Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Awst 2026
Cyhoeddwyd 21 Hydref 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2026
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £216,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 3.1%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.0%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 107.2
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 18 Tachwedd 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 3.1% yn y 12 mis hyd at Awst 2026, i £216,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 2.2% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026 ac yn uwch na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 0.9% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Awst 2026.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.0% rhwng Gorffennaf 2026 ac Awst 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.5% rhwng Gorffennaf 2026 ac Awst 2026.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 13.0% yng Nghymru a chynyddodd gan 13.8% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 16 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2026. Sir Ddinbych welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 5.2% i £207,000 yn y 12 mis hyd at Awst 2026. Mewn cyferbyniad, Torfaen welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 2.8% i £195,000 yn y 12 mis hyd at Awst 2026.
Yng Nghymru, tai pâr a thai teras oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 3.7% yn y 12 mis hyd at Awst 2026. Cynyddodd prisiau cyfartalog tai pâr i £216,000 a chynyddodd prisiau cyfartalog tai teras i £174,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan gynyddu 0.9% yn y 12 mis hyd at Awst 2026, i’r pris cyfartalog o £130,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 4 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.6% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 1.6% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Awst 2026 | Awst 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £211,177 | £207,509 | 1.8% |
| Blaenau Gwent | £143,243 | £140,365 | 2.1% |
| Bro Morgannwg | £300,358 | £291,019 | 3.2% |
| Caerdydd | £272,443 | £266,750 | 2.1% |
| Caerffili | £198,545 | £190,185 | 4.4% |
| Casnewydd | £225,702 | £226,027 | -0.1% |
| Castell-nedd Port Talbot | £165,787 | £162,585 | 2% |
| Ceredigion | £234,314 | £238,277 | -1.7% |
| Conwy | £218,235 | £211,906 | 3% |
| Gwynedd | £203,555 | £195,520 | 4.1% |
| Merthyr Tudful | £148,656 | £150,189 | -1% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £210,905 | £205,078 | 2.8% |
| Powys | £237,042 | £233,809 | 1.4% |
| Rhondda Cynon Taf | £165,213 | £157,538 | 4.9% |
| Sir Benfro | £211,074 | £216,402 | -2.5% |
| Sir Ddinbych | £207,130 | £196,912 | 5.2% |
| Sir Fynwy | £328,937 | £325,856 | 0.9% |
| Sir y Fflint | £214,882 | £209,664 | 2.5% |
| Sir Gaerfyrddin | £195,263 | £190,122 | 2.7% |
| Torfaen | £194,895 | £200,531 | -2.8% |
| Wrecsam | £215,035 | £207,167 | 3.8% |
| Ynys Môn | £236,308 | £237,358 | -0.4% |
| Cymru | £216,363 | £209,851 | 3.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Awst 2026, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £329,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £143,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Awst 2026 | Awst 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £336,551 | £328,604 | 2.4% |
| Tŷ pâr | £215,812 | £208,208 | 3.7% |
| Tŷ teras | £174,317 | £168,073 | 3.7% |
| Fflat neu fflat deulawr | £130,206 | £129,060 | 0.9% |
| Holl | £216,363 | £209,851 | 3.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.
| Awdurdodau lleol | Mehefin 2026 | Mehefin 2025 |
|---|---|---|
| Abertawe | 176 | 296 |
| Blaenau Gwent | 42 | 74 |
| Bro Morgannwg | 130 | 222 |
| Caerdydd | 291 | 414 |
| Caerffili | 150 | 185 |
| Casnewydd | 118 | 211 |
| Castell-nedd Port Talbot | 70 | 160 |
| Ceredigion | 53 | 71 |
| Conwy | 118 | 173 |
| Gwynedd | 96 | 127 |
| Merthyr Tudful | 28 | 72 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 128 | 141 |
| Powys | 87 | 124 |
| Rhondda Cynon Taf | 185 | 261 |
| Sir Benfro | 115 | 125 |
| Sir Ddinbych | 70 | 114 |
| Sir Gaerfyrddin | 149 | 201 |
| Sir Fynwy | 91 | 132 |
| Sir y Fflint | 126 | 215 |
| Torfaen | 49 | 112 |
| Wrecsam | 99 | 116 |
| Ynys Môn | 35 | 57 |
| Cymru | 2,406 | 3,603 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o nifer y trafodion ar gyfer Mehefin 2025 â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 18.4% yn Lloegr, lleihaodd gan 4.4% yn yr Alban a chynyddodd gan 13.0% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 18.5% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2026.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 8.8% yn Lloegr, wedi lleihau gan 4.7% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 2.9% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 4.6% yng Ngogledd Iwerddon.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Mehefin 2022 | 3,618 |
| Mehefin 2023 | 3,210 |
| Mehefin 2024 | 3,174 |
| Mehefin 2025 | 3,603 |
| Mehefin 2026 | 2,406 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Mehefin 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £315,534 | -9.8% | 0.4% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £210,560 | -1.3% | 1.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Awst 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £186,313 | 1.3% | 3.5% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £258,433 | 0.9% | 2.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Awst 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £215,522 | 0.9% | 2.8% |
| Morgais | £216,798 | 1.1% | 3.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu | Mehefin 2026 |
|---|---|---|
| Cymru | 4 |
Llwytho’r data ar gyfer Cymru a Lloegr i lawr (CSV, 45KB)
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288