Publication

Lwfansau gwaith Credyd Cynhwysol

Updated 6 April 2020

1. Mae Credyd Cynhwysol yn ychwanegu at eich enillion

Pan fyddwch yn dechrau gweithio, bydd y swm o Gredyd Cynhwysol a gewch yn lleihau’n raddol wrth i chi ennill mwy.

Ond yn wahanol i Lwfans Ceisio Gwaith, ni fydd eich taliad yn dod i ben oherwydd eich bod yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos.

2. Cyfanswm yr incwm

Bydd cyfanswm eich incwm yn cynnwys eich enillion ynghyd â’ch taliad Credyd Cynhwysol newydd. Po fwyaf y byddwch yn ei ennill, yr uchaf fydd cyfanswm eich incwm.

Mae’ch cais yn parhau pan ddechreuwch weithio, fel gallwch gymryd swyddi dros dro neu dymhorol heb ofidio am wneud cais newydd sbon neu unrhyw fylchau rhwng dyddiau tâl wrth i chi symud i mewn ac allan o waith.

3. Lwfans Gwaith

Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn gymwys am lwfans gwaith. Lwfans gwaith yw’r swm y gallwch ei ennill cyn effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol.

Byddwch yn gymwys am lwfans gwaith os ydych chi (a/neu’ch partner) naill ai:

  • yn gyfrifol am blentyn a/neu
  • yn meddu ar allu cyfyngedig i weithio

Mae’r lwfansau gwaith misol wedi eu gosod ar:

£292 Os yw eich Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth gyda chostau tai
£512 Os nad ydych yn derbyn cymorth gyda chostau tai

Os oes gennych enillion ond nad ydych chi (neu eich partner) yn gyfrifol am blentyn neu nad oes gennych allu cyfyngedig i weithio, ni fyddwch yn gymwys am lwfans gwaith.

3.1 Treuliau gwaith heb eu had-dalu

Pan fyddwch naill ai’n gweithio neu’n dechrau gweithio, efallai y bydd gennych rai costau untro y mae’n rhaid i chi eu talu. Gallai hyn fod ar gyfer gwisg i’r gwaith, teithio, trwyddedau neu offer. Os nad yw eich cyflogwr yn fodlon cwrdd â’r costau hyn a’ch bod yn talu amdanynt gyda’ch arian eich hun, rydym yn galw’r costau hyn yn dreuliau gwaith heb eu had-dalu.

Os oes gennych rai o’r treuliau hyn pan fyddwch naill ai’n gweithio neu’n dechrau gweithio, siaradwch â’ch Anogwr Gwaith ac efallai y gallech roi’r treuliau hyn yn erbyn eich Taliad Credyd Cynhwysol.

4. Cyfradd tapr enillion Credyd Cynhwysol

Ar ôl i chi ennill mwy na’ch lwfans gwaith, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau ar gyfradd gyson. Gelwir hyn yn tapr enillion Credyd Cynhwysol.

Ar hyn o bryd mae’r gyfradd tapr enillion Credyd Cynhwysol yn 63%. Mae hyn yn golygu, am bob £1 rydych yn ei ennill dros eich lwfans gwaith (os ydych yn gymwys i gael un) bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng 63p, caiff y swm hwn ei dynnu’n awtomatig o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

5. Cymorth arall i’ch helpu i ennill mwy

Nod y llywodraeth yw cefnogi pobl ar Gredyd Cynhwysol i gynyddu eu henillion ac yn y pen draw symud i ffwrdd o fudd-daliadau’n gyfan gwbl. Os yw’n berthnasol, byddwn yn eich helpu i gymryd pob cyfle i ennill mwy a gweithio mwy.

Daethpwyd â’r newidiadau hyn ynghyd ag ystod o fesurau i sicrhau y gallwch ennill mwy. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol - sydd i gyrraedd dros £9 yr awr erbyn 2020
  • cynyddu’r lwfans treth personol i £12,500 o fis Ebrill 2019
  • cynyddu a darparu cymorth i gostau gofal plant cymwys yng Nghredyd Cynhwysol i 85% a dyblu’r ddarpariaeth o flynyddoedd cynnar am ddim i 30 awr yr wythnos ar gyfer rhieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 a 4 blwydd oed