Datganiad ysgrifenedig i'r Senedd

Ymateb Llywodraeth y DU i Adolygiad Cysylltedd Undeb

Ymagwedd strategol adeiladu ar ein Cynllun Rhwydwaith Gogledd gwerth £36 biliwn, gan helpu i gryfhau cysylltiadau ledled y DU.

The Rt Hon Mark Harper MP

Heddiw (7 Rhagfyr 2023), mae’n bleser gennyf gyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU i Adolygiad Cysylltedd Undeb annibynnol yr Arglwydd Hendy o Richmond Hill.

Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i bob person, busnes a chymuned ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Ein cenhadaeth ganolog yw sicrhau twf cynaliadwy a lledaenu cyfleoedd ledled y wlad. Mae sicrhau bod gennym system drafnidiaeth hygyrch, sydd â chysylltiadau da, yn darparu’r sylfaen ar gyfer cyflawni’r nod hwn a bydd yn cefnogi pob rhan o’r DU i gyrraedd ei photensial. Mae ein cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar ein Cynllun Rhwydwaith Gogledd gwerth £36 biliwn, gan helpu i gryfhau cysylltiadau ledled y DU.

Mae datganoli wedi cefnogi’n effeithiol y gwaith o gyflawni llawer o flaenoriaethau trafnidiaeth sy’n benodol i le sy’n bodloni anghenion cymunedau lleol. Mae wedi grymuso arweinwyr i ddarparu atebion ar gyfer eu hardaloedd ac wedi dod â phenderfyniadau yn nes at y bobl yr effeithir arnynt ganddynt. Ond dim ond Llywodraeth y DU all gymryd trosolwg o’n rhwydwaith trafnidiaeth strategol cyfan. I gefnogi hyn, gofynnodd Llywodraeth y DU i’r Arglwydd Hendy arwain Adolygiad Cysylltedd yr Undeb, yr asesiad trafnidiaeth strategol aml-foddol cyntaf mewn cenhedlaeth i’r DU gyfan.

Mae Adolygiad Cysylltedd yr Undeb, a’n hymateb iddo, yn cymryd ymagwedd strategol at drafnidiaeth. Mae’n cydnabod bod teithiau dyddiol pobl – am resymau gwaith, busnes, hamdden, addysg ac iechyd – a symudiadau dyddiol nwyddau yn croesi ffiniau gweinyddol yn rheolaidd. Ac mae’n cydnabod, fel Llywodraeth y DU gyfan, y dylem gymryd ymagwedd strategol i wneud i’r teithiau hynny weithio i bobl a busnesau ac i gryfhau cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol ar draws ein gwlad. Ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, hoffwn ddiolch i’r Arglwydd Hendy a’i banel arbenigol am eu gwaith rhagorol a diolch i’r sefydliadau ac unigolion niferus a gyfrannodd ato.

Mae llawer o argymhellion yr Arglwydd Hendy yn ymwneud â meysydd lle mae cyfrifoldeb dros drafnidiaeth wedi’i ddatganoli. Lle mae hyn yn wir rydym wedi gweithio, a byddwn yn parhau i weithio, ar y cyd â gweinyddiaethau datganoledig. Er nad yw argymhellion yr Arglwydd Hendy yn cyflwyno cynigion seilwaith manwl, maent yn cyfeirio at waith pellach i nodi ble, pryd a beth i fuddsoddi ynddo i wella cysylltedd a datgloi cyfleoedd twf.

Mewn ymateb i argymhellion Adolygiad Cysylltedd yr Undeb,  rydym wedi datblygu rhaglen o weithredoedd blaenoriaeth i fwrw ymlaen â gwaith datblygu pwysig a nodwyd gan yr Arglwydd Hendy. Rydym wedi blaenoriaethu camau gweithredu lle gallwn ddarparu cymorth yn gyflym ar gyfer prosiectau cysylltedd addawol y DU, cryfhau perthnasoedd gwaith â’r gweinyddiaethau datganoledig a sefydlu’r blociau adeiladu ar gyfer cynlluniau cysylltedd y DU yn y dyfodol. Bydd unrhyw benderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol yn amodol ar achos busnes.

Yn ogystal â’r biliynau sy’n cael eu hailgyfeirio o HS2 i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth a hybu gwell cysylltedd, a miliynau o bunnoedd o gyllid ar gyfer meysydd polisi trafnidiaeth a gadwyd yn ôl, rydym yn dynodi hyd at £23 miliwn o gymorth ariannol ar gyfer astudiaethau dichonoldeb mewn meysydd datganoledig o gyfrifoldeb trafnidiaeth yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y gwaith hwn yn ein rhoi ni, y gweinyddiaethau datganoledig a phartneriaid lleol a rhanbarthol mewn sefyllfa gref i asesu pa gynlluniau a allai sicrhau’r manteision mwyaf i bobl a busnesau ledled y DU, gan lywio penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol ynghylch pa rai y gellid eu datblygu yn yr hirdymor.

Ein gweithredoedd blaenoriaeth, sy’n cynnwys ond yn symud y tu hwnt i’n hymrwymiadau Rhwydwaith y Gogledd, yw:

Ar gyfer cysylltedd Cymru:

  • Darparu buddsoddiad digynsail o £1 biliwn i ariannu’r gwaith o drydaneiddio Prif Linell Gogledd Cymru, gan ddod â rhannu o Ogledd Cymru o fewn awr i Fanceinion a dod â theithiau mwy prydlon a dibynadwy ar y llwybr 105 milltir rhwng Crewe a Chaergybi, gyda chysylltiadau i Lerpwl, Warrington a Wrecsam.
  • Darparu Hyb Rheilffordd Canolbarth Lloegr yn llawn, gyda buddsoddiad wedi’i gynyddu i £1.75 biliwn i wella amseroedd teithio, cynyddu capasiti a hybu amlder gwasanaethau, er budd y rhai sy’n teithio rhwng Caerdydd a Birmingham.
  • Darparu £2.7 miliwn i Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu opsiynau ar gyfer uwchraddio Prif Linell De Cymru, gan gynnwys gorsafoedd newydd rhwng Caerdydd a Thwnnel Hafren a mwy o wasanaethu rhwng Bryste a Gorllewin Cymru.
  • Darparu £700,000 i Trafnidiaeth Cymru i astudio opsiynau ar gyfer gwella gorsafoedd Shotton a Chaer a chynyddu capasiti ar Brif Linell Rheilffordd Gogledd Cymru.

Ar gyfer cysylltedd yr Alban:

  • Ymrwymo cyllid i gyflawni gwelliannau wedi’u targedu i’r A75 rhwng Gretna a Stranraer, gan ddechrau gyda darparu £8 miliwn i Lywodraeth yr Alban i gefnogi datblygiad eu hachos busnes.
  • Ymrwymo cyllid ar gyfer deuoli’r A1 rhwng Morpeth ac Ellingham, gan helpu i wella llwybr pwysig rhwng Lloegr a’r Alban.
  • Ariannu Network Rail i astudio opsiynau ar gyfer gwelliannau i wella capasiti ac amseroedd teithio ar wasanaethau rhwng Lloegr a’r Alban.

Ar gyfer cysylltedd Gogledd Iwerddon

  • Darparu £3.3 miliwn Translink i gynnal astudiaeth ar gost, dichonoldeb a gwerth am arian trydaneiddio’r rheilffordd yng Ngogledd Iwerddon o Belfast i’r ffin.
  • Ariannu Translink i gynnal astudiaeth dichonoldeb gwerth £700,000 ar gyfer ailagor llinell reilffordd Antrim-Lisburn, ag arhosfan ychwanegol ym Maes Awyr Rhyngwladol Belfast.
  • Darparu £800,000 i Translink i gyflawni astudiaeth dichonoldeb ar adfer llinell reilffordd Portadown i Armagh.

Ar draws y DU:

Fel yr amlinellwyd yn Rhwydwaith y Gogledd, bydd rhai o’r prosiectau hyn yn amodol ar gymeradwyaeth achos busnes.

Ni fydd y gwaith hwn yn cael ei wneud ar ei ben ei hun. Bydd yn cael ei gefnogi gan waith hirdymor sylweddol ledled y DU i gyflawni gwelliannau sylfaenol i gysylltedd trafnidiaeth. Bydd yn adeiladu ar fentrau eraill Llywodraeth y DU, megis Rhwydwaith y Gogledd, y Gronfa Ffyniant Bro a Pharthau Buddsoddi, sy’n cefnogi twf cynaliadwy, mwy o ffyniant a chynhyrchiant gwell ledled y DU. Bydd yn adeiladu ar ein hymagwedd at gynllunio sy’n ystyried defnydd tir a seilwaith trafnidiaeth gyda’i gilydd i sicrhau’r manteision ehangaf posibl a datgloi mwy o gyfleodd. A bydd yn adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth y DU i weithio’n adeiladol ac ar y cyd â’r gweinyddiaethau datganoledig ledled y DU i gyflawni ein huchelgeisiau cyffredin.

Ble bynnag yr ydych yn byw, bydd Teyrnas Unedig sydd â gwell cysylltiadau yn dod â chi’n agosach at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd. Dyma pam mae Llywodraeth y DU yn benderfynol bod ein seilwaith trafnidiaeth yn cefnogi ffyniant bro, yn dod â chymunedau ledled y DU hyd yn oed yn agosach at ei gilydd ac yn hwyluso twf economaidd drwy gynyddu mynediad at lafur medrus a chyfleoedd. Mae ein hymateb i Adolygiad Cysylltedd yr Undeb yn nodi cam pwysig tuag at gynyddu cysylltedd y DU, cefnogi twf a darparu’r cysylltiadau trafnidiaeth cryf a dibynadwy y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd.

Cyhoeddwyd ar 7 December 2023