Ffurflen

Gwneud cais i ymuno â Chynllun Cyfradd Unffurf TAW

Gwneud cais i ymuno â'r Cynllun Cyfradd Unffurf gan ddefnyddio'r ffurflen VAT600FRS.

Dogfennau

Gwneud cais ar-lein i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf

Gwnewch gais drwy e-bost neu’r post i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf

Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn Saesneg)

Manylion

Defnyddiwch y ffurflen VAT600FRS er mwyn gwneud cais i ymuno â Chynllun Cyfradd Unffurf TAW.

Sut i ddefnyddio’r ffurflen ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Sut i ddefnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon

Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd. Mae’n well i gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau.

Ar ôl ei chwblhau, argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post i CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen, neu e-bostiwch hi i frsapplications.vrs@hmrc.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 8 September 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 October 2023 + show all updates
  1. A link to the online form has been added.

  2. Added translation