Anerchiad

Gogledd Cymru – Pwerdy Gogleddol ar gyfer economi Cymru

Anerchiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yng Ngwobrau Busnes y Daily Post 2014.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
" "

Rydym yma heno i ddathlu llwyddiant. Eich llwyddiant chi.

I ddathlu fod Gogledd Cymru yn llusern olau o ran buddsoddi mewnol, allforion a chreu swyddi – Pwerdy Gogleddol ar gyfer economi Cymru.

Fy ymweliadau busnes cyntaf â Gogledd Cymru fel Ysgrifennydd Gwladol oedd i Airbus a Magellan – dau o brif drysorau’r sector awyrennau yng Nghymru.

A chewri rhyngwladol fel Toyota a ConvaTec ar Lannau Dyfrdwy – sydd hefyd yn rhan o stori llwyddiant Gogledd Cymru.

Raytheon – lle bûm brynhawn heddiw – a safle gorsaf bŵer Wylfa, lle rwy’n mynd yfory.

Busnesau bach a chanolig hefyd – asgwrn cefn economi’r DU – yn tyfu ac yn llwyddo yng Ngogledd Cymru.

Mae dros 8,000 o fusnesau newydd wedi cychwyn yma ers 2010.

Mae ein prifysgolion yn gwthio ffiniau cyflawniad deallusol a’n busnesau yn harneisio hyn yn fasnachol.

Bu uwchgynhadledd NATO ym mis Medi yn fodd i ni ddangos Cymru ar ei gorau i arweinwyr byd fel yr Arlywydd Obama a’r Canghellor Merkel.

Ac roedd Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yr wythnos ddiwethaf yn gyfle gwych i arddangos yr hyn sydd gan y wlad i’w gynnig.

Gogledd Cymru sy’n arwain y ffordd o ran arddangos arloesedd byd-eang.

Scubacraft - dyfeisgarwch gwych o Ynys Môn - cwch sydd hefyd yn llong danfor, a gall fynd o wyneb y môr i scuba mewn eiliadau.

Sure Chill o Dywyn, sydd â phrosesau rheweiddio sy’n galluogi storio brechiadau gwerthfawr yn unrhyw le yn y byd heb fod angen cyflenwad cyson o ynni.

Blizzard Protections o Fangor – cwmni a ddatblygodd gynnyrch unigryw i ddiogelu pobl mewn tymheredd is na’r pwynt rhewi – ac sydd bellach yn cael ei ddefnyddio nid yn unig gan bobl sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored ond hefyd gan athletwyr elît a Diogelwch y Famwlad Efrog Newydd.

Dwsinau o arweinwyr busnes o’r rhanbarth yn ceisio cyfleoedd newydd i dyfu eu busnesau ac economi Gogledd Cymru.

Ac ar hyd a lled Gogledd Cymru rydw i wedi gweld enghreifftiau o brentisiaethau o safon fyd-eang sy’n arfogi pobl ifanc â’r sgiliau technegol lefel uwch sydd eu hangen os ydym am gyflawni’r dasg o adfer cydbwysedd yr economi.

Economi ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain gyda dylunio arloesol a gallu o ran gweithgynhyrchu.

Felly, mae Gogledd Cymru yn gyrru i’r dyfodol.

Ac mae hynny’n cael ei ddangos yn glir gan wobrau’r Daily Post yma heno.

Mae nifer yr ymgeiswyr wedi dyblu ers y llynedd.

Nid yn unig o ran niferoedd ond o ran ehangder hefyd.

Yn bresennol heno mae cynrychiolwyr o’r byd adeiladu, hysbysebu, twristiaeth, bwyd a diod, ynni, gwasanaethau, peirianneg, uwch-dechnoleg a TG.

A chan fod twf bellach yn cynyddu ledled y DU, dyma’r eiliad i’r holl ddiwydiannau hyn yng Nghymru achub ar y cyfle - ac adeiladu ar gynnydd y pedair blynedd diwethaf.

Felly rwyf eisiau sôn heno am y ffordd y mae llywodraeth y DU yn cefnogi’r ymdrech honno.

Cynllun economaidd hirdymor sy’n creu’r amodau cywir ar gyfer twf parhaus yma yng Ngogledd Cymru.

Adferiad sy’n eang a chytbwys.

Sy’n ymestyn i bob ardal yn y DU, fel nad yw Llundain a’r De Ddwyrain yn sugno’r gorau ar draul y gweddill.

Yn torri unwaith ac am byth y bwlch rhwng y De a’r Gogledd sydd wedi achosi rhaniad yn llwyddiant economaidd y DU am gyfnod rhy hir o lawer.

Yn adeiladu’r isadeiledd o safon fyd-eang sydd ei angen ar ein busnesau er mwyn tyfu a gwneud elw.

Isadeiledd sy’n creu cyswllt rhwng pob rhanbarth o’r DU, gan adael neb ar ôl.

Adfer cydbwysedd yr economi

Un o’r pethau yr ydym wedi eu dysgu o’r cwymp ariannol yn 2007 yw pa mor ansefydlog ac anghytbwys yr oedd economi’r DU wedi mynd yn ystod y degawd blaenorol.

Fel y gwyddom i gyd, chwalwyd y model hwn yn deilchion.

Felly’r dasg a oedd yn ein hwynebu yn 2010 oedd nid yn unig adfer cyllid y wlad.

Ond hefyd sefydlu economi cadarn, mwy cytbwys.

Un sy’n cynhyrchu pethau, yn adeiladu pethau ac yn creu pethau – nid eu gwasanaethu yn unig.

Yn annog arloesedd a modelau busnes newydd.

Yn rhyddhau ysbryd entrepreneuraidd ar hyd a lled y DU. Ac ar draws Cymru gyfan.

Heb fod yn dibynnu’n unig ar y De ac ar goridor yr M4 ar gyfer twf.

Dyma’r cynllun hirdymor, ond mae’r cynnydd a wneir gennym yn siarad drosto’i hun:

• Dros 2 filiwn o swyddi newydd yn y sector preifat • 100,000 o swyddi newydd yng Nghymru ers 2010 • Mae Cynnyrch Mewnwladol Crynswth bellach yn uwch nac yr oedd cyn y dirwasgiad • Yr economi sy’n tyfu gyflymaf yn y G7

Ac mae twf yn fwy cytbwys nac o’r blaen gyda’r tri sector mawr yn ein heconomi - gweithgynhyrchu, gwasanaethau ac adeiladu - i gyd 3% yn uwch na’r llynedd.

Does dim lle o gwbl i fod yn hunanfoddhaus ond y dasg yn awr yw cynnal y momentwm economaidd.

Ac mae hynny’n golygu sicrhau fod busnesau’n cael eu hannog i dyfu ac ail-fuddsoddi’r elw y buont yn gweithio’n galed i’w ennill.

Felly mae’r Llywodraeth yn torri trethi ar fusnesau ac yn torri drwy’r fiwrocratiaeth sy’n atal twf, yn enwedig i fusnesau bach.

Ar 20%, prif gyfradd treth gorfforaeth yn y DU fydd y cyd-isaf yn yr G20 y flwyddyn nesaf.

Mae Cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi eu torri ar gyfer busnesau sydd eisiau tyfu a chyflogi mwy o staff.

Mae’r Lwfans Cyflogaeth wedi golygu fod 35,000 o fusnesau yng Nghymru wedi cael arian yn ôl o hyd at £2,000 yr un wrth greu swyddi.

Mae llawer o’r busnesau sy’n cael eu harddangos yma heno wedi cael budd uniongyrchol o’r diwygiadau hyn.

Hwn yw ein cynllun economaidd hirdymor.

Mentrau preifat yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth – nid yn cael eu cosbi am fod yn llwyddiannus.

Torri trethi a chael gwared ar fiwrocratiaeth.

Gostwng costau gwneud busnes i ganiatáu i chi fuddsoddi mwy, tyfu mwy a chyflogi mwy.

Ond os ydym am gynnal y twf hwn a sicrhau na chaiff unrhyw ran o’r DU ei gadael ar ôl wrth i ni dyfu, bydd angen isadeiledd o safon fyd-eang arnom.

Buddsoddi yn isadeiledd Gogledd Cymru

Mae buddsoddi yn isadeiledd Gogledd Cymru yn dod â swyddi i’r rhanbarth ac yn rhoi hwb i’r economi lleol.

Y carchar newydd yn Wrecsam er enghraifft a fydd yn creu miloedd o swyddi – hwb o £23m y flwyddyn i’r economi lleol.

Neu’r buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd yn Wylfa Newydd gan Hitachi a Horizon gyda chefnogaeth gwarantau isadeiledd y Llywodraeth.

Buddsoddi a swyddi i’r economi lleol.

Ond rhaid i ni sicrhau fod buddsoddi yn isadeiledd y rhanbarth yn galluogi busnesau yng Ngogledd Cymru i estyn allan, cael gafael ar farchnadoedd newydd mewn mannau newydd, a ddim yn cael eu dal yn ôl gan dagfeydd ffyrdd, cysylltiadau rheilffordd annigonol neu fand eang araf.

Mae Gogledd Cymru’n haeddu’r gorau.

Mae hyn yn golygu llywodraeth y DU yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Gyda’n gilydd, cael gweledigaeth glir ar gyfer Gogledd Cymru – a chydweithio i gyflawni hynny.

Cydweithio i ddod â band eang cyflym iawn i Ogledd Cymru fel y gall busnesau yma gystadlu’n well, nid yn unig yn y DU ond ledled byd.

Ac rydym wedi rhoi’r pwerau ariannol i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn yr isadeiledd sydd ei angen ar Ogledd Cymru.

Mae’r A55, er enghraifft – fel y gwyddoch i gyd – angen buddsoddiad sylweddol.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Prif Weinidog becyn sylweddol i drydaneiddio rheilffyrdd yn Ne Cymru – gan helpu i ddod â thwf economaidd yn nes at y cymunedau hynny yn y Cymoedd a oedd wedi cael eu hanghofio cyhyd.

Ac rwy’n falch fy mod i a fy nhîm wedi gallu helpu i wireddu hyn. Dyna beth yw pwrpas Ysgrifennydd Gwladol a Swyddfa Cymru. Cynrychioli buddiannau Cymru yn San Steffan a chyflawni llwyddiannau dros ein gwlad.

Ond os ydym am fynd i’r afael o ddifri â’r bwlch rhwng y De a’r Gogledd, yna rhaid i ni foderneiddio ein hisadeiledd rheilffyrdd ledled Cymru.

Rydym wedi cyfrannu dros 10 miliwn o bunnoedd i ail-agor Halton Curve i wella mynediad o Ogledd Cymru i Lerpwl. Ac rwyf eisiau edrych ar welliannau pellach i wasanaethau trawsffiniol, gan gynnwys o Wrecsam i Bidston.

Bydd gorsaf newydd HS2 yn Crewe yn gatalydd ar gyfer twf yn y rhanbarth drwy gysylltu Gogledd Cymru â gwasanaethau cyflym i Lundain a gogledd Lloegr.

Mae angen i ni wneud y gorau o’r potensial ddaw yn sgil y buddsoddiad hwn.

Brynhawn heddiw cwrddais â phobl fusnes Gogledd Cymru yng Ngorsaf y Rhyl – un o’r prif orsafoedd ar arfordir Gogledd Cymru – i bwysleisio pwysigrwydd trydaneiddio’r rheilffordd yng Ngogledd Cymru.

Yn union fel y Cymoedd – byddai trydaneiddio’r rheilffordd ar gyfer gorsafoedd fel y Rhyl yn gweddnewid Gogledd Cymru.

Yn cysylltu pobl a busnesau gyda chyfleoedd a swyddi ledled y wlad, fel nad yw lleoliad daearyddol byth yn rhwystro llwyddiant.

Mae Gogledd Cymru angen isadeiledd rheilffyrdd modern os yw am barhau i gystadlu gyda gweddill y wlad.

Fydd hyn ddim yn digwydd dros nos – bydd yn cymryd amser, arian, a llawer o waith caled.

Ond byddaf yn lladmerydd dros hyn wrth fwrdd y cabinet – ac yn cyflwyno’r achos dros drydaneiddio rheilffyrdd Gogledd Cymru i’m cydweithwyr yng nghalon y Llywodraeth.

Nid rhanbarth economaidd ynddo’i hun yn unig yw Gogledd Cymru, mae’n rhan o gymuned ehangach – nid yn unig tua’r De i Abertawe a Chaerdydd, ond tua’r Gogledd a’r Dwyrain i Lerpwl, Manceinion, Leeds, Sheffield a Humberside.

Nid yw’r Pwerdy Gogleddol y soniodd y Canghellor amdano yn hollgynhwysol – ac nid yw wedi’i gyfyngu i Loegr.

Mae’n golygu cysylltu rhanbarthau’r Gogledd, gan gynnwys Gogledd Cymru, i fasnachu, tyfu, denu buddsoddiad preifat, a denu’r bobl orau.

Ac mae system drafnidiaeth integredig yn rhan ganolog o hyn – yn ffyrdd a rheilffyrdd.

Felly mae’r Swyddfa Gymreig yn cynnal uwchgynhadledd drafnidiaeth yng Ngogledd Cymru ym mis Ionawr i edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael.

Cyfleoedd i sicrhau fod y rhanbarth hwn yn cael budd o’r twf a welwn ar draws gweddill y wlad.

Gwneud Gogledd Cymru yn Bwerdy Gogleddol ar gyfer economi Cymru.

Brwydro dros Ogledd Cymru

Fel Ysgrifennydd Cymru rwy’n canolbwyntio’n bendant iawn ar economeg llwyddiant Cymru.

Mae Cymru’n genedl sy’n edrych i’r dyfodol, yn datblygu cynnyrch a gwasanaethau o safon fyd-eang, ac yn arwain yr adfywiad economaidd.

A heno rydych yn rhoi hyd yn oed mwy o brawf i mi fynd gyda mi i Gaerdydd ac yn ôl i Lundain, i barhau’r frwydr dros Ogledd Cymru.

Ac i fynd â’r neges honno dramor i ddenu buddsoddiad a chefnogi allforion.

A chi, yr arweinwyr busnes yma yng Ngogledd Cymru, yw’r grym sy’n gyrru’r adfywiad economaidd yng Nghymru, ac ar draws y DU.

Chi yw’r bobl sy’n gwneud Gogledd Cymru’n Bwerdy Gogleddol i ni.

Gyrru’r dyfodol.

Gogledd Cymru – yn rymus ac yn camu’n hyderus i’r dyfodol.

Cyhoeddwyd ar 27 November 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 December 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.