Skip to main content
Transparency data

Technical Guide: Updated estimates of children with a parent in prison (Welsh version)

Updated 6 November 2026

Applies to England and Wales

Canllaw Technegol: Amcangyfrifon o blant sydd â rhiant yn y carchar

1. Cyflwyniad

Mae’r amcangyfrifon hyn yn ymwneud â phlant o dan 18 oed sydd â rhiant yn y carchar.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad cynhwysfawr er mwyn deall yr amcangyfrifon. Mae’n rhoi sylw i’r canlynol:

  • Esboniad o ffynonellau ac ansawdd y data a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r amcangyfrifon;
  • Y fethodoleg a fabwysiadwyd i lunio’r amcangyfrifon (gan gynnwys cysylltu data a Phrosesu Iaith Naturiol);
  • Tybiaethau a chyfyngiadau’r data a’r dadansoddiad

2. Ffynonellau data ac ansawdd

2.1 Crynodeb o ffynonellau data

Mae’r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar ddata gweinyddol a gedwir ar draws Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS). Cafodd pump o ffynonellau data HMPPS eu defnyddio, a oedd yn cynnwys setiau data strwythuredig wedi’u trefnu mewn rhesi a cholofnau wedi’u fformatio, yn ogystal â setiau data testun rhydd heb eu strwythuro. Cafodd cofnodion hanesyddol eu hadalw oedd yn dyddio’n ôl cyn 1 Hydref 2024 i gyd-fynd â diwedd y cyfnod astudio o flwyddyn, ac mae’r rhain yn dyddio’n ôl hyd at ugain mlynedd mewn rhai achosion.

Ffynonellau data strwythuredig

  • Rhestrau ymwelwyr y System Gwybodaeth Reoli Troseddwyr Genedlaethol (NOMIS)
  • Rhestrau Cyswllt Personol National Delius (NDelius) y Gwasanaeth Prawf

Ffynonellau data heb strwythur

  • Asesiadau’r System Asesu Troseddwyr (OASys)
  • Nodiadau achos carchard NOMIS
  • Nodiadau achos y gwasanaeth prawf NDelius

Ar ben hynny, cynhaliwyd ymarfer paru data gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn defnyddio:

  • Cofnodion Budd-dal Plant HMRC

Mae NOMIS yn cynnwys gwybodaeth am unigolion yn y ddalfa, gan gynnwys eu symudiadau yn y carchar, gweithgareddau a’u cysylltiadau. Cafodd ei ddefnyddio i adnabod carfan y carchar (pob unigolyn yn y carchar yn ystod y cyfnod rhwng 1 Hydref 2023 ac 1 Hydref 2024) ac i gael gwybodaeth am gysylltiadau carcharorion.

Mae OASys yn cynnwys asesiadau a gwblhawyd ar gyfer unigolion ar wahanol gamau o’u taith cyfiawnder, gan gynnwys yn ystod eu cyfnod yn y ddalfa a’u cyfnod dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf. Mae’r asesiadau hyn yn casglu amrywiaeth eang o wybodaeth am risgiau, anghenion ac amgylchiadau personol sy’n gysylltiedig â throseddu. Gall aseswyr gwblhau naill ai asesiad sylfaenol (Haen 1) neu asesiad llawn (Haen 3), yn dibynnu ar amgylchiadau a gofynion gweithredol yr unigolyn.

NDelius yw system rheoli achosion y gwasanaeth prawf ac mae’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolion sy’n cael eu goruchwylio yn y gymuned, gan gynnwys manylion cyswllt, gwybodaeth rheoli achosion a nodiadau achos.

Mae ansawdd yr wybodaeth sy’n cael ei chadw yn y systemau gweithredol hyn yn uchel, ond mae’n amrywio yn ôl maes data yn dibynnu ar bwysigrwydd gweithredol a pha mor aml y mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio.

Ar gyfartaledd mae gan garcharor unigol tua 600 o nodiadau achos prawf a 300 o nodiadau achos carchar wedi’u hysgrifennu amdanynt ar draws NDelius a NOMIS. Gall y cofnodion testun rhydd hyn gynnwys gwybodaeth a ddatgelir yn uniongyrchol gan y carcharor, yn ogystal â manylion am ddibynyddion a pherthnasoedd teuluol neu gymdeithasol ehangach a gafwyd drwy gyswllt ag asiantaethau eraill, fel y gwasanaethau cymdeithasol. Ond, gall carcharorion fod yn amharod i ddatgelu gwybodaeth am eu plant â staff am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys pryderon y byddai’n arwain at ymyrraeth gwasanaethau statudol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ansawdd a chyfyngiadau’r meysydd data penodol a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn isod.

Cafodd data HMPPS ei gysylltu â chofnodion Budd-dal Plant CThEF at ddibenion dadansoddi. Cafodd cyfrifon Budd-dal Plant llawn, oedd yn cynnwys hawlwyr a dibynyddion eu dychwelyd i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a gallai’r rhain gynnwys unigolion nad ydynt wedi’u cofnodi yn nata’r HMPPS. Cafodd yr holl ddata ei ddefnyddio i gynhyrchu canfyddiadau ystadegol cyfun. Ni archwiliwyd amgylchiadau na chofnodion unigolion y gellid eu hadnabod.

2.2 Defnyddio data gweinyddol

Mae defnyddio data gweinyddol yn caniatáu i ddadansoddiad gael ei gynnal ar draws holl boblogaeth y carchar yn hytrach nag ar sampl. Gan fod y setiau data hyn yn cael eu casglu’n rheolaidd at ddibenion gweithredol, mae eu defnyddio hefyd yn osgoi’r angen i gasglu data ychwanegol.

Mae manylion yr holl ffynonellau data gweinyddol a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu’r datganiad hwn ar gael yn Natganiad Ffynonellau Gweinyddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.[1]

Fel gyda phob set ddata weinyddol ar raddfa fawr, mae cyfyngiadau ar y setiau data hyn. Gall gwallau ddigwydd wrth fewnbynnu, diweddaru neu brosesu data. Hefyd, gall y broses o gofnodi dibynyddion fod yn wahanol ar draws systemau oherwydd nad yw diffiniadau bob amser yn cael eu cymhwyso’n gyson, a gall staff gweithredol ddehongli canllawiau’n wahanol.

2.3 Y meysydd data strwythuredig a ddefnyddir

2.3.1 Rhestrau cyswllt NOMIS

Mae NOMIS yn cofnodi manylion unigolion sydd wedi cael cymeradwyaeth i ymweld â charcharorion. Os ydynt ar gael, mae’r cofnodion hyn yn cynnwys enw, dyddiad geni a pherthynas y cyswllt â’r carcharor. Ond, nid oes cofnodion am bob plentyn sy’n gysylltiedig â charcharor ac mae amrywiaeth o resymau am hynny, gan gynnwys:

  • Nid yw’r plentyn wedi’i gofrestru fel ymwelydd
  • Mae’r rhiant yn fwriadol wedi peidio â datgelu statws rhiant
  • Mae’r carcharor wedi’i rwystro rhag cael cyswllt â’i blant.

Ar gyfer y dadansoddiad hwn, cafodd plant eu diffinio fel unigolion o dan 18 oed ar 1 Hydref 2024, sef diwrnod olaf cyfnod y garfan. Felly, cafodd cysylltiadau 18 oed a hŷn eu heithrio.

2.3.2 Rhestrau cyswllt NDelius

Mae NDelius yn cofnodi cysylltiadau allweddol sy’n gysylltiedig ag unigolion dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf, gan gynnwys y berthynas agosaf a chysylltiadau personol arwyddocaol eraill. Gall y cofnodion hyn gynnwys enw, dyddiad geni a pherthynas y cyswllt â’r carcharor.

Ar gyfer y dadansoddiad hwn, roedd cysylltiadau a oedd o dan 18 oed ar 1 Hydref 2024 ac wedi’u cofnodi fel mab, merch, llysfab neu lysferch yn cael eu hadnabod fel plant. Efallai y bydd y set ddata hefyd yn cynnwys cysylltiadau sy’n ofalwyr neu’n warcheidwaid i blant sy’n gysylltiedig â’r unigolyn dan oruchwyliaeth.

2.4 Ffynonellau data HMPPS heb strwythur

2.4.1 Asesiadau OASys

Mae asesiadau OASys yn cynnwys gwybodaeth am berthnasoedd teuluol a phersonol, gan gynnwys a oes gan unigolyn blant a beth yw natur ei gysylltiad â nhw. Gall y berthynas a gofnodwyd gynnwys categorïau fel plentyn, ŵyr neu wyres, brawd neu chwaer.  Er dylai pob carcharor gael asesiad, mae argaeledd a chywirdeb yr wybodaeth hon yn dibynnu ar barodrwydd yr unigolyn i ddatgelu ei amgylchiadau ac ansawdd yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu a’i chofnodi gan yr asesydd ar adeg yr asesiad.

Mae’r astudiaeth hon yn cynnwys tair elfen sef yr Adnodd Sgrinio Sylfaenol ar gyfer Carcharorion (BCST) a gynhelir o fewn 72 awr i gyrraedd y ddalfa, yr asesiad llawn, a chofnodion Plentyn mewn Perygl. Mae BCST yn canolbwyntio ar nifer y plant yn y cartref ac nid yw’n gorchymyn cofnodi manylion plant unigol. Mae Plentyn mewn Perygl yn adnabod plant a allai fod mewn perygl o niwed difrifol gan y troseddwr, ac mae’r cofnodion yn cynnwys gwybodaeth fanwl am blant unigol.

2.4.2 Nodiadau achos NOMIS

Mae nodiadau achos yn cael eu defnyddio gan staff y carchar i gofnodi gwybodaeth am ymddygiad a chynnydd y carcharor, yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau eraill. Maent yn darparu cofnod manwl sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd o sefyllfa unigolyn yn y ddalfa. [2]

Mae disgwyl i staff sydd â chyfrifoldebau cyswllt gofnodi gwybodaeth mewn nodiadau achos yn rheolaidd, ac mae prosesau rheoli ar waith i fonitro amlder ac ansawdd y cofnodion.

Gan fod nodiadau achos yn gofnodion testun rhydd heb strwythur, nid oes unrhyw fformat gorfodol na gofyniad i gofnodi gwybodaeth am ddibynyddion. O ganlyniad, mae presenoldeb gwybodaeth berthnasol yn dibynnu ar staff yn nodi bod yr wybodaeth yn ddigon pwysig i’w dogfennu.

2.4.3 Nodiadau achos NDelius

Mae nodiadau achos NDelius yn cofnodi’r ymgysylltiadau rhwng ymarferwyr prawf ac unigolion dan oruchwyliaeth, yn ogystal â chyswllt perthnasol â thrydydd partïon.[3]

Mae canllawiau’n mynnu bod cysylltiadau’n cael eu cofnodi o fewn un diwrnod gwaith a bod cofnodion yn gwahaniaethu’n glir rhwng gwybodaeth ffeithiol a barn broffesiynol.

Mae nodiadau achos NDelius, fel nodiadau achos NOMIS, yn gofnodion testun rhydd heb strwythur. Felly, dim ond pan fydd ymarferwyr o’r farn bod cofnodi’n berthnasol y mae gwybodaeth am blant neu ddibynyddion ar gael.

2.5 Data Budd-dal Plant CThEF

Mae Budd-dal Plant yn cael ei roi i deuluoedd sy’n gyfrifol am fagu plentyn dan 16 oed neu dan 20 oed os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy.[4]. Dim ond un person all hawlio Budd-dal Plant ar gyfer plentyn, ond does dim terfyn ar faint o blant y gallent hawlio ar eu cyfer. Ni ddylid drysu rhwng y budd-dal hwn a Chredyd Cynhwysol na Chredydau Treth a weinyddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd wedi cael ei gapio ar ddau blentyn am gyfnodau penodol. Mae oedran yn rhan o’r meini prawf cymhwyso ar gyfer Budd-dal Plant CThEF, ac felly mae cofnodion budd-daliadau hefyd yn cynnwys manylion am nifer ac oedran y plant yn ogystal â’r cyfeiriad.

Gan fod y data’n ymwneud yn uniongyrchol â phlant, dylai fod yn ddangosydd dibynadwy ynghylch a oes gan unigolyn ddibynyddion o dan 18 oed.[5]

Fodd bynnag, mae’r Budd-dal Plant yn cael ei hawlio gan yr unigolyn sydd â’r prif gyfrifoldeb dros y plentyn, ac nid yw’r unigolyn hwnnw bob amser yn rhiant i’r plentyn.[6] Er bod y rhan fwyaf o hawlwyr yn rhieni, gallent hefyd fod yn neiniau a theidiau, yn warcheidwaid ac yn bobl eraill os nad yw’r plentyn yng ngofal ei rieni. Ym mis Ebrill 2026, roedd 87% o’r holl gofnodion budd-dal plant yn ymwneud â phlant o dan 18 oed. Fodd bynnag, ar gyfer y cyfnod astudio a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r amcangyfrifon yn y cyhoeddiad hwn, 90% oedd y gyfradd defnyddio’r Budd-dal Plant ym mis Mai 2023.[7]

Roedd y canfyddiadau’n dangos bod defnyddio deallusrwydd artiffisial wedi galluogi gwybodaeth fwy cyflawn i gael ei thynnu o ddata heb ei strwythuro’r HMPPS, gan leihau nifer y plant sy’n cael eu hadnabod o gofnodion Budd-dal Plant CThEF yn unig.

3. Llywodraethu data

Mae’r rhaglen Gwella Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiol (BOLD) wedi sefydlu gweithdrefnau ar gyfer llywodraethu’r data y mae’n ei ddefnyddio’n effeithiol ar draws pob prosiect peilot. Mae hysbysiad preifatrwydd rhaglen BOLD ar gael ar gov.uk.

3.1 Llywodraethu

Mae dadansoddi ac ymchwilio gan ddefnyddio data a gesglir mewn systemau gweithredol ar draws HMPPS yn dod o dan Asesiadau o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA), sydd eisoes yn bodoli. Mae’r gwaith hwn yn berthnasol i’r rhain o dan y diben ymchwil a dadansoddi. Mae’r ystadegau ar ffurf gyfun at ddibenion deall troseddwyr yn unig; nid yw gwybodaeth am unrhyw unigolyn penodol o ddiddordeb.

3.2 Cyfrinachedd

Mae’r datganiad hwn yn nodi’r trefniadau sydd ar waith i ddiogelu data cyfrinachol pobl pan fydd amcangyfrifon yn cael eu cyhoeddi neu’n cael eu rhyddhau i’r cyhoedd. Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn datgan:

“Dylai sefydliadau ofalu am wybodaeth pobl mewn ffordd ddiogel a rheoli data mewn ffyrdd sy’n gyson â deddfwriaethau perthnasol ac sydd o fudd i’r cyhoedd”[8]

Er mwyn cydymffurfio â hyn a Deddf Diogelu Data 2018, ac er mwyn cynnal ymddiriedaeth a chydweithrediad y rhai sy’n defnyddio’r amcangyfrifon hyn, mae’r darpariaethau canlynol wedi cael eu rhoi ar waith:

  • Mae gwybodaeth breifat a gesglir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael ei storio yn unol â’n polisïau diogelwch.
  • Mae data electronig yn cael ei gadw ar rwydweithiau a ddiogelir gan gyfrinair.
  • Mae pob aelod newydd o staff yn cael gwiriad diogelwch cyn cael mynediad at systemau data ac mae’r holl staff yn cwblhau hyfforddiant gorfodol ar gyfrifoldeb gwybodaeth yn flynyddol.

Efallai y bydd rhai cyfrifiadau wedi cael eu dileu i Reoli Datgelu Ystadegol. Yn unol â chanllawiau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r GSS, mae asesiad o’r risg o ddatgelu yn ystyried y canlynol:

  • Lefel gyfanredol (gan gynnwys lefel ddaearyddol) y data;
  • Maint y boblogaeth;
  • Tebygolrwydd ymgais i adnabod;
  • Canlyniadau datgelu.

3.3 Ymgysylltu â’r cyhoedd

Mae ymddiriedaeth y cyhoedd ynghylch sut mae data’n cael ei rannu yn hanfodol ar gyfer BOLD, ac fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Foeseg ac Arloesi Data (CDEI), a’r cwmni ymchwilio Britain Thinks i ymgysylltu’n helaeth â’r grwpiau yr effeithir arnynt, cyfryngwyr dibynadwy, a’r cyhoedd. Mae canlyniadau’r ymarfer hwn, a’r hyn rydym wedi’i ddysgu o wrando ar y cyhoedd, wedi cyfrannu’n sylweddol at ddyluniad y rhaglen BOLD, ac wedi’i gyhoeddi gan y CDEI.

3.4 Defnyddio modelau deallusrwydd artiffisial a diogelwch data

Mae’r gwaith hwn yn defnyddio Modelau Iaith Mawr (LLMs) i ddadansoddi a thynnu gwybodaeth o nodiadau testun rhydd am gyswllt. Math o ddeallusrwydd artiffisial (AI) yw LLMs sy’n gallu prosesu a dadansoddi iaith ddynol a gellir eu cyfarwyddo i gynnal tasgau penodol drwy roi awgrymiadau ac enghreifftiau.

Mae’r LLM a ddefnyddir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y cyhoeddiad hwn wedi cael eu cynnal gan AWS [9] drwy Bedrock. Mae pwysau’r model yn cael eu cynnal a’u rheoli’n ddiogel ac yn gyfan gwbl yn y system AWS. Mae pob cais yn cael ei brosesu yn yr amgylchedd AWS heb alwadau API trydydd parti. Mae’r awgrymiadau a’r data a fewnbynnir a’r allbynnau’n cael eu cadw’n breifat, ac nid ydynt yn cael eu defnyddio i hyfforddi modelau. Mae amgryptio diogel o’r dechrau i’r diwedd ar waith gan bensaernïaeth Bedrock. Mae’r holl ddata’n cael ei gynnal a’i brosesu yn rhanbarth Gorllewin UE.

4. Methodoleg

Cafodd yr amcangyfrifon yn yr adroddiad hwn eu cynhyrchu gan ddefnyddio cyfuniad o fodelau iaith mawr (LLMs), cysylltu data gweinyddol a chyfateb i gofnodion Budd-dal plant CThEF. Yn gryno, roedd y broses yn cynnwys:

  1. Tynnu gwybodaeth am berthnasoedd cymdeithasol carcharorion sy’n oedolion (o bob oed) o ddata strwythuredig Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF
  2. Tynnu gwybodaeth am berthnasoedd cymdeithasol carcharorion sy’n oedolion o feysydd data heb strwythur, nodiadau achos yn bennaf
  3. Adnabod y perthnasoedd sy’n debygol o gynrychioli plant carcharor neu ofalwyr y plant hynny
  4. Cysylltu’r cofnodion hyn â chofnodion plant a hawlwyr Budd-dal plant CThEF
  5. Addasu amcangyfrifon i gyfrif am achosion o dan-nodi yn y data cysylltiedig gan ddefnyddio ffynonellau dilysu allanol
  6. Cymharu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol gyda ffynonellau data annibynnol i asesu materion yn ymwneud â rhagfarn neu sylw.

4.1 Gwersi a ddysgwyd o fethodoleg flaenorol

Roedd amcangyfrifon blaenorol yn dibynnu ar gysylltu carcharorion a’u partneriaid â chofnodion Budd-dal Plant CThEF. Canfu’r gwaith hwn nad oedd carcharorion gwrywaidd yn aml yn hawlio Budd-dal Plant, ac roedd cyfatebion llwyddiannus yn fwy tebygol o fod yn fenywod. Mae’r fethodoleg ddiwygiedig yn defnyddio ystod ehangach o wybodaeth am berthnasoedd cymdeithasol i adnabod plant a’u gofalwyr, gan gynnwys partneriaid, cynbartneriaid, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o’r teulu.

4.2 Cysylltu cofnodion carcharorion HMPPS

Nid yw prif ffynonellau data HMPPS (NOMIS, NDelius a OASys) yn rhannu’r un dynodwr cyffredin, ac mae hynny’n golygu bod cysylltu’n uniongyrchol yn anodd. I oresgyn hyn, cafodd cofnodion eu cysylltu a’u dad-ddyblygu yn defnyddio Splink, adnodd paru tebygoliaethol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Roedd hyn yn golygu bod modd cyfuno data oedd yn ymwneud â’r un unigolyn ar draws systemau, er bod anghysondebau neu wybodaeth ar goll.

Mae rhagor o fanylion am Splink ar gael ar Data First: An Introductory User Guide a Data First: Criminal Courts Linked Data.

4.3 Tynnu gwybodaeth o ddata heb ei strwythuro

Cafodd data testun rhydd ei hidlo i adnabod cyfeiriadau at berthnasoedd cymdeithasol gan ddefnyddio mynegiant rheolaidd (RegEx) a geiriau allweddol wrth chwilio, a chafodd nodiadau a gynhyrchwyd gan y system a oedd yn annhebygol o gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol eu heithrio. Ceir rhestr lawn o’r geiriau allweddol yn Atodiad A.

Yna, roedd y testun oedd wedi ei dynnu yn cael ei brosesu gyda LLM i adnabod mathau o berthynas a manylion personol cysylltiedig, fel enw, cyfeiriadau, math o berthynas, a dyddiad geni. Ceir enghraifft o awgrym a samplau o fewnbynnau ac allbynnau enghreifftiol yn Atodiad B.

4.4 Dewis model

Cafodd y modelau eu profi gan ystyried cywirdeb, amser prosesu a chost yn ogystal â ffynhonnell ddata. Cafodd yr ysgogiadau (cyfarwyddiadau ar ddethol yr wybodaeth a roddir i’r model) eu mireinio i wella’r ffordd roedd data’n cael ei ddethol, i leihau achosion o gasglu data personol diangen ac i leihau rhagfarn bosibl wrth adnabod perthnasoedd.

4.5 Lleihau a hidlo data

Cafodd data perthnasoedd a dynnwyd eu prosesu ymhellach er mwyn gweld sut roedd unigolion yn gysylltiedig â charcharor. Diffiniwyd perthnasoedd cadarn a chydnabyddedig i gyfeirio at berthnasoedd sylfaenol fel partner a phlentyn. Yn dilyn hynny, cafodd perthnasoedd aml-gam eu safoni’n gadwyni perthynas lle bo hynny’n bosibl i gefnogi prosesau hidlo cyson. Er enghraifft, mae’r ymadrodd “plentyn partner y carcharor” wedi’i safoni i’r gadwyn carcharor → partner → plentyn.

Dim ond pan oedd tystiolaeth o berthynas bosibl rhwng rhiant a phlentyn y cafodd y cofnodion eu cadw. Roedd hyn yn sicrhau mai dim ond gwybodaeth a oedd yn berthnasol i adnabod plant carcharorion oedd yn cael ei chynnwys mewn unrhyw gysylltiadau dilynol.

Roedd yr hidlo’n seiliedig ar:

  • Math o berthynas
  • Cyfeiriadau cyffredin rhwng y plentyn a’r carcharor
  • Oedran y plentyn (dan 18 oed ar 1 Hydref 2024).

4.6 Cysylltu â data Budd-dal Plant CThEF

Cafodd data ar berthynas carcharorion â theuluoedd eu cysylltu â chofnodion Budd-dal Plant CThEF rhwng 2019 a 2024 gan ddefnyddio Splink i adnabod cysylltiadau tebygoliaethol[10]. Mae data Budd-dal Plant yn cynnwys gwybodaeth am hawlwyr, plant a nodweddion aelwydydd, ac yn ffynhonnell ychwanegol i adnabod plant dibynnol. Cynhaliwyd y broses baru mewn dau gam:

  1. Paru ar lefel teulu, cymharu gwybodaeth am aelwydydd ar draws setiau data.
  2. Paru ar lefel unigol o fewn cysylltiadau teuluol tebygol.

Bydd manylion pob plentyn ar y cyfrif Budd-dal Plant yn cael ei anfon yn ôl i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder os canfyddir bod gan garcharor blant.

Tynnwyd sylw at unigolion os oeddent yn cyfateb i fwy nag un plentyn neu fwy nag un hawlydd. Ni dderbyniwyd manylion personol yn ôl gan CThEF yn yr achosion hyn o fwy nag un cyfatebiad.

Cafodd 14% ychwanegol o blant eu hadnabod drwy gysylltiad â chofnodion hawlio Budd-dal Plant CThEF. Mae’r gyfran hon yn is na’r disgwyl oherwydd bod y fethodoleg well sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial yn gallu adnabod llawer mwy o blant yn uniongyrchol o gofnodion carchardai.

Cafodd cyfanswm o 37% o’r plant a adnabuwyd naill ai eu cadarnhau neu eu hategu drwy ddata Budd-dal Plant CThEF. Mae’r ffigur hwn hefyd yn is na’r disgwyl oherwydd bod cydymffurfio ag egwyddorion lleihau data’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn golygu na ellid anfon yr holl ddata am rwydweithiau cymdeithasol carcharorion at CThEF, pe baent yn dod o hyd i gyfatebiad posibl. Mae hyn yn lleihau’r llwyddiant canfod parau oherwydd bod dim modd profi sawl cyfuniad o gyfeiriadau i nodi pa un o’r rhain oedd yn gysylltiedig â theuluoedd carcharorion. Mae hyn wedi cael ei liniaru drwy addasu ar gyfer tangyfrif (gweler adran 4.8).

4.7 Creu set ddata derfynol

Cafodd gwybodaeth o ffynonellau HMPPS a CThEF eu dad-dyblygu a’u cyfuno i greu un set ddata o’r plant a adnabuwyd sydd â rhiant yn y carchar. Cyfunwyd cofnodion dyblyg am yr un plentyn oedd yn codi mewn amrywiaeth o ffynhonnell data neu mewn gwerth blynyddoedd o ddata Budd-dal Plant gan ddefnyddio technegau paru tebygoliaethol. Pan oedd gwybodaeth yn gwrthdaro, cafodd data Budd-dal plant (PT) yr HMRC ei flaenoriaethu lle’r oedd ar gael.

4.8 Dilysu ac addasu ar gyfer tangyfrif

Aseswyd cwmpas y set ddata yn erbyn dwy ffynhonnell annibynnol:

  • Operation Paramount, sy’n adnabod plant sydd â rhiant yn y carchar yn ardal Dyffryn Tafwys.
  • Cyfrifiad y Comisiynydd Plant o ysgolion a cholegau yn Lloegr. Gofynnwyd i ysgolion roi amcangyfrif o nifer y disgyblion oedd â rhiant neu ofalwr yn y carchar yn ystod haf 2024.

Mae Operation Paramount yn fenter dan arweiniad yr heddlu o fewn ardal Heddlu Dyffryn Tafwys sy’n cysylltu plant sydd â rhiant yn y carchar â sefydliadau trydydd sector sy’n gallu darparu cefnogaeth. Mae’r fenter yn dibynnu ar gofnodion o blant o fewn systemau’r heddlu, er enghraifft drwy gyswllt â’r heddlu fel aelodau o aelwyd oedd yn rhan o ddigwyddiad fel lladrad. Mae wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn, ac mae’r broses wedi’i gwella yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae’n cael ei hystyried fel ffynhonnell wybodaeth gadarn am blant sydd â rhiant yn y carchar ar gyfer yr ardal.   

Roedd dadansoddiad manwl yn cymharu sampl o blant o ddata cysylltiedig y Weinyddiaeth Gyfiawnder a CThEF gyda data Operation Paramount. Mewn sampl o 24 o blant (a’u teuluoedd ac aelodau o’r aelwyd, oedd yn codi’r nifer a gymerodd ran yn y sampl i tua 100 o unigolion), cafodd 20 o blant eu hadnabod, yn ogystal â’r rhan fwyaf o aelodau eraill eu haelwyd (brodyr a chwiorydd dan 18 oed). I gyfrif am y tangyfrif hwn, cafodd yr amcangyfrif terfynol ei addasu gan ffactor o 1.2. Ni adnabuwyd unrhyw dystiolaeth o danamcangyfrif systematig wrth gymharu data â data’r Comisiynydd Plant.  Cafodd amcangyfrif y Comisiynydd Plant ei gymharu â chyfrifiadau awdurdodau lleol o’r plant a adnabuwyd. 0.61 oedd cyfernod cydberthyniad trefn restrol Spearman, sy’n awgrymu bod lefel dda o gyfatebiaeth rhwng y ddwy set ddata.

4.9 Cafeatau a chyfyngiadau

Dylid ystyried nifer o gyfyngiadau wrth ddehongli’r amcangyfrifon hyn.

Defnyddio Modelau Iaith Mawr

Weithiau gall LLMs nodi neu ddod i gasgliadau anghywir am berthnasoedd. Er mwyn lliniaru’r risg hon, cafodd yr wybodaeth ei phrofi yn erbyn cofnodion ffynonellau a’i hategu gan ddata strwythuredig lle’r oedd ar gael. Defnyddiwyd ymarferion creu awgrymiadau a dilysu i leihau rhagfarn a gwella cywirdeb.

Nodi perthnasoedd

Nid oedd modelau LLM yn perfformio cystal wrth adnabod perthnasoedd mwy cymhleth, fel llysblant neu blant partner, o’i gymharu â pherthnasoedd teuluol symlach. Roedd sefydlu perthnasoedd cyfredol yn heriol mewn achosion lle’r oedd amgylchiadau teuluol wedi newid dros amser.

Ansawdd data

Roedd rhai cyfeiriadau a dynnwyd o gofnodion heb eu strwythuro yn anghyflawn neu’n annilys. Lle bo modd, defnyddiwyd adnoddau dilysu a safoni cyfeiriadau i wella ansawdd.

Diffinio rhiant

Mae gwahanol ffynonellau data yn diffinio rhieni, gofalwyr a dibynyddion yn wahanol. Er enghraifft, mae data Budd-dal plant (PT) yn adnabod hawlwyr cyfreithiol, a gall cofnodion HMPPS gynnwys perthnasoedd biolegol, perthnasoedd llys a pherthnasoedd eraill y rhiant. Mae defnyddio mwy nag un ffynhonnell yn ein helpu i wella’r ddarpariaeth, ond nid yw’n dileu’r gwahaniaethau yn llwyr.

Cwmpas ffynonellau data

Er bod cwmpas y Budd-dal plant (PT) yn uchel, nid yw pob teulu cymwys yn ymddangos yng nghofnodion CThEF. Ar ben hynny, efallai na fydd HMPPS yn cynnwys pob plentyn sy’n gysylltiedig â charcharor. Cafodd plant a oedd yn 18 oed cyn 1 Hydref 2024 eu heithrio, hyd yn oed os oeddent o dan 18 oed am y rhan fwyaf o gyfnod yr astudiaeth.

6. Manylion cyswllt

Gallwch anfon ymholiadau ac adborth ar yr amcangyfrifon hyn at y tîm yn CAPI@justice.gov.uk

Atodiad

Geiriau allweddol yr hidlydd testun rhydd

Defnyddiodd y gwaith hwn y geiriau allweddol hyn yn Saesneg, ac mae’r rhestr isod o eiriau Cymraeg wedi’u darparu er gwybodaeth. 

nain, taid, mam, dad, rhiant, modryb, ewythr, brawd, chwaer, cefnder, cyfnither, gŵr, gwraig, cyn-ŵr, cyn-wraig, partner, priod, cariad, darpar ŵr, darpar wraig, ffrind, mab, merch, plentyn, plant, nith, nai, hanner, llys, ŵyr, wyres.

Gellir ychwanegu ‘half’, ‘step’, ‘ex’, a ‘grand’ at y rhain pan fo hynny’n berthnasol, e.e. hanner brawd neu chwaer (half sibling), cyn-bartner (ex-partner). Mae dadansoddi iaith yn golygu bod geiriau allweddol tebyg i’r rhai a restrir hefyd yn codi, er enghraifft ‘nan’, ‘grandmother’ a ‘grandma’.

Awgrym LLM

Defnyddiodd y gwaith hwn y cyfarwyddiadau hyn yn Saesneg ac mae’r cyfieithiadau Cymraeg isod wedi’u darparu er gwybodaeth.

<rôl>

Rydych chi’n swyddog prawf sy’n casglu data am droseddwr.

</rôl>

Byddwch chi’n cael enw troseddwr a chyfres o nodiadau achos sy’n ymwneud â’r troseddwr hwnnw.

Eich tasg chi yw canfod perthnasoedd personol troseddwr o’r nodiadau sydd wedi’u hysgrifennu gan swyddogion prawf.

Tynnwch wybodaeth am berthnasoedd y troseddwr ac enwau cyfatebol.

Os yw’r nodiadau yn cynnwys manylion sawl enw, ewch ati i greu rhes ar eu cyfer. Gwnewch yn siŵr bod pob rhes yn unigryw.

Rhaid i’ch allbwn fod yn y fformat JSON canlynol:

[

  {{“math o _berthynas”: “math_o_berthynas”, “enw”: “enw”, “cyfeiriad”: “cyfeiriad”, “dyddiad_geni”: “dyddiad_geni”}},

  {{“math_o_berthynas”: “math_o_berthynas”, “enw”: “enw”, “cyfeiriad”: “cyfeiriad”, “dyddiad_geni”: “dyddiad_geni”}}

]

Dim ond y rhestr hon o berthnasoedd o fewn y cromfachau bach ddylai fod yn yr allbwn. Ni ddylid cynnwys rhaglith.

Os na ellir cadarnhau un o’r meysydd, dylid eu gadael fel dim.

dylai “math_o_berthynas” fod yn berthynas deuluol fel “mab”, “merch”, “gwraig”, “cyn-wr”; neu’n berthynas gymdeithasol fel “ffrind”.

dylid fformat “dyddiad_geni” fod yn “DD/MM/YYYY”.

dylai’r “enw” fod yn enw go iawn, nid y berthynas. Er enghraifft,

Gallwn ddod i gasgliad ynglŷn â’r berthynas o’r frawddeg,  “daeth Mam Fred i ymweld ag o ddydd Llun.”

{{“math_o_berthynas”: “mam”, “enw”: dim, “cyfeiriad”: dim, “dyddiad_geni”: dim}}

Nid yw “Mam Fred” nac unrhyw gyfystyron eraill ar gyfer perthynas yn addas  fel enw.

Gall y “cyfeiriad” fod mewn unrhyw fformat.

Dim ond un cais y dylai pob unigolyn ei gael. Ystyriwch a oes mwy nag un cofnod

yn ymwneud â’r un unigolyn, os oes, cyfunwch nhw.

Mae’r enghraifft isod yn rhoi enghraifft o fewnbwn ac allbwn disgwyliedig. Cofiwch fod yr enghraifft yn cynnwys data ffug na ddylid ei ailadrodd


[1] Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2016), Datganiad o Ffynonellau Gweinyddol (PDF, 624KB, 58 tudalen)

[2] Bwrdd Asiantaeth NOMS (2014), cyfarwyddiadau p-NOMIS

[3] Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Gwasanaeth Prawf – Safonau Cenedlaethol 2021 – diweddaru canllawiau Mehefin 2022 (Dogfen MS Word, 4.36MB)

[4] Gweler y cyfarwyddyd ar GOV.UK: https://www.gov.uk/budd-dal-plant.

[5] Cyllid a Thollau EF, rhyddhawyd Ebrill 2026, GOV.UK, Ystadegau Budd-dal Plant: datganiad blynyddol, data ar fis Awst 2025 - GOV.UK

Gallwch hawlio Budd-dal Plant os ydych chi’n gyfrifol am blentyn o dan 16 oed (neu o dan 20 oed os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant wedi’i gymeradwyo)” fel y nodir yn y daflen ffeithiau hon:https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5cbf1b7d40f0b63cacd6dcaf/Child_Benefit_factsheet.pdf

[7] Cyllid a Thollau EF, rhyddhawyd Ebrill 2024, GOV.UK, Ystadegau Budd-dal Plant: datganiad blynyddol, data ar fis Awst 2023  

[8] Yr Awdurdod Ystadegau (2018, diweddarwyd Mai 2022), Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau argraffiad 2.1 – T6:Llywodraethu data

[9] AWS BedRock:A yw eich data yn ddiogel?

[10] Splink