Canllawiau

LP9: Beth sy’n digwydd pan na allaf wneud penderfyniadau drosof fy hun? (fersiwn y we)

Diweddarwyd 8 February 2022

Byddai llawer ohonom yn hoffi cynllunio ar gyfer amser pan fyddwn angen cymorth i wneud penderfyniadau.

Gall strôc, trawiad ar y galon, clefyd Alzheimer’s neu ddamwain ddifrifol olygu ein bod yn ddibynnol ar bobl eraill i wneud penderfyniadau pwysig yn ein bywydau.

Neu efallai y bydd angen i ni roi’r hawl i rywun wneud penderfyniadau drosom os byddwn, er enghraifft, yn mynd i fod yn yr ysbyty neu dramor am gyfnod ac na fydd yn hawdd i ni allu gwneud penderfyniadau drosom ein hunain.

1. Gwneud atwrneiaeth arhosol

Un ffordd o gynllunio ar gyfer y dyfodol yw drwy greu yr hyn a elwir yn atwrneiaeth arhosol (LPA. Mae LPA yn ffordd syml i chi ddewis rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i wneud penderfyniadau drosoch.

Gall LPA fod yn llawer rhatach na ffyrdd eraill i bobl wneud penderfyniadau ar eich rhan a gallant wneud pethau’n llawer haws i bobl eraill yn eich bywyd, na’r dewisiadau eraill.

Pwy allai fod angen atwrneiaeth arhosol?

Unrhyw un, o bosibl. Gall gwaeledd cyffredin fel canser neu glefyd y galon ein gadael yn ddibynnol ar bobl eraill i wneud i benderfyniadau ddigwydd.

Mae dros 800,000 o bobl yn y DU yn dioddef o ddementia, ac mae Cymdeithas Alzheimer’s yn rhagweld y bydd hyn yn cynyddu i dros filiwn erbyn 2025.

O ran damweiniau, caiff rhywun eu derbyn i’r ysbyty gyda niwed i’r ymennydd bob 90 eiliad yn y DU - mae damweiniau ar y ffyrdd neu ddamweiniau o ganlyniad i chwaraeon yn enghreifftiau o’r hyn a all fynd o’i le.

Does dim rhaid i chi fod yn oedrannus i LPA fod yn ddefnyddiol. Bydd rhai rhieni yn creu LPA i sicrhau y gofelir am eu plant yn y ffordd a ddymunant rhag ofn na fydd modd iddynt hwy eu hunain ofalu amdanynt.

2. Sut mae atwrneiaeth arhosol yn gweithio?

Mae LPA yn ddogfen gyfreithiol y gallwch ei chreu gan ddefnyddio gwasanaeth syml ar-lein neu ffurflenni papur. Yn eich LPA byddwch yn enwi’r bobl yr hoffech iddynt wneud penderfyniadau ar eich rhan pan nad ydych chi eisiau gwneud penderfyniadau neu’n methu â gwneud penderfyniadau drosoch eich hun.

Gallwch wneud LPA ar gyfer penderfyniadau ynghylch eich arian neu ynghylch eich iechyd a’ch lles.

3. Pa bryd bydd LPA yn dod yn weithredol?

Gallwch greu LPA i’w defnyddio ddim ond os na allwch chi wneud eich penderfyniadau eich hun mwyach – sef yr hyn a elwir yn golli ‘galluedd meddyliol’.

Neu gallwch wneud LPA i’w defnyddio ar gyfer rhai penderfyniadau penodol – rhai ariannol – tra eich bod yn parhau i fod â galluedd meddyliol.

4. Beth allai ddigwydd os nad wyf yn creu LPA?

Os byddwch yn colli galluedd meddyliol, drwy salwch neu anaf, ac nad ydych wedi creu LPA:

  • ni fydd modd i chi wedyn allu penderfynu pwy sy’n gwneud penderfyniadau ar eich rhan (dim ond tra bydd gennych alluedd meddyliol y gallwch wneud eich LPA).

  • gallai pobl nad ydych yn eu hadnabod fod yn gwneud penderfyniadau pwysig ar eich rhan – er enghraifft ynghylch derbyn triniaeth feddygol i’ch cadw’n fyw ai peidio, neu ynghylch beth yr ydych yn ei fwyta a’i wisgo a ble rydych yn byw

  • gallai eich teulu neu ffrindiau orfod mynd i’r llys i wneud penderfyniadau ar eich rhan – a all fod yn llawer drutach a chymryd llawer mwy o amser na gwneud LPA

Os oes gennych alluedd meddwl, mae LPA yn ffordd syml a chyfreithiol-gadarn o roi grym i rywun yr ydych yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau drosoch – dros dro neu am gyfnod mwy.

Mae’n hawdd creu LPA ar-lein. I gael cyfarwyddiadau gam wrth gam ewch i: www.lastingpowerofattorney.service.gov.uk/home

5. Pwy gaf i ddewis i wneud penderfyniadau ar fy rhan?

Caiff y bobl y byddwch yn eu dewis i wneud penderfyniadau ar eich rhan mewn LPA eu galw’n ‘atwrneiod’. Gallwch gael un atwrnai neu sawl un.

Nid oes galw am unrhyw gymwysterau arbennig i fod yn atwrnai; caiff unrhyw berson sydd dros 18 oed fod yn atwrnai, gydag ychydig o eithriadau. Mae llawer o bobl yn dewis aelodau o’r teulu neu ffrindiau agos i fod yn atwrneiod iddynt. Bydd rhai pobl yn dewis gweithwyr proffesiynol megis cyfreithiwr neu gyfrifydd.

6. Pa fath o benderfyniadau fydd fy atwrneiod yn eu gwneud?

Mae hynny’n dibynnu os ydych yn creu LPA yng nghyswllt iechyd a lles neu ar gyfer penderfyniadau ariannol – neu’r ddau.

Mae LPA eiddo ac ariannol yn ymdrin â phenderfyniadau fel:

  • gofalu am eich biliau

  • gwneud buddsoddiadau ar eich rhan

  • prynu, gwerthu neu gynnal eich eiddo

  • rhoi rhoddion ar eich rhan

Mae LPA iechyd a lles yn ymdrin â phethau fel:

  • p’un ai a ydych yn byw gartref neu mewn cartref gofal

  • y gweithgareddau hamdden, deiet a’r mathau o ddillad sydd orau gennych

  • beth sy’n digwydd i’ch anifeiliaid anwes os byddwch yn colli galluedd meddwl

  • p’un ai i dderbyn triniaeth feddygol i’ch cadw’n fyw y tu hwnt i bwynt penodol

7. Ydy LPA yn golygu fod gan rywun reolaeth lwyr drosof?

Nac ydy. Mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau’r dewis o gael cymorth i wneud penderfyniadau tra bo ganddynt alluedd meddyliol o hyd. Os felly, rhaid i’ch atwrneiod weithredu ar eich cyfarwyddiadau chi yn unig a gallwch ganslo eich LPA ar unrhyw adeg.

Hyd yn oed pan fyddwch yn colli galluedd meddyliol, rhaid i’ch atwrneiod eich cynnwys gymaint â phosibl wrth wneud penderfyniadau.

Gallwch hefyd gynnwys cyfarwyddiadau yn eich LPA ynghylch y math o benderfyniadau iechyd neu les y gall eich atwrneiod eu gwneud ar eich rhan – a’r rhai na chânt eu gwneud.

Dywed y gyfraith fod yn rhaid i atwrneiod ddilyn un rheol goruwch pob peth: gwneud penderfyniadau er eich budd gorau chi, nid eu budd gorau hwy neu rywun arall.

8. Pa fesurau diogelwch eraill sydd?

Bydd llawer o bobl yn dewis mwy nac un person y maent yn ymddiried ynddynt fel eu hatwrnai er mwyn gwarchod yn erbyn y posibilrwydd o gam-ddefnyddio.

Gallwch benderfynu yn eich LPA faint o atwrneiod fydd yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan – er enghraifft, fod yn rhaid iddynt i gyd gytuno ar benderfyniadau arbennig o bwysig (megis gwerthu eiddo) ond y gallant wneud penderfyniadau eraill yn annibynnol.

9. Onid ar gyfer pobl sydd â chyllid cymhleth y mae LPA?

Na. Gallwch greu LPA i reoli eich arian a’ch eiddo y ffordd sydd orau gennych, waeth pa mor fawr neu gymhleth yw’ch materion.

Ond gallwch hefyd greu LPA ar gyfer penderfyniadau sydd â dim i’w wneud ag arian – gan gynnwys penderfyniadau meddygol a ble yr ydych yn byw.

10. A oes angen i mi dalu i’m hatwrneiod?

Mater i chi yw hyn. Mae’r rhan fwyaf o atwrneiod sydd heb fod yn rhai proffesiynol yn gweithredu yn ddi-dâl. Fodd bynnag, gallwch drefnu i dalu i’ch atwrneiod am eu hamser, os dymunwch.

Fel arfer bydd angen i chi dalu i atwrneiod proffesiynol, megis cyfreithwyr neu gyfrifyddion.

11. A oes angen cyfreithiwr arnaf i’m helpu i greu LPA?

Nac oes. Mae gwneud LPA gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein y llywodraeth yn syml ac nid yw’n defnyddio unrhyw iaith gyfreithiol gymhleth.

Mae llawer o bobl yn arbed arian ac yn creu atwrneiaeth arhosol ddilys heb gymorth cyfreithiwr. Fodd bynnag, oherwydd bod LPA yn ddogfen bwysig, mae’n well gan rai pobl gynnwys arbenigwr cyfreithiol.

12. Pwy gaiff greu LPA?

Caiff unrhyw un dros 18 oed sydd â galluedd meddyliol greu atwrneiaeth arhosol.

13. Faint yw cost LPA?

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn codi £82 i brosesu cais LPA. Caiff pobl ar rai budd-daliadau dalu ffi is neu ddim ffi o gwbl.

Nid yw ffi OPG yn cynnwys cost talu i gyfreithiwr helpu i greu eich LPA, os byddwch yn defnyddio un.

14. Beth allwn i ei wneud yn awr?

Bydd rhai pobl yn cwrdd â theulu a ffrindiau cyn creu LPA, i weld pwy sydd â’r sgiliau cywir, yr amser a’r parodrwydd i fod yn atwrnai iddynt.

Mae’n benderfyniad o’r pwys mwyaf ac mae’n golygu bod angen i bawb feddwl am eich lles gorau – nid pwy allai gael eu digio gan eich dewis o atwrnai.

Pan fyddwch yn barod, gallech ddechrau creu eich LPA gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein – un ai ar eich pen eich hun neu gyda chymorth. Does dim rhaid i chi lenwi’r ffurflen gyfan ar eich union ond gallwch ei harbed wrth i chi fynd ymlaen a gorffen gwahanol rannau pan fyddwch yn barod.

Mae digon o arweiniad ym mhob cam o’r gwasanaeth ar-lein i wneud y broses yn haws ac atal y camgymeriadau cyffredin y bydd pobl yn eu gwneud ar ffurflenni papur.

Gallwch hefyd lawr lwytho ffurflenni papur LPA neu gallwch ofyn am ffurflenni gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Ffôn: 0300 456 0300
Ffôn testun: 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw

Sylwer, oherwydd diffyg staff sy’n siarad Cymraeg, ni allwn ateb galwadau yn Gymraeg. Gallwch naill ai barhau â’ch galwad yn Saesneg, neu ysgrifennu eich ymholiad mewn e-bost a’i anfon i customerservices@publicguardian.gov.uk. Yna, byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg.

15. Rhannu’r neges

A allai aelodau o’r teulu, cydweithwyr neu ffrindiau fod eisiau cynllunio ar gyfer amser pan fyddant angen cymorth gyda phenderfyniadau bywyd? Ystyriwch rannu copi o’r daflen hon.

Holl ganllawiau a ffurflenni Cymraeg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus