Canllawiau

Gweithio'n ddiogel yn ystod COVID-19: asiantau gorfodi (beilïaid)

Diweddarwyd 25 March 2022

This canllawiau was withdrawn on

The government has now removed remaining domestic Covid-19 restrictions in England. There are still steps you can take to reduce the risk of catching and spreading COVID-19, read more at:

https://www.gov.uk/guidance/living-safely-with-respiratory-infections-including-covid-19.

Public health is devolved in Wales. Please visit https://gov.wales/coronavirus for information about the current restrictions in Wales.

Canllawiau ar gyfer asiantau gorfodi (a elwir hefyd yn feilïaid) wrth ddefnyddio’r broses Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr – mae canllawiau gwahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae copi Saesneg o’r canllawiau hyn ar gael.

Paratowyd y ddogfen hon gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) mewn ymgynghoriad â Public Health England (PHE). Mae’r ddogfen hon yn cael ei hadolygu’n barhaus a bydd yn cael ei diweddaru i adlewyrchu newidiadau yng nghyngor iechyd y cyhoedd. Dylid dilyn y cyngor diweddaraf bob amser.

Mae iechyd y cyhoedd wedi’i ddatganoli yng Nghymru a dylid ystyried y canllawiau hyn ochr yn ochr â gofynion, deddfwriaeth a chanllawiau iechyd a diogelwch y cyhoedd yng Nghymru, lle gall cyfyngiadau fod yn wahanol iawn i’r rhai sy’n berthnasol yn Lloegr.

Mae brechlynnau coronafeirws (COVID-19) yn ddiogel ac yn effeithiol. Maen nhw’n rhoi’r amddiffyniad gorau i chi rhag COVID-19.

Mae’r Llywodraeth yn argymell y dylai oedolion gael eu brechu pan gânt eu gwahodd i wneud hynny. Fel arfer mae’n cymryd tua dwy i dair wythnos i ddatblygu gwrthgyrff. Fel pob meddyginiaeth, nid yw’r un brechlyn yn gwbl effeithiol, felly dylech barhau i gymryd y rhagofalon a argymhellir i geisio osgoi dal yr haint.

Bwriad y ddogfen hon yw helpu’r rhai sy’n defnyddio’r broses o gymryd rheolaeth ar nwyddau – gan gynnwys yr holl asiantau gorfodi (cyhoeddus a phreifat), eu cyflogwyr a’r credydwyr sy’n defnyddio eu gwasanaethau – i ddeall sut i weithio’n ddiogel yn ystod y pandemig.

Mae’r llywodraeth yn glir na ddylid gorfodi unrhyw un i weithio mewn amodau anniogel ac na ddylid peryglu iechyd a diogelwch gweithwyr a’r cyhoedd. Efallai y bydd mesurau iechyd a diogelwch lleol ar waith yng Nghymru a Lloegr. Dylid ystyried y canllawiau hyn ochr yn ochr ag unrhyw ofynion a deddfwriaeth iechyd a diogelwch cyhoeddus lleol. Rhaid i gyflogwyr ac asiantau gorfodi ddilyn pob cyfarwyddyd gan awdurdodau os bydd cyfyngiadau lleol newydd. Nid yw’r canllawiau hyn yn disodli unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sy’n deillio o’r ddeddfwriaeth Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau a dylid eu hystyried ochr yn ochr â’r canllawiau presennol a nodir yn y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau. Datblygwyd y canllawiau hyn i fynd i’r afael â’r defnydd o’r ddeddfwriaeth Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau, ond dylai’r rhai sy’n eu defnyddio hefyd ystyried canllawiau cyffredinol y Llywodraeth a dylent gymryd camau i’w dilyn os ydyn nhw’n berthnasol i’w gweithgareddau. Mae rhagor o wybodaeth am y canllawiau ar gael isod o dan Ble i gael canllawiau pellach.

Nid yw’r canllawiau hyn yn disodli unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, cyflogaeth na chydraddoldeb ac mae’n bwysig bod busnesau a chyflogwyr yn parhau i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau presennol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag unigolion â nodweddion gwarchodedig. Mae’n cynnwys canllawiau anstatudol y dylid eu hystyried wrth gydymffurfio â’r rhwymedigaethau presennol hyn. Wrth ystyried sut i gymhwyso’r canllawiau hyn, rhaid ystyried diogelwch gweithwyr asiantaeth, contractwyr ac aelodau o’r cyhoedd, yn ogystal â gweithwyr.

Rhaid i gyflogwyr ac asiantau gorfodi gynnal asesiad risg COVID-19 priodol, gan ddefnyddio’r canllawiau hyn i lywio’r penderfyniadau a’r mesurau rheoli a gymerir. Rhaid gwneud hyn drwy ymgynghori ag undebau neu weithwyr. Mae canllawiau pellach ar gael o dan yr adran Asesiadau Risg isod a gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn https://www.hse.gov.uk/simple-health-safety/risk/index.htm.

Atal trosglwyddo

1) Ar ôl cyrraedd eiddo, dylai asiantau gorfodi gynnal asesiad risg deinamig. Dylent fod yn effro i risg drwy gydol yr ymweliad a dylent adael os ydyn nhw’n canfod risg i’w diogelwch eu hunain neu ddiogelwch rhywun arall. Dylid rhoi mesurau lliniaru ar waith drwy gydol yr ymweliad cyfan.

2) Yn Lloegr, os yw asiant gorfodi yn datblygu symptomau COVID 19 ac/neu yn profi’n bositif am COVID 19, dylai ef neu hi ddilyn canllawiau’r llywodraeth, a gellir eu gweld yma: Canllawiau i bobl â choronafeirws (COVID-19) a’u cysylltiadau agos.

3) Os yw asiantau gorfodi yn gweithio mewn parau, fe’u cynghorir i weithio mewn timau sefydlog lle y bo’n bosibl i leihau’r cyswllt rhwng gwahanol unigolion.

Gorfodi mewn eiddo preswyl

4) Cynghorir asiantau gorfodi neu’r rhai sy’n gweithredu ar eu rhan i wneud ymdrech resymol i gysylltu ag aelwydydd cyn ymweld ag eiddo preswyl lle y bo’n bosibl i asesu risg a sicrhau y gall yr ymweliad fynd rhagddo’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cyswllt dros y ffôn (os yw’r rhif ffôn yn hysbys a’i bod yn briodol gwneud hynny) ac fel arall drwy ddulliau fel SMS, llythyr neu e-bost. Cynghorir asiantau gorfodi i ofyn i aelwydydd roi gwybod iddynt os oes gan unrhyw un symptomau neu COVID-19. O dan yr amgylchiadau hyn, ni ddylai’r asiant fwrw ymlaen â’r ymweliad.

5) Pan fydd rhywun yn ateb y drws, dylai’r asiant gyflwyno ei hun, a gofyn a oes gan unrhyw un ar yr aelwyd COVID-19. Os felly, dylai’r asiant derfynu’r ymweliad, gadael yn ddiogel a chofnodi’r rheswm dros wneud hynny. Ni ddylai asiantau gorfodi geisio cael pobl i wneud taliadau neu gytuno iddynt o dan yr amgylchiadau hyn.

Gallant roi gwybod i ddeiliad y tŷ pryd y byddant yn dychwelyd a darparu manylion cyswllt. Dylid gwneud hyn yn ddiogel gan gadw cymaint o bellter â phosibl, er enghraifft drwy aros i ddeiliad y tŷ fynd yn ôl i mewn i’r eiddo ac yna gwthio cerdyn drwy’r blwch llythyrau.

6) Cynghorir asiantau gorfodi i sefydlu o bell a oes angen iddynt fynd i mewn i’r eiddo. Os byddan nhw’n mynd i mewn, cyn gwneud hynny, fe ddylen nhw asesu’r risgiau a thrafod trefniadau gyda deiliad y tŷ o bellter er mwyn gwneud hynny’n ddiogel. Gallai hyn gynnwys cymryd camau i:

  • gadw pellter rhwng pobl cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys defnyddio gorchuddion wyneb os ystyrir bod hynny’n briodol. Er enghraifft, os bydd rhywun yn y cartref yn gofyn iddynt wneud hynny.

  • lleihau’r cyswllt â deiliaid tai;

  • lleihau cyswllt corfforol ag arwynebau a gwrthrychau gan yr asiant gorfodi;

  • cynnal trafodaethau mewn ardaloedd sydd wedi’u hawyru’n dda lle y bo’n bosibl, er enghraifft drwy ofyn i ddeiliad y tŷ agor drysau a ffenestri;

  • dilyn arferion da o ran hylendid dwylo fel y disgrifir yn adrannau 12–13.

7) Mae’n bwysig ystyried y gallai eraill ddymuno cymryd ymagwedd fwy gofalus. Dylai pob asiant gorfodi fod yn ystyriol o hyn, er enghraifft o ran defnyddio gorchuddion wyneb.

Gorfodi mewn eiddo masnachol

  1. Dylai asiantau gorfodi sy’n ymweld â man busnes sylwi ar unrhyw fesurau sydd gan y busnes i sicrhau diogelwch eu cwsmeriaid a’u gweithwyr.

Bod yn agored i niwed

9) Wrth bwyso a mesur a ddylid ystyried unigolyn yn agored i niwed at ddibenion y ddeddfwriaeth Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau, dylai asiantau gorfodi ystyried effeithiau COVID-19, megis a oes/fu gan yr unigolyn symptomau. Dylai asiantau gorfodi hefyd fod yn ymwybodol y gall rhai unigolion neu grwpiau o bobl fod yn fwy agored i salwch difrifol o COVID-19 - mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

10) Dylai asiantau gorfodi ddilyn y canllawiau ar fod yn agored i niwed a nodir yn y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau a sicrhau eu bod yn gweithredu’n unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol. Lle y bo’n briodol, dylent gyfeirio unigolion at sefydliadau cynghori ar ddyledion a rhoi cyfle digonol iddynt gael cymorth a chyngor.

Hylendid a defnyddio cyfarpar diogelu

11) Cynghorir asiantau gorfodi i wisgo gorchudd wyneb wrth ddod i gysylltiad â phobl nad ydynt fel arfer yn eu cyfarfod mewn mannau sy’n gaeedig ac yn orlawn, neu pan ofynnir iddynt wneud hynny gan unigolion sy’n bresennol ar y safle. Ceir cyngor pellach ar ddefnyddio gorchuddion wyneb yma: Gorchuddion wyneb: pryd i wisgo un, esemptiadau a sut i wneud eich gorchudd eich hun – GOV.UK (www.gov.uk)

12) Cynghorir asiantau gorfodi i ddilyn arferion hylendid da, gan gynnwys:

  • hylendid dwylo – golchi dwylo’n rheolaidd am 20 eiliad gyda sebon a dŵr neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo;

  • gorchuddio’r geg a’r trwyn â hances neu lawes wrth besychu neu disian, yna cael gwared ar yr hances ar unwaith mewn bin a golchi dwylo, neu besychu neu disian i’w braich;

  • osgoi cyffwrdd eu hwyneb â’u dwylo;

  • osgoi cyswllt â gwrthrychau ac arwynebau caled lle bo modd;

  • defnyddio dulliau talu digyswllt lle bo modd;

  • osgoi rhannu eitemau fel beiros.

13) Cynghorir asiantau gorfodi i gario hylif diheintio dwylo gyda nhw bob amser, er enghraifft yn eu poced.

14) Dylai asiantau gorfodi asesu sefyllfaoedd risg fesul achos, ond argymhellir bod beilïaid yn gwisgo mwgwd a menig mewn mannau caeedig a gorlawn lle nad yw’n bosibl cadw rhywfaint o bellter.

1%) Os yw asiantau gorfodi yn rhannu cerbydau, dylid diheintio’r cerbydau bob dydd. Mae hyn yn cynnwys glanhau’r ardaloedd a gyffyrddir yn aml fel y llyw, y ffon gêr, y rheolaethau, yr allweddi a handlenni’r drysau gan ddefnyddio cynnyrch sy’n cynnwys hydoddiant cannu.

Cyflogwyr

16) Dylai cyflogwyr sicrhau bod asiantau gorfodi yn ymwybodol o’r canllawiau hyn ac yn eu deall.

17) Dylid annog asiantau gorfodi i gael eu brechu.

18) Dylai cyflogwyr ddarparu cyfarpar priodol yn rhad ac am ddim i asiantau gorfodi i’w galluogi i weithio’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gorchuddion wyneb, hylif diheintio dwylo ac offer glanhau arall fel sy’n ofynnol yn ôl yr asesiad risg.

19) Dylai cyflogwyr ddilyn canllawiau’r llywodraeth a sicrhau bod mesurau ar waith i alluogi gweithwyr i weithio’n ddiogel. Dylai cyflogwyr hefyd fod yn ymwybodol y gallai rhai unigolion neu grwpiau o bobl fod yn fwy agored i effeithiau COVID-19. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. Mae canllawiau i’r rhai hynny sydd â system imiwnedd sy’n golygu eu bod mewn mwy o risg o ddioddef effeithiau COVID-19 ar gael yma.

Asesiadau risg

20) Rhaid i gyflogwyr ac asiantau gorfodi hunangyflogedig gynnal asesiad risg priodol yn y gweithle ar gyfer COVID-19, yn union fel y byddent ar gyfer peryglon eraill sy’n gysylltiedig ag Iechyd a Diogelwch. Dylai’r asesiad risg hwn ystyried a nodi’r mesurau lliniaru a gyflwynir. Rhaid ei wneud mewn ymgynghoriad ag undebau neu weithwyr.

21) Mae adnoddau rhyngweithiol ar gael i helpu i gynnal asesiadau risg gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn https://www.hse.gov.uk/simple-health-safety/risk/index.htm.

22) Nid pwrpas yr asesiad risg yw creu llawer iawn o waith papur, ond yn hytrach nodi mesurau synhwyrol i reoli risgiau wrth weithio a sicrhau bod camau priodol wedi’u cymryd. Rhaid i gyflogwyr rannu canlyniadau eu hasesiad risg gyda’u gweithlu a sicrhau bod gan weithwyr wybodaeth a chyfarwyddyd priodol yn y mesurau rheoli a fabwysiadir. Os yw’n bosibl, dylai cyflogwyr ystyried cyhoeddi’r canlyniadau ar eu gwefan (a byddem yn disgwyl i bob cyflogwr sydd â dros 50 o weithwyr wneud hynny). Nid oes rhaid i fusnesau sydd â llai na phump o weithwyr ac asiantau hunangyflogedig ysgrifennu unrhyw beth fel rhan o’r asesiad risg. Dylai cyflogwyr oruchwylio, monitro ac adolygu’r mesurau rheoli fel rhan o’r dull gweithredu Cynllunio, Gwneud, Gwirio, Gweithredu ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch.

23) Dylid tynnu sylw gweithwyr at ganfyddiadau arwyddocaol yr asesiad risg. Rhaid i weithwyr gael gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant yn y mesurau rheoli a fabwysiadir. Mae angen i’r cyflogwr oruchwylio, monitro ac adolygu’r mesurau rheoli a rhoi ar waith y dull Cynllunio, Gwneud, Gwirio, Gweithredu ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch.

24) Byddem yn disgwyl i bob busnes ddangos i’w gweithwyr a’u cwsmeriaid eu bod wedi asesu eu risg yn briodol ac wedi cymryd camau priodol i liniaru hyn. Dylent wneud hyn drwy arddangos hysbysiad mewn man amlwg yn eu busnes a’u gwefan, os oes ganddynt un. Dylai busnesau ddarparu copi o’r hysbysiad hwn i asiantau gorfodi sy’n gweithio ar eu rhan a dylai asiantau gorfodi ddangos hyn i unigolion y maen nhw’n ymweld â nhw ar gais.

25) Gallai peidio â chwblhau asesiad risg sy’n ystyried COVID-19, neu gwblhau asesiad risg ond peidio â rhoi mesurau digonol ar waith i reoli’r risg o COVID-19, fod yn gyfystyr â thorri cyfraith iechyd a diogelwch. Mae’r camau y gall yr awdurdod gorfodi (megis yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu awdurdod lleol) eu cymryd yn cynnwys darparu cyngor penodol i gyflogwyr i’w cynorthwyo i gyrraedd y safon ofynnol, hyd at gyhoeddi hysbysiadau gorfodi i helpu i sicrhau gwelliannau. Gall achosion difrifol o dorri amodau a pheidio â chydymffurfio â hysbysiadau gorfodi fod yn drosedd, gyda dirwyon difrifol a hyd yn oed carchar am hyd at ddwy flynedd. Ceir hefyd system orfodi ehangach, sy’n cynnwys rhwymedigaethau ac amodau penodol ar gyfer safleoedd trwyddedig.

Ble i gael canllawiau pellach

Coronafeirws (COVID-19): cyfarwyddyd a chefnogaeth - GOV.UK (www.gov.uk).

Canllawiau i bobl â choronafeirws (COVID-19) a’u cysylltiadau agos

Gweithio’n ddiogel yn ystod coronafeirws (COVID-19) - Cyfarwyddyd - GOV.UK (www.gov.uk)

Dylid ystyried y canllawiau hyn ochr yn ochr â’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau.
https://www.gov.uk/government/publications/bailiffs-and-enforcement-agents-national-standards

Mae canllawiau ar asesiadau risg a’r dull Cynllunio, Gwneud, Gwirio, Gweithredu ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: https://www.hse.gov.uk/simple-health-safety/risk/index.htm

https://www.hse.gov.uk/managing/plan-do-check-act.htm

Mae rhagor o wybodaeth am grwpiau sydd mewn risg uwch o COVID-19 ar gael gan y GIG:
https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/people-at-higher-risk/whos-at-higher-risk-from-coronavirus/ a chanllawiau diweddaraf y Llywodraeth ar gyfer pobl a oedd yn cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol – GOV.UK (www.gov.uk)