Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ebrill 2017
Cyhoeddwyd 13 Mehefin 2017
Yn berthnasol i Gymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2017
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£147,921
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
4.2%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
0.9%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Chwefror 2015 = 100) oedd
108.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Newid mewn prisiau
2.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

In welsh
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anghysondeb yn y gyfres. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer anghysondeb, gall y newid mewn prisiau ar y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo mewn unrhyw gyfnod arbennig.
| Awdurdodau lleol | Ebrill 2017 | Ebrill 2016 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £137,840 | £135,220 | 1.9% |
| Blaenau Gwent | £80,162 | £78,359 | 2.3% |
| Bro Morgannwg | £203,392 | £195,471 | 4.1% |
| Caerdydd | £190,901 | £188,739 | 1.1% |
| Caerffili | £121,879 | £113,343 | 7.5% |
| Casnewydd | £153,683 | £145,944 | 5.3% |
| Castell-nedd Port Talbot | £109,558 | £105,365 | 4.0% |
| Ceredigion | £173,754 | £164,698 | 5.5% |
| Conwy | £154,630 | £144,357 | 7.1% |
| Gwynedd | £146,470 | £142,769 | 2.6% |
| Merthyr Tudful | £98,347 | £90,325 | 8.9% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £138,708 | £135,361 | 2.5% |
| Powys | £170,112 | £164,543 | 3.4% |
| Rhondda Cynon Taf | £97,763 | £100,915 | -3.1% |
| Sir Benfro | £159,605 | £160,623 | -0.6% |
| Sir Ddinbych | £146,895 | £139,308 | 5.4% |
| Sir Fynwy | £234,268 | £216,486 | 8.2% |
| Sir y Fflint | £159,475 | £153,496 | 3.9% |
| Sir Gaerfyrddin | £130,788 | £125,281 | 4.4% |
| Tor-faen | £122,979 | £124,771 | -1.4% |
| Wrecsam | £146,891 | £143,521 | 2.3% |
| Ynys Môn | £173,726 | £160,019 | 8.6% |
| Cymru | £147,921 | £141,925 | 4.2% |
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

welsh Average price by local authority for Wales
2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Ebrill 2017 | Ebrill 2016 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £224,445 | £211,634 | 6.1% |
| Tŷ pâr | £142,802 | £136,443 | 4.7% |
| Tŷ teras | £113,750 | £111,190 | 2.3% |
| Fflat neu fflat deulawr | £105,742 | £101,554 | 4.1% |
| Holl | £147,921 | £141,925 | 4.2% |
3. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol: Chwefror 2017
| Awdurdodau lleol | Nifer y gwerthiannau |
|---|---|
| Abertawe | 208 |
| Blaenau Gwent | 60 |
| Bro Morgannwg | 115 |
| Caerdydd | 346 |
| Caerffili | 154 |
| Casnewydd | 174 |
| Castell-nedd Port Talbot | 125 |
| Ceredigion | 65 |
| Conwy | 146 |
| Gwynedd | 120 |
| Merthyr Tudful | 48 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 136 |
| Powys | 104 |
| Rhondda Cynon Taf | 214 |
| Sir Benfro | 119 |
| Sir Ddinbych | 97 |
| Sir Gaerfyrddin | 162 |
| Sir Fynwy | 86 |
| Sir y Fflint | 147 |
| Tor-faen | 98 |
| Wrecsam | 122 |
| Ynys Môn | 58 |
| Cymru | 2,908 |
3.2 Nifer y gwerthiannau: Chwefror 2017
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Chwefror 2013 | 2077 |
| Chwefror 2014 | 3057 |
| Chwefror 2015 | 2828 |
| Chwefror 2016 | 3188 |
| Chwefror 2017 | 2908 |
4. Statws adeiladu
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
| Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £205,602 | 0.0% | 10.6% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £144,797 | 0.9% | 3.9% |
5. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £127,622 | 0.8% | 3.6% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £171,627 | 0.9% | 4.9% |
6. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £144,106 | 0.6% | 4.5% |
| Morgais | £150,184 | 1.0% | 4.1% |
7. Nifer yr adfeddiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer yr adfeddiannau yn ôl rhanbarth swyddfa’r llywodraeth: Chwefror 2017
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu |
|---|---|
| Cymru | 57 |
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084.