Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mawrth 2018

Cyhoeddwyd 23 May 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2018

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£224,144

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

4.2%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.2%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

117.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2018 am 9.30am ddydd Mercher 23 Mehefin 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 4.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018, yn ddigyfnewid o’r flwyddyn hyd at Chwefror 2018.

Wrth edrych ar y galw am dai, dangosodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mawrth 2018 fod y gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd wedi lleihau am y 12fed mis yn olynol. Mae RICS yn sôn am bryderon ynghylch fforddiadwyedd a diffyg cyfarwyddiadau newydd fel ffactorau sy’n llesteirio galw.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod y gweddill net ar gyfer ei gyfres cyfarwyddiadau newydd wedi gostwng unwaith eto. Mae stociau cyfartalog fesul asiant tai sy’n ymateb wedi aros yn agos i’r lefel isaf erioed. Mae disgwyliadau o ran gwerthiannau a phrisiau yn parhau i fod yn wastad yn y tymor byr. Ceir mwy o optimistiaeth yn y rhagolygon tymor hwy, yn enwedig o ran prisiau.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mawrth 2018 ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafwyd 92,270 o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 11.8% yn is o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Chwefror a Mawrth 2018, lleihaodd trafodion gan 7.2%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafodd 62,914 o forgeisiau eu cymeradwyo ym Mawrth 2018. Mae hwn yn lleihad o 867 ers y mis blaenorol ac yn is na’r cyfartaledd 6 mis o 65,162. Ystyrir bod nifer y morgeisiau a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.

Wrth edrych ar y lefel sirol a rhanbarthol, dangosodd yr Alban y twf blynyddol mwyaf ar 6.7%, i lawr o 6.8% yn y mis blaenorol. Yr ardal oedd yr ail gyflymaf i dyfu oedd Dwyrain Lloegr ar 5.8%. Gwelwyd y twf blynyddol lleiaf yn Llundain a gofnododd dwf blynyddol negyddol mewn prisiau am yr ail fis yn olynol ar -0.7%, i lawr o -0.1% yn y mis blaenorol.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past 5 years welsh

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018 (yn ddigyfnewid o Chwefror 2018).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn yr Alban, lle y cynyddodd prisiau tai gan 6.7% dros y flwyddyn hyd at Fawrth 2018.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 3.5% dros y 12 mis diwethaf.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.0% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.2% dros y flwyddyn i chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2018.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £152,999 -0.1% 3.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2018) £130,026 0.3% 4.2%
Lloegr £240,949 -0.3% 4.0%
Yr Alban £146,009 0.5% 6.7%
De Ddwyrain Lloegr £320,682 -0.2% 3.3%
De Orllewin Lloegr £249,839 -0.3% 4.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £184,736 -0.6% 5.6%
Dwyrain Lloegr £291,415 1.0% 5.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £188,697 -0.8% 5.1%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £124,381 -1.5% 2.1%
Gogledd Orllewin Lloegr £157,461 -0.3% 5.2%
Llundain £471,944 -0.9% -0.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £155,251 -0.3% 3.7%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Mawrth 2018 a Chwefror 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mawrth 2018 Mawrth 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £342,722 £325,539 5.3%
Tŷ pâr £210,283 £201,056 4.6%
Tŷ teras £180,941 £172,990 4.6%
Fflat neu fflat deulawr £200,157 £196,247 2.0%
Holl £224,144 £215,078 4.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ionawr 2018 Ionawr 2017 Gwahaniaeth
Lloegr 50,583 57,498 -12.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2018) 4,545 5,187 -12.4%
Yr Alban 5,909 6,380 -7.4%
Cymru 2,834 3,056 -7.3%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Ionawr

sales welsh

Yn Ionawr 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 12.9% o’i gymharu ag Ionawr 2017. O’i gymharu â Rhagfyr 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 39.4%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ionawr 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2018 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gweler ein polisi diwygiadau am ragor o wybodaeth.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £282,885 1.8% 5.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £220,600 -0.5% 4.4%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £188,429 -0.5% 3.7%
Cyn berchen-feddiannydd £260,893 0.0% 4.7%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Mawrth 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £213,915 -0.2% 4.2%
Morgais £233,696 -0.2% 4.2%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
lorna.jordan@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk

Ffôn
(0)131 659 6111 Est. 6387