Adolygiad Timms o Daliad Annibyniaeth Personol: adroddiad terfynol
Dyma adroddiad terfynol Adolygiad Timms o Daliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Dogfennau
Manylion
Sefydlwyd Adolygiad Timms i sicrhau bod Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn deg ac yn addas ar gyfer y dyfodol mewn byd sy’n newid.
Cyd-gynhyrchwyd Adolygiad Timms gyda grŵp llywio a chlywyd gan dros 40,000 o bobl a sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig.
Cyd-gadeiriwyd Adolygiad Timms gan:
-
Syr Stephen Timms, Gweinidog Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd
-
Sharon Brennan
-
Dr Clenton Farquharson CBE
Mae’r adroddiad terfynol hwn yn nodi argymhellion a gweledigaeth y grŵp llywio ar gyfer budd-dal diwygiedig.
Mae’r adroddiad wedi’i gyhoeddi yn Gymraeg, ac mae fersiynau hygyrch yn cynnwys:
-
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
-
Hawdd ei Ddarllen
-
sain
-
print bras
-
Braille
I ofyn am gopi o’r fersiwn Braille, neu gopïau o fersiynau hygyrch eraill a gyhoeddwyd o’r adroddiad hwn, anfonwch e-bost atom yn accessibility.timmsreview@dwp.gov.uk.