Canllawiau

Pwy sydd angen atwrneiaeth arhosol?

Gall atwrneiaethau arhosol helpu pawb i gynllunio ar gyfer y dyfodol pe bai damweiniau’n digwydd, neu salwch fel dementia, strôc a chlefyd y galon neu ddigwyddiadau bywyd eraill.

Dogfennau

LP9: Beth sy’n digwydd pan na allaf wneud penderfyniadau drosof fy hun? (fersiwn print)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch customerservices@publicguardian.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Cewch wybod yn y daflen hon sut mae gwneud atwrneiaeth arhosol, sef dogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i rywun rydych yn ymddiried ynddynt wneud penderfyniadau ar eich rhan os nad ydych yn gallu gwneud hynny.

Nid dim ond ffordd o gynllunio ar gyfer y dyfodol os byddwch yn colli galluedd meddyliol trwy ddementia yw atwrneiaethau arhosol. Mae pobl eraill yn creu atwrneiaethau arhosol rhag i ddamwain ddifrifol, neu salwch fel strôc, trawiad ar y galon neu ganser, eu gadael yn ddibynnol ar eraill i helpu gyda phenderfyniadau hollbwysig.

Mae rhieni sydd â phlant hefyd yn gwneud atwrneiaeth arhosol i sicrhau bod eu plant yn derbyn gofal yn y ffordd maent yn dymuno rhag ofn na allant ofalu amdanynt eu hunain.

Mae gwasanaeth ar-lein atwrneiaeth arhosol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ei gynllunio i’w gwneud yn hawdd i bawb greu atwrneiaeth arhosol.

Mae’r daflen yn cynnwys cyngor ar:

  • pwy allai fod angen atwrneiaeth arhosol
  • sut mae atwrneiaethau arhosol yn gweithio
  • pwy allwch chi eu dewis i wneud penderfyniadau ar eich rhan
  • pa gostau sydd ynghlwm
  • beth allai ddigwydd os nad ydych yn creu atwrneiaeth arhosol

Rhagor o wybodaeth am yr hyn mae bod yn atwrnai yn ei olygu: Atwrneiaeth arhosol: gweithredu fel atwrnai

Fformatau amgen

I gael dogfen mewn print bras, anfonwch e-bost i: customerservices@publicguardian.gov.uk. Cofiwch roi eich cyfeiriad.

Cyhoeddwyd ar 19 May 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 February 2022 + show all updates
  1. Adding information for Welsh-speaking users on how to phone OPG.

  2. Added translation

  3. Welsh translations added

  4. Added web version of document

  5. First published.