Canllawiau

Adrodd yn wirfoddol ar anabledd, iechyd meddwl a lles

Mae'r fframwaith hwn yn cefnogi cyflogwyr i adrodd yn wirfoddol ar anabledd, iechyd meddwl a lles yn y gweithle.

Dogfennau

Adrodd gwirfoddol ar anabledd, iechyd meddwl a lles: Fframwaith i gefnogi cyflogwyr i adrodd yn wirfoddol ar anabledd, iechyd meddwl a lles yn y gweithle

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch accessible.formats@dwp.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r llywodraeth yn credu y gall tryloywder ac adrodd gefnogi’r newid diwylliannol sy’n ofynnol i adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol.

Mae’r fframwaith adrodd gwirfoddol wedi’i ddatblygu gan y llywodraeth mewn partneriaeth â busnesau blaenllaw a sefydliadau’r trydydd sector i gynorthwyo cyflogwyr i adrodd yn wirfoddol am wybodaeth am anabledd, iechyd meddwl a lles yn y gweithle.

Mae wedi’i anelu at sefydliadau sydd â dros 250 o weithwyr, ond gall cyflogwyr o unrhyw faint eu defnyddio.

Mae’r fframwaith hefyd yn nodi:

  • manteision mwy o dryloywder yn y gweithle
  • arweiniad ar sut y gellir casglu data, a lle y gellir ei adrodd
  • dolenni i gefnogaeth bellach
Cyhoeddwyd ar 22 November 2018