Ystadegau Swyddogol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ebrill 2018

Cyhoeddwyd 13 June 2018

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2018

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£156,495

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

4.4%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

1.6%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

114.9

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2018 am 9.30am ddydd Mehefin 13 Gorffennaf 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 4.4% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018, i fyny o 4.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018. Mae prisiau tai yng Nghymru yn tyfu ychydig yn gynt a chyfradd flynyddol y DU o 3.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018. Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ebrill 2018 mai 11,860 oedd nifer y trafodion heb eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 yn Chw1 2018. Mae hyn i lawr 4.7% o’i gymharu â Chw1 2017 ac i lawr 22.5% o’i gymharu â Chw4 2017.

Ar draws Cymru, dangosodd yr holl fathau o eiddo gynnydd yn y pris cyfartalog yn Ebrill 2018 o’i gymharu â’r un mis y flwyddyn flaenorol. Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai ar wahân, gan godi 6.0% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018 i £223,000. Dangosodd pris cyfartalog tai teras gynnydd o 0.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill i £110,000, y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo.

Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 19 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Sir Fynwy oedd yr ardal ddrytaf i fyw, lle mai £254,000 oedd pris tŷ cyfartalog yn Ebrill 2018. Mae hyn £20,000 yn uwch nag yn Ebrill 2017 ond £3,000 yn is na mis diwethaf.

O Ebrill 2018, disodlwyd Treth Tir Toll Stamp y DU gan Dreth Trafodiadau Tir newydd yng Nghymru. Ym Mawrth 2018, profodd rhai awdurdodau lleol yng Nghymru, fel Sir Fynwy, dwf cryfach mewn prisiau tai a gwympodd yn ôl wedi hynny yn Ebrill 2018. Gall hyn fod o ganlyniad i’r rheiny a oedd yn prynu eiddo yn ceisio cwblhau cyn cyflwyno’r system newydd.

Fel gyda dangosyddion eraill yn y Farchnad Dai, sydd fel rheol yn amrywio o fis i fis, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar set ddata prisiau tai unrhyw fis unigol.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years

Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.4% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018 (i fyny o 4.2% ym Mawrth 2018).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ebrill 2018 Ebrill 2017 Gwahaniaeth
Abertawe £144,586 £138,534 4.4%
Blaenau Gwent £85,965 £82,675 4%
Bro Morgannwg £228,640 £207,595 10.1%
Caerdydd £202,562 £192,273 5.4%
Caerffili £129,928 £122,701 5.9%
Casnewydd £171,743 £156,147 10%
Castell-nedd Port Talbot £111,413 £107,716 3.4%
Ceredigion £188,165 £174,366 7.9%
Conwy £162,299 £156,113 4%
Gwynedd £144,018 £147,867 -2.6%
Merthyr Tudful £100,022 £96,699 3.4%
Pen-y-bont ar Ogwr £143,467 £139,639 2.7%
Powys £181,237 £170,330 6.4%
Rhondda Cynon Taf £105,327 £100,624 4.7%
Sir Benfro £162,626 £159,955 1.7%
Sir Ddinbych £150,971 £142,841 5.7%
Sir Fynwy £253,752 £233,742 8.6%
Sir y Fflint £158,903 £160,254 -0.8%
Sir Gaerfyrddin £134,951 £133,121 1.4%
Tor-faen £142,483 £126,450 12.7%
Wrecsam £157,088 £151,370 3.8%
Ynys Môn £168,413 £170,618 -1.3%
Cymru £156,495 £149,900 4.4%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales

Yn Ebrill 2018, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £254,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £86,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ebrill 2018 Ebrill 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £233,124 £226,558 2.9%
Tŷ pâr £151,096 £143,544 5.3%
Tŷ teras £122,904 £115,920 6.0%
Fflat neu fflat deulawr £110,388 £109,399 0.9%
Holl £156,495 £149,900 4.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Chwefror 2018 Chwefror 2017 Gwahaniaeth
Abertawe 234 235 -0.4%
Blaenau Gwent 68 62 9.7%
Bro Morgannwg 137 138 -0.7%
Caerdydd 335 379 -11.6%
Caerffili 151 164 -7.9%
Casnewydd 168 189 -11.1%
Castell-nedd Port Talbot 119 138 -13.8%
Ceredigion 63 74 -14.9%
Conwy 145 153 -5.2%
Gwynedd 115 133 -13.5%
Merthyr Tudful 46 45 2.2%
Pen-y-bont ar Ogwr 171 147 16.3%
Powys 119 116 2.6%
Rhondda Cynon Taf 204 242 -15.7%
Sir Benfro 124 130 -4.6%
Sir Ddinbych 95 102 -6.9%
Sir Gaerfyrddin 200 187 7.0%
Sir Fynwy 74 98 -24.5%
Sir y Fflint 121 174 -30.5%
Tor-faen 82 108 -24.1%
Wrecsam 104 140 -25.7%
Ynys Môn 63 71 -11.3%
Cymru 2,947 3,225 -8.6%

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Chwefror 2014 2,958
Chwefror 2015 2,750
Chwefror 2016 3,215
Chwefror 2017 3,225
Chwefror 2018 2,947

5. Statws eiddo

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £211,726 5.1% 11.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £149,937 0.3% 4.8%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £135,641 2.2% 4.7%
Cyn berchen-feddiannydd £180,660 0.9% 4.1%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Ebrill 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £151,696 1.3% 3.8%
Morgais £159,345 1.8% 4.8%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Chwefror 2018
Cymru 60

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317