025.
Yng Nghymru, tai pâr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 6.2% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025, i’r pris cyfartalog o £215,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai sengl, gan gynyddu 3.1% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025, i’r pris cyfartalog o £335,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 5.0% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 0.9% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2025 | Rhagfyr 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £208,872 | £196,302 | 6.4% |
| Blaenau Gwent | £142,090 | £132,792 | 7.0% |
| Bro Morgannwg | £299,757 | £284,953 | 5.2% |
| Caerdydd | £271,273 | £264,868 | 2.4% |
| Caerffili | £196,048 | £190,022 | 3.2% |
| Casnewydd | £226,573 | £214,945 | 5.4% |
| Castell-nedd Port Talbot | £160,856 | £155,612 | 3.4% |
| Ceredigion | £233,722 | £243,736 | -4.1% |
| Conwy | £211,833 | £203,162 | 4.3% |
| Gwynedd | £196,260 | £195,072 | 0.6% |
| Merthyr Tudful | £143,596 | £150,141 | -4.4% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £208,808 | £208,702 | 0.1% |
| Powys | £229,762 | £232,193 | -1.0% |
| Rhondda Cynon Taf | £162,675 | £156,168 | 4.2% |
| Sir Benfro | £213,226 | £220,928 | -3.5% |
| Sir Ddinbych | £195,430 | £193,697 | 0.9% |
| Sir Fynwy | £335,746 | £327,977 | 2.4% |
| Sir y Fflint | £213,990 | £213,023 | 0.5% |
| Sir Gaerfyrddin | £196,607 | £191,799 | 2.5% |
| Torfaen | £189,702 | £194,706 | -2.6% |
| Wrecsam | £206,799 | £199,465 | 3.7% |
| Ynys Môn | £242,141 | £225,831 | 7.2% |
| Cymru | £214,883 | £204,641 | 5.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Rhagfyr 2025, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £336,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £142,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Rhagfyr 2025 | Rhagfyr 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £334,835 | £324,664 | 3.1% |
| Tŷ pâr | £214,549 | £202,008 | 6.2% |
| Tŷ teras | £172,365 | £162,765 | 5.9% |
| Fflat neu fflat deulawr | £130,402 | £126,413 | 3.2% |
| Holl | £214,883 | £204,641 | 5.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.
| Awdurdodau lleol | Hydref 2025 | Hydref 2024 |
|---|---|---|
| Abertawe | 206 | 272 |
| Blaenau Gwent | 51 | 57 |
| Bro Morgannwg | 128 | 172 |
| Caerdydd | 328 | 429 |
| Caerffili | 136 | 209 |
| Casnewydd | 126 | 199 |
| Castell-nedd Port Talbot | 118 | 155 |
| Ceredigion | 38 | 92 |
| Conwy | 137 | 211 |
| Gwynedd | 88 | 164 |
| Merthyr Tudful | 27 | 44 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 144 | 198 |
| Powys | 88 | 138 |
| Rhondda Cynon Taf | 199 | 309 |
| Sir Benfro | 113 | 156 |
| Sir Ddinbych | 114 | 145 |
| Sir Gaerfyrddin | 160 | 224 |
| Sir Fynwy | 94 | 127 |
| Sir y Fflint | 151 | 232 |
| Torfaen | 63 | 92 |
| Wrecsam | 109 | 154 |
| Ynys Môn | 53 | 95 |
| Cymru | 2,671 | 3,874 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2025, cynyddodd nifer y trafodion y DU gan 6.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Hydref 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 9.7% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Hydref 2021 | 4,556 |
| Hydref 2022 | 4,308 |
| Hydref 2023 | 3,093 |
| Hydref 2024 | 3,874 |
| Hydref 2025 | 2,671 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Hydref 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £337,332 | 2.5% | 9.1% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £207,893 | -0.2% | 1.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Rhagfyr 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £184,934 | 2.6% | 5.4% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £256,215 | 2.6% | 4.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Rhagfyr 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £213,599 | 2.6% | 4.2% |
| Morgais | £215,521 | 2.6% | 5.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Hydref 2025 |
|---|---|
| Cymru | 4 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Data Services Team Leader, HM Land Registry
Email eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Telephone 0300 006 5288