Skip to main content
Canllawiau

Adolygiad Timms y Taliad Annibyniaeth Personol: cynnal gweithdy

Mae’r ‘Gweithdy mewn bocs’ hwn yn darparu’r deinyddiau i gynnal sesiynau sy’n casglu barn ar gyfer Adolygiad Timms y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2024 to 2026 Starmer Labour government

Dogfennau

Gweithdy mewn bocs dec sleidiau

Dogfen agored– Gweithdy mewn bocs dec sleidiau

Amdanoch chi ffurflen

Ffurflen amdanoch chi

Sleidiau gweithdy

Awgrymiadau am gwestiynau

Canllaw i'r hwylusydd

BSL – gweithdy mewn bocs dec sleidiau

BSL – canllawiau i’r hwylusydd

BSL - awgrymiadau ar gyfer cwestiynau 'Gweithdy mewn Blwch

BSL – gwybodaeth i'r mynychwyr

BSL - Ffurflen 'Amdanoch chi

Hawdd ei Ddarllen - Ffurflen 'Amdanoch chi'

Manylion

Bydd cyflwyniadau ar gyfer barn a gesglir drwy’r gweithdy mewn bocs yn agor am 8am ar 8 Mehefin 2026.

Mae’n cau am 5pm ar 17 Gorffennaf 2026.

Dylech gyflwyno barn drwy’r ffurflen ymateb ar-lein.

Gweithdy mewn bocs

Mae’r llywodraeth wedi lansio’r Adolygiad Timms i sicrhau bod PIP yn deg ac yn helpu i gefnogi pobl anabl.

Mae’r gweithdy mewn bocs yn ffordd o helpu pobl a sefydliadau i gasglu a rhannu barn gan bobl am effaith PIP ar eu bywydau.

Bydd adborth o’r gweithdai yn rhan hanfodol o Adolygiad Timms. Bydd y grŵp llywio yn trafod mewnwelediadau gan weithdai i helpu i lunio’r argymhellion a fydd yn cael eu cyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol.

Mae’r Gweithdy mewn bocs yn cael ei weinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar ran grŵp llywio Adolygiad Timms. Mae’r grŵp llywio yn goruchwylio’r rhaglen aml-haen o gyfranogiad ac ymgysylltu ac yn tynnu ar ystod eang o dystiolaeth a ffynonellau i ddatblygu argymhellion.

Cynnal gweithdy

Mae’r gweithdy mewn bocs ar gyfer unrhyw un a hoffai gynnal gweithdy, gan gynnwys Sefydliadau Pobl Fyddar ac Anabl, elusennau anabledd neu iechyd, grwpiau cymunedol a chynrychiolwyr etholedig.

Rydym wedi cysylltu â nifer fach o sefydliadau i gynnig cefnogaeth i gyflwyno gweithdai hygyrch gyda grwpiau a chymunedau lleol yn eu rhwydweithiau. Mae’r sefydliadau hyn wedi’u hadnabod am eu gallu i gyrraedd unigolion a grwpiau sy’n llai tebygol o ymgysylltu ag ymchwil y llywodraeth neu ymgynghoriadau cyhoeddus, gan gynnwys y rhai o gymunedau sydd wedi’u hymylu neu heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae unrhyw gefnogaeth ariannol a ddarperir wedi’i chyfyngu i dalu costau rhesymol sy’n gysylltiedig â hygyrchedd a chyflwyno, megis llogi lleoliad ac anghenion cymorth, ac nid yw wedi’i fwriadu fel taliad am gyfranogiad.

Gellir cynnal gweithdai wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Gellir addasu deunyddiau ar gyfer anghenion y rhai sy’n mynychu gweithdy. Gallai hyn gynnwys newid yr hyn a gwmpesir neu amseriadau gweithdy.

Deunyddiau sydd ar gael

Mae 5 dogfen i gefnogi cynnal gweithdy:

  • Pecyn sleidiau Gweithdy mewn bocs – pecyn sleidiau gyda thempled awgrymedig ar gyfer gweithdy 2 awr, sy’n cynnwys cwestiynau ac awgrymiadau
  • canllaw hwylusydd – gwybodaeth i’r rhai sy’n cynnal gweithdai, sy’n cynnwys canllawiau ar sut i newid deunyddiau
  • taflen wybodaeth y cyfranogwr – gwybodaeth am gefndir Adolygiad Timms i’w rannu gyda’r rhai sy’n mynychu gweithdy
  • ffurflen ‘amdanoch chi’ – ffurflen i gyfranogwyr ei llenwi i helpu i gasglu gwybodaeth am gyrhaeddiad y cynnig Gweithdy mewn bocs
  • Canllawiau Hwylusydd Ychwanegol – Canllawiau ar ba awgrymiadau i’w defnyddio ar gyfer pob cwestiwn a sut y gellir addasu’r cwestiynau.

Mae fersiynau Saesneg o’r holl atodiadau hefyd ar gael nawr.

I ofyn am fformatau hygyrch eraill, anfonwch e-bost at timmsreview.workshopinabox@dwp.gov.uk.

Cyflwyno ymatebion

Gofynnwn i’r rhai sy’n cynnal gweithdai rannu barn o’r gweithdy drwy’r ffurflen ymateb ar-lein.

Cwblhewch un ffurflen ymateb fesul gweithdy.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflenni ymateb uchod, gallwch e-bostio ymatebion i timmsreview.workshopinabox@dwp.gov.uk.

Fersiynau amgen o’r ffurflen ymateb

Rydym wedi creu’r fersiynau canlynol o’r ffurflen ymateb ar-lein:

  • BSL
  • sain
  • print bras
  • Hawdd ei Ddarllen

Gellir e-bostio’r rhain i timmsreview.workshopinabox@dwp.gov.uk am unrhyw fersiynau sydd eu hangen ac i anfon eich ymateb.

Cymorth

Gallwch e-bostio unrhyw gwestiynau sydd gennych i timmsreview.workshopinabox@dwp.gov.uk.

Gwnaeth y tîm Adolygiad Timms gynnal 2 sesiwn i ateb cwestiynau. Cynhaliwyd y rhain ar:

  • Dydd Mercher 10 Mehefin, 2pm i 3pm
  • Dydd Mawrth 16 Mehefin, 11am i 12pm

Cafodd y sesiynau eu recordio ac maent ar gael i’r mynychwyr.

Adborth ar y gweithdy mewn bocs

Hoffai’r grŵp llywio glywed gennych os ydych chi wedi ymuno â gweithdy neu wedi’i gynnal.

Bydd hyn yn ein helpu i ddysgu beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellid ei wneud yn wahanol i wella profiad y rhai sy’n cymryd rhan. Os hoffech rannu eich barn, gallwch lenwi’r ffurflen adborth ddewisol i gyfranogwyr ac i hwyluswyr.

Mae ffurflenni adborth ar gael mewn amrywiaeth o fersiynau hygyrch ar gais. E-bostiwch timmsreview.workshopinabox@dwp.gov.uk i ofyn am y fersiynau hyn

Diogelu data a chyfrinachedd

Bydd DWP yn dadansoddi ac yn crynhoi ymatebion ac efallai y byddant yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynorthwyo gyda thrin ymatebion - bydd hyn o dan oruchwyliaeth ddynol ac ni fydd yn disodli barn ddynol wrth ystyried tystiolaeth. Gall fersiwn ddienw o’ch ymateb gael ei chyhoeddi mewn rhestr o ymatebion, mewn crynodeb o ymatebion a dderbyniwyd, ac mewn unrhyw adroddiadau adolygu dilynol. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich data personol lle bo’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol, er enghraifft mewn perthynas â chais a wnaed o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Byddwn yn tynnu gwybodaeth a allai eich adnabod, fel cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn o’r ymatebion hyn, ond ar wahân i hyn efallai y byddwn yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Gallwch hepgor gwybodaeth bersonol o’ch ymateb yn gyfan gwbl os byddai’n well gennych wneud hynny.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Gorffennaf 2026 Show all updates
  1. Added accessible versions of documents in Welsh. The landing page has also been updated to reflect this.

  2. Added an updated audio version of the 'Workshop in a box' slide deck and new audio versions of the 'About you' form and 'Suggested prompts for Workshop in a Box'.

  3. Added 'About You' attachments in standard, easy read, BSL, and large print formats. Added 'Suggested prompts for Workshop in a Box Questions' in standard, BSL, large print, Welsh formats.

  4. Added BSL version of facilitator guidance.

  5. Added translation

Argraffu'r dudalen hon