Canllawiau

Chwefror 2019: Cylchlythyr ymgysylltu â landlordiaid Credyd Cynhwysol

Diweddarwyd 1 April 2020

Mae’r cylchlythyr Credyd Cynhwysol hwn wedi’i anelu i ddarparu gwybodaeth gyfredol i landlordiaid cymdeithasol a phreifat am Gredyd Cynhwysol.

1. Sefydlu rhybuddion e-bost

Mae rhybuddion e-bost yn ffordd dda iawn o dderbyn gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol sydd wedi cael ei ddiweddaru ar GOV.UK.

I lofnodi am rybuddion e-bost ewch i waelod unrhyw dudalen GOV.UK a chliciwch ar ‘publications’ yng ngwaelod de’r dudalen.

Ar y dudalen nesaf, i lawr yr ochr chwith gallwch ddewis yr hidlwyr perthnasol i nodi beth rydych eisiau derbyn diweddariadau amdanynt, yna dewiswch e-bost a chwblhewch fanylion e-bost.

Os byddwch yn gwneud hyn ar gyfer y ddolen uchod, bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn fersiynau newydd o’r newyddlen hon pan fydd yn cael ei gyhoeddi.

2. Diweddariadau cyffredinol

2.1 Stori yn y newyddion

Darllenwch y stori a gyhoeddwyd ar 11 Ionawr 2019 ble mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gosod allan ymagwedd newydd i Gredyd cynhwysol.

2.2 Ystadegau Credyd Cynhwysol

Cyhoeddwyd yr ystadegau am y nifer o bobl ar Gredyd Cynhwysol ar 13 Rhagfyr 2018 ar GOV.UK ar 22 Ionawr 2019.

Ystadegau allweddol

Yn y 5 wythnos hyd at 13eg Rhagfyr 2018, mae’r nifer o bobl sydd ar Gredyd Cynhwysol wedi cynyddu o 10% i 1.6 million. O’r bobl hyn, roedd 37% (580 mil) mewn cyflogaeth, i’w gymharu â 41% yn Rhagfyr 2017.

O’r bobl hyn, roedd 53% (830 mil) yn ferched, i’w gymharu â 45% yn Rhagfyr 2017.

Mae’r ffigyrau hyn yn unol â disgwyliadau presennol.

2.3 Am y canllaw Credyd Cynhwysol a thai rhent ar gyfer landlordiaid

Mae’r canllaw Credyd Cynhwysol a thai rhent ar gyfer landlordiaid yn ddogfen sy’n darparu gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol i landlordiaid y sector breifat a chymdeithasol i’w helpu i ddeall beth y gallent ei wneud i helpu eu tenantiaid baratoi am:

  • symud drosodd i’r taliad misol sengl o Gredyd Cynhwysol

  • gwneud taliadau uniongyrchol o’u costau tai (rhent) ar unwaith i’w landlordiaid eu hunain

Mae hefyd yn egluro pa gymorth sydd ar gael i denantiaid sydd efallai angen yr help hwn. Mae hyn yn cynnwys trefniadau talu amgen os yw hawlwyr yn ei chael yn anodd rheoli eu taliad Credyd Cynhwysol a thalu eu landlordiaid eu hunain.

Mae’n cynnwys gwybodaeth i landlordiaid sy’n cynnwys:

  • deall taliadau a helpu tenantiaid i baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol
  • talu rhent
  • gofynion tystiolaeth a gwirio ceisiadau
  • talu am 2 gartref
  • taliadau gwasanaeth
  • cymorth a Threfniadau Talu Amgen (APA)
  • adfer ôl-ddyledion rhent o gais UC
  • Taliadau Tai dewisol
  • anghenion llety arbenigol

Mwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol a landlordiaid.

2.4 Taliad Wedi’i Reoli i landlord

Disgwyliwn i’r rhan fwyaf o hawlwyr Credyd Cynhwysol gael taliad misol sengl a chymryd cyfrifoldeb am dalu eu biliau cartref eu hunain ar amser, gan gynnwys eu rhent.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai hawlwyr wrth reoli’r taliad hwn. Felly, mewn rhai achosion gallai Taliad Wedi’i Reoli i landlord fod yn briodol.

Pryd y gellir gofyn am Daliad Wedi’i Reoli i landlord?

Gellir gwneud Taliad Wedi’i Reoli i landlord pan naill ai:

  • mae hawlydd mewn ôl-ddyledion gyda’u rhent am swm sy’n hafal i, neu fwy na, ddau fis o’u rhent
  • mae hawlydd heb dalu ddigon o rent yn barhaus dros gyfnod o amser, ac maent wedi cronni ôl-ddyledion o swm sy’n hafal i un neu fwy mis o rent
  • mae unrhyw un o’r ffactorau eraill Haen 1 a Haen 2 APA yn berthnasol

Neu ar gyfer tenantiaid sector preifat:

  • ar gyfer hawlydd oedd yn flaenorol yn cael Budd-dal Tai ac fe’i talwyd i’w landlord preifat, gellir ystyried Taliad wedi’i Reoli i landlord os yw’r hawlydd yn parhau i fodloni ffactorau APA Haen 1 neu Haen 2

Mae hyn yn rhan o’r sgwrs y bydd staff Credyd Cynhwysol yn ei gael gyda’r hawlydd ar ddechrau’r cais.

2.5 Cyfathrebiadau Credyd Cynhwysol i landlordiaid

Mae cyfres o gynhyrchion newydd ar wefan Deall Credyd Cynhwysol, wedi cael eu datblygu i helpu landlordiaid i ddeall beth mae Credyd Cynhwysol yn ei olygu iddynt hwy.

Mae hyn yn cynnwys adran newydd i landlordiaid a chanllaw o brif awgrymiadau a fideos esboniadol.

Mae’r holl gynhyrchion hyn wedi’u cynllunio i gynghori landlordiaid fel y gallant gefnogi eu tenantiaid i dalu eu rhent a chadw eu cartrefi.

Mae’r wefan Deall Credyd Cynhwysol yn cynnwys gwybodaeth a chyngor defnyddiol i landlordiaid, gan gynnwys:

  • y camau mae angen iddynt eu cymryd pan fydd eu tenantiaid yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • sut y gallant helpu tenantiaid i wneud a rheoli eu cais
  • pa gamau y gallant eu cymryd a fydd yn helpu i’w rhent gael ei dalu ar amser ac yn llawn

Mae prif wefan Deall Credyd Cynhwysol hefyd yn darparu gwybodaeth allweddol i unigolion a sefydliadau partner ar bob agwedd o Gredyd Cynhwysol.

Mae’n ffynhonnell wybodaeth gywir a hygyrch i denantiaid a landlordiaid.

2.6 Gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol yn Gymraeg

Yn ystod yr ail ran o 2018, aethpwyd ati gyda’r gwaith o ddatblygu system Credyd Cynhwysol gwbl ddwyieithog a sicrhau bod yr un lefel o ymarferoldeb ar gael i hawlwyr a oedd yn dymuno cael eu trin drwy gyfrwng y Gymraeg.

O ganlyniad, roedd y system ddwyieithog ar gael i hawlwyr mewn ardaloedd gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol ledled Cymru o ddydd Mercher 28 Tachwedd.

Roedd hyn yn sicrhau bod y fersiwn Gymraeg yn ei le i gefnogi’r Canolfannau Gwaith hynny gyda’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg a aeth yn fyw gyda gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol ar 5 Rhagfyr (Ynys Môn a Cheredigion) a 12 Rhagfyr (Sir Gaerfyrddin a Gwynedd).

2.7 Untidy tenancies

Mae ‘untidy tenancy’ yn un lle mae cyd denant(denantiaid) wedi gadael yr eiddo a ddim yn talu rhent, er enghraifft, os yw perthynas wedi torri i lawr, ond ni all y landlord eu dileu o’r denantiaeth am resymau cyfreithiol.

Fel rheol, byddai Credyd Cynhwysol yn rhannu’r atebolrwydd rhent yn gyfartal ymhlith cyd-denantiaid wrth gyfrifo costau tai. Gall darpariaethau Credyd Cynhwysol weithiau alluogi i’r hawlydd gael ei drin yn atebol am rent nad oes ganddynt atebolrwydd ffurfiol i’w dalu.

Mewn achosion ‘untidy tenancy’ o’r fath, gellir defnyddio’r ddarpariaeth hon i ganiatáu’r costau tai gael eu cyfrifo yn seiliedig ar y rhent llawn, er bod hawlydd wedi rhannu atebolrwydd am y rhent o dan gyd-denantiaeth. Mae’r amgylchiadau hyn yn digwydd yn amlach yn y sector rhentu cymdeithasol.

2.8 Cymorth ar gyfer Costau Tai mewn Credyd Cynhwysol i bobl ifanc 18 i 21 oed

Mae’r Llywodraeth wedi diwygio’r rheoliadau fel bod gan bob person ifanc 18 i 21 oed hawl i gael cymorth ariannol tuag at eu rhent mewn ardaloedd gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol (UC).

Roedd y rheoliadau yn rhan o’r pecyn Rheoliadau Amrywiol Credyd Cynhwysol a ddaeth i rym ar 31 Rhagfyr 2018.

Yn amodol ar ddarpariaethau arferol, efallai y bydd gan y rheiny nad oeddent yn derbyn cymorth yn flaenorol hawl i gael cymorth ariannol tuag at eu costau tai.

Nid yw’r polisi’n berthnasol yn ôl-weithredol a dylai hawlwyr sicrhau bod eu cyfrif UC yn adlewyrchu’n gywir eu statws tai presennol ac yn hysbysu UC o unrhyw newidiadau.

2.9 Premiwm Anabledd Difrifol a Rheoliadau Trosglwyddo Dan Reolaeth

Cyflwynwyd rheoliadau newydd ar 16 Ionawr 2019 sy’n atal hawlwyr sy’n cael y Premiwm Anabledd Difrifol (SDP), neu sydd wedi ei gael o fewn y mis diwethaf ac yn parhau i fod â hawl iddo, rhag symud i Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os oes ganddynt newid perthnasol yn eu hamgylchiadau.

Yn lle hynny, bydd yr hawlwyr hyn yn parhau i hawlio budd-daliadau presennol nes bydd yr Adran yn eu symud i Gredyd Cynhwysol. Bydd diogelwch trosiannol ar gael i ddiogelu eu hawl budd-dal presennol.

Bydd y rheoliadau drafft hyn hefyd yn galluogi hawlwyr a oedd yn derbyn yr SDP ac sydd eisoes wedi symud drosodd i Gredyd Cynhwysol cyn 16 Ionawr 2019, i gael eu hystyried am daliad trosiannol.

Bydd hawlwyr cymwys yn derbyn taliad misol parhaus a chyfandaliad ychwanegol, i dalu am y cyfnod ers iddynt symud i Gredyd Cynhwysol unwaith y bydd y rheoliadau wedi eu cymeradwyo gan y Senedd.

Mwy o wybodaeth am becyn Rheoliadau Amrywiol Credyd Cynhwysol

2.10 Credyd Cynhwysol a theuluoedd gyda mwy na 2 o blant

Canllawiau a fydd yn eich helpu yn eich sgyrsiau gyda hawlwyr a allai gael eu heffeithio gan bolisi 2 o blant Credyd Cynhwysol.

2.11 Credyd Cynhwysol a phobl ddigartref

Cyhoeddwyd gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol i bobl ddigartref, y rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi ar Gov.uk ar 27 Tachwedd 2018.

2.12 Rhifau llinellau cymorth didyniadau trydydd parti ar gyfer ôl-ddyledion rhent

Telir landlordiaid cymdeithasol eu Taliad Wedi’i Reoli i landlord ac adennill ôl-ddyledion rhent drwy ddefnyddio cynllun taliadau trydydd parti.

Ar gyfer landlordiaid preifat, gwneir adennill ôl-ddyledion rhent drwy ddefnyddio cynllun taliadau trydydd parti.

Gwybodaeth bellach yn ymwneud â’r Cynllun Taliad Trydydd Parti a Rhif Cyfeirnod Credydwyr gan gynnwys:

  • llawlyfr credydwr - canllaw
  • y ffurflen i ddiwygio cyfeiriad credydwr
  • y ffurflen i ddiwygio manylion banc credydwr
  • y ffurflen i ddiwygio rhif cyfeirnod cwsmer

2.13 Cyfraddau budd-daliadau a phensiwn 2019 i 2020

Cyhoeddwyd rhestr o’r cyfraddau budd-daliadau a chyfraddau pensiwn ar gyfer 2019 i 2020 ar 23 Tachwedd 2018.

3. Gwybodaeth ar gyfer landlordiaid Sector Rhentu Cymdeithasol

3.1 Dilysiad dau ffactor ar gyfer defnyddwyr porth y landlord

Rydym nawr yn cyflwyno dilysiad dau ffactor ar gyfer defnyddwyr porth landlordiaid presennol.

Bydd hyn yn golygu y bydd angen i ddefnyddwyr gael mynediad i ffôn symudol. Bydd gofyn i ddefnyddwyr gofrestru rhif ffôn symudol sy’n gysylltiedig â’u cyfeiriad e-bost.

Ni ellir defnyddio’r un rhif fwy nag unwaith yn unrhyw le yn y porth waeth pa e-bost y mae’n gysylltiedig ag ef.

Bydd Rheolwr Cyfrif mewn cysylltiad â chi i gadarnhau eich dyddiad gweithredu maes o law.

Y penderfyniad dros symud i ddilysiad 2 ffactor yw ei fod yn gwella’r diogelwch sydd eisoes yn bodoli gyda phorth y landlord.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â dilysiad 2 ffactor, e-bostiwch: tp-lp.accountmanagerteam@dwp.gsi.gov.uk

3.2 Ystadegau porth y landlord

Ar 23 Ionawr 2019, roedd 651 o landlordiaid wedi cofrestru ar y porth (gan gynnwys Landlordiaid yng Ngogledd Iwerddon).

Fel ym mis Rhagfyr 2018, mae’r landlordiaid ymrestred yn cynrychioli dros 95% o gyfanswm stoc tai SRS yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ac ar hyn o bryd rydym yn cynllunio sut y gallwn gwblhau’r ymrestru ar gyfer landlordiaid bychan.

Mae’r rhestr o landlordiaid sydd â mynediad i’r porth yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd yn llyfrgell aelodau Tŷ’r Cyffredin.

Os ydych yn landlord cymdeithasol ac yn teimlo y byddech yn elwa o ddefnyddio’r porth, e-bostiwch:

tp-lp.accountmanagerteam@dwp.gsi.gov.uk

3.3 Bwletinau Credyd Cynhwysol i awdurdodau lleol 2018

Cyhoeddwyd Information for all local authority staff about Universal Credit -CC3/2018 ar Gov.uk ar 30 Tachwedd 2018.

Nod y Bwletin UC yw rhoi diweddariadau i gydweithwyr yn yr Awdurdod Lleol ar ddatblygiadau gyda Chredyd Cynhwysol a Chymorth Cynhwysol.

3.4 Cadarnhau Tai Sector Rhentu Cymdeithasol mewn Credyd Cynhwysol

Oedi wrth wirio costau tai Sector Rhent Cymdeithasol yw un o’r prif rwystrau i hawlwyr Credyd Cynhwysol (UC) gael eu hawl UC llawn (gan gynnwys unrhyw daliad sy’n ddyledus ar gyfer rhent) wedi’i dalu ar y cyfle cyntaf posibl.

Un o brif egwyddorion UC yw bod hawlwyr/tenantiaid yn gyfrifol am ddarparu ac yn berchen ar eu data eu hunain, gan gynnwys costau tai, mae hyn yn newid mawr i lawer o hawlwyr/tenantiaid sydd wedi hawlio Budd-dâl Tai o’r blaen.

Un o’r prif resymau dros yr oedi i UC wneud taliadau ar gyfer rhent yw hawlwyr sy’n rhoi manylion anghywir pan fyddant yn gwneud eu cais, gan arwain at anghysondeb gyda’r manylion a ddarperir gan eu landlord.

Mae hyn yn golygu bod angen gwneud ymholiadau pellach a all, yn ei dro, arwain at oedi wrth wneud taliadau.

Wrth wneud eu cais Credyd Cynhwysol, mae’n ofynnol i hawlwyr ddarparu a gofynnir i landlordiaid cymdeithasol gadarnhau’r canlynol:

  • swm y rhent
  • taliadau gwasanaeth cymwys ac anghymwys
  • amlder y taliad
  • nifer y tenantiaid ar y cytundeb tenantiaeth • nifer yr wythnosau o rent am ddim.

Mae mwy na 50% o hawlwyr UC yn cael un neu fwy o’r manylion hyn yn anghywir wrth gwblhau eu cais, gan arwain at ymholiadau pellach ac oedi posibl mewn taliadau.

Fel landlord, gallwch helpu hawlwyr/tenantiaid i gael yr arian cywir ar yr adeg gywir sy’n golygu y gellir talu rhent yn gyflymach a lleihau nifer yr hawlwyr/tenantiaid sy’n mynd i ôl-ddyledion rhent.

Mae’n bwysig bod hawlwyr yn cael eu paratoi a bod ganddynt y wybodaeth briodol ar eu cytundeb tenantiaeth neu ddogfen arall a ddarperir.

3.5 Diweddariad 53 Wythnos

Telir Credyd Cynhwysol ar gylch misol. Os oes gan denant atebolrwydd rhent wythnosol, bydd yn rhaid iddynt wneud naill ai 4 neu 5 o daliadau rhent mewn unrhyw fis.

Mae hyn yn golygu bod hawlwyr yn cael eu ‘gordalu’ gan UC mewn misoedd lle mae’n rhaid iddynt wneud 4 taliad rhent a chael eu ‘tan-dalu’ lle maent yn gwneud 5, ond dros amser mae hyn yn cydbwyso ei hyn allan

Mae’n amhosibl unioni cylchoedd talu wythnosol a misol yn gywir bob amser.

Nid oes unrhyw flwyddyn yn cynnwys 53 wythnos. Mae landlordiaid sy’n codi rhent yn wythnosol ar ddydd Llun bob 5 neu 6 blynedd yn gofyn am 53 o daliadau rhent mewn blwyddyn, gyda’r 53ain taliad yn rhannol yn cwmpasu’r denantiaeth am ychydig ddyddiau cyntaf y flwyddyn ganlynol oherwydd y modd y mae’r calendr yn disgyn.

Pan fo tenant yn gwneud taliad rhent 53ain wythnosol ar ddydd Llun olaf y flwyddyn 2019/20, dim ond 2 ddiwrnod o’r taliad hwnnw sy’n ymwneud ag atebolrwydd sy’n dod o fewn y flwyddyn honno (hy taliad sy’n cwmpasu dydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos honno gan fod ddydd Mercher yn disgyn yn y flwyddyn newydd).

Felly, mae 5 diwrnod o’r taliad hwnnw yn daliad ymlaen llaw am y mis canlynol a dim ond 4 dydd Llun sydd gan y mis hwnnw ac o ganlyniad pedwar taliad rhent.

Mae’r cyfuniad o’r taliad rhent ymlaen llaw a’r ‘gordaliad’ ym mis Ebrill 2020 yn golygu bod y diffyg yn cael ei adfer ar unwaith.

Mae’r Adran wedi cydnabod bod yna fater ar wahân o ran y modd y mae’r cyfrifiad yn y rheoliadau Credyd Cynhwysol yn trosi atebolrwydd wythnosol i lwfans misol.

Cyflawnir yr addasiad trwy luosi’r rhent wythnosol gyda 52 ac yna’n rhannu gyda 12. Mae hyn yn golygu nad yw UC yn cwmpasu rhent am un dydd y flwyddyn (2 ddiwrnod mewn blynyddoedd naid.

Ar hyn o bryd rydym yn ystyried a ddylid diwygio’r cyfrifiad hwn o gwmpas rhentu wythnosol, a symiau wythnosol eraill posibl o fewn y cyfrifiad UC.

3.6 Cylchlythyrau’r dyfodol i landlordiaid Credyd Cynhwysol

Rydym yn gobeithio eich bod wedi canfod y cylchlythyr hwn yn ddefnyddiol. Os oes unrhyw beth penodol yr hoffech ei weld yn rhifynnau’r cylchlythyr hwn yn y dyfodol, anfonwch e-bost at:

uc.strategiclandlordengagement@dwp.gsi.gov.uk